Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 15 Mai 2019.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jenny am godi'r mater pwysig hwn? Yn ddiamau, gall prydau ysgol iach gyfrannu at les disgyblion, eu cyrhaeddiad a'u hymddygiad cadarnhaol. Rydym wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ein plant yn cael bwyd iachach yn ein hysgolion, ond rwy'n credu y gallwn wneud mwy.
Mae gwella iechyd a lles plant yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad addysgol ein dysgwyr. Mae sicrhau bod plant yn cael bwyd iachach a maethlon yn yr ysgol yn bwysig er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae bwyd yn bwydo'r corff ac yn darparu tanwydd ar ei gyfer, ond mae hefyd yn bwydo'r ymennydd. Mae'n hanfodol er mwyn sicrhau lles plant, a phan fydd ein plant yn hapus a heb fod yn newynog yn yr ysgol, gallant ffynnu a dysgu go iawn.
A gaf fi achub y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i ddiolch i'r rhai yn ein hysgolion sy'n gweithio mor galed bob dydd i ddarparu'r prydau hyn i'n plant? Bydd llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod fy mam-gu wedi bod yn gogydd yn Ysgol Gynradd Blaenymaes yn Abertawe am flynyddoedd lawer; fe bliciodd lawer o datws i'r plant yno, ond gallaf ddweud wrthych iddi gael boddhad mawr yn darparu'r prydau hynny hefyd.
Mae'r Llywodraeth wedi cwblhau ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Yng Nghymru, gwyddom fod un o bob pedwar plentyn yn dechrau'r ysgol gynradd dros bwysau neu'n ordew, ac nid yw arferion bwyta bwyd a dirywiad yn y lefelau gweithgarwch corfforol yn newydd. Maent wedi cronni dros genedlaethau. A gwyddom hefyd fod cydberthyniad cryf iawn ag anghydraddoldeb iechyd. Ni chredaf y dylem adael i fwy o blant dyfu fyny ag arferion deietegol gwael neu ddiffyg gweithgarwch corfforol digonol yn eu bywydau bob dydd, ond rwy'n deall hefyd nad oes un ateb na ffordd syml o newid hyn. Mae gennym i gyd rôl i'w chwarae. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn mis Gorffennaf, a bydd strategaeth derfynol yn cael ei lansio ym mis Hydref, i nodi ein dull gweithredu 10 mlynedd a'n huchelgais i wrthdroi'r duedd.
Rwyf wedi ymrwymo i ddiweddaru ein rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, a gyflwynwyd yn 2013, fel eu bod yn cynnwys arferion gorau a'r cyngor mwyaf cyfredol—er enghraifft, ar lefelau bwyta siwgr a ffibr yn ein deiet. Ond gadewch imi fod yn glir: awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r rheoliadau, a dylai unrhyw un sy'n ymwneud â darparu bwyd a diod mewn ysgolion a gynhelir fod yn ymwybodol o'r gofynion statudol os ydynt yn cynllunio bwydlenni, os ydynt yn prynu neu'n caffael bwyd a pharatoi bwyd a diod ar gyfer ein hysgolion. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gaffael bwyd mewn ysgolion, ac mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gaffael eisoes yn caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol gaffael cynnyrch o Gymru, ond nid yw'n gosod gofyniad i wneud hynny. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfaoedd a allai wneud y cyflenwad o gynnyrch mewn rhai achosion naill ai'n anfforddiadwy neu weithiau'n annigonol. Ond mae rhai awdurdodau lleol, yn enwedig ein rhai gwledig, eisoes yn caffael cynnyrch lleol i'w defnyddio yn eu hysgolion. Mae nifer o fanteision i hynny. Yn gynharach heddiw, clywais bobl yn siarad am filltiroedd bwyd a chynaliadwyedd, ond mewn gwirionedd, mae llawer o'r ysgolion hynny'n bwrw ati wedyn i ddefnyddio'r bwyd hwnnw fel ffordd arloesol o siarad am gynhyrchu bwyd a maeth bwyd fel rhan o'r cwricwlwm ysgol ehangach, ac rwy'n cymeradwyo dulliau ac arloesedd o'r fath gan yr awdurdodau lleol sy'n gwneud hynny. Fel yr amlinellodd Mike Hedges, dylai llywodraethwyr gyflwyno adroddiad ar fwyd ysgol i'r rhieni drwy eu hadroddiad blynyddol, ac mae'n ddarostyngedig i arolwg Estyn.
O ran dŵr, gadewch i mi fod yn gwbl glir—ni ddylai fod angen i mi fod, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir—mae mynediad rhydd a hwylus at ddŵr yfed yn orfodol. Mae'n glir iawn fod hynny'n ofyniad yn adran 6 y Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn ôl yn 2009. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r achos y cyfeiriodd y comisiynydd plant ato, er nad oedd y comisiynydd mewn sefyllfa i ddweud wrthyf pa ysgol ydoedd oherwydd buaswn i neu fy adran yn sicr wedi bod mewn cysylltiad â'r ysgol honno. Heb y wybodaeth honno, fe atgoffais ac fe roddais wybod i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol am eu cyfrifoldebau ar hyn drwy gylchlythyr Dysg ar 13 Mawrth.