Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 15 Mai 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau'r Aelod ar hyn, ac rwy'n cofio'n iawn y rhan a chwaraeodd ef a'i blaid yn y trafodaethau hyn. Rydych yn llygad eich lle, mae hyn yn ymwneud â'r newid diwylliannol a'r arweinyddiaeth sy'n ofynnol i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hegwyddor datblygu cynaliadwy. Mewn gwirionedd, os edrychwch yn y Ddeddf, mae'n dweud yn hollol glir fod:
'unrhyw gyfeiriad at y ffaith bod corff cyhoeddus yn gwneud rhywbeth “yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy” yn golygu bod yn rhaid i’r corff weithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.'
Mae hynny bellach mewn statud. Roedd yn bwysig adeiladu ar ein hegwyddorion gwreiddiol o ran datblygu cynaliadwy yn neddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Felly, ydy, mae'n ddyddiau cynnar, yn amlwg, ac mae angen i ni asesu effaith rôl comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, a'r ddeddfwriaeth yn wir.
Rhaid imi ddweud, pan oeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, fwy nag unwaith cawsom y comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i'n helpu, ac roedd yn gymorth mawr wrth edrych ar ein proses o lunio cyllideb, er enghraifft. Mae hi wedi dylanwadu'n fawr, er enghraifft, ar symud tuag at ddull mwy ataliol o ymdrin â'n cyllidebau ac edrych, o ran iechyd, ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r anghenion hirdymor ac nid rheoli argyfwng yn unig yn y gwasanaeth iechyd—rhywbeth sy'n hollbwysig mewn perthynas â gofal iechyd darbodus, a hollbwysig yn wir o ran amcanion yr adolygiad seneddol trawsbleidiol mewn perthynas â Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol.
Mae 44 o gyrff cyhoeddus yn ddarostyngedig i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond nid yw eraill—yr heddlu, er enghraifft—wedi'u datganoli. Maent wedi croesawu egwyddorion craidd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol am eu bod yn eu gweld fel modd o wella'r ffordd y darparant wasanaethau. Gwn fod y comisiynydd ei hun mewn erthygl yn ddiweddar wedi dweud mai dyma'r rhaglen newid diwylliannol fwyaf a welodd Cymru erioed.
Mae'n rhaid i ni sicrhau ei bod hi'n hynny. Mae angen i ni fuddsoddi yn y ffordd yr awn ati i newid y diwylliant fel y bydd pobl yn dechrau meddwl mwy am y tymor hir. Yn y Llywodraeth, rydym mor aml yn meddwl am y tymor byr, yr argyfwng—mae'r Ddeddf yn ymwneud â'r tymor hir. Mae eraill yn edrych o wahanol rannau o'r byd i weld sut y cyflawnwn y ddeddfwriaeth newydd hon. Ond byddwn yn adrodd—mae ganddi ddyletswydd i adrodd beth bynnag ar ffurf yr adroddiad cenedlaethau'r dyfodol—gan asesu ar bob cam o'r ffordd sut y caiff ei chyflawni a dysgu'r gwersi.