– Senedd Cymru am 4:35 pm ar 15 Mai 2019.
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, prydau ysgol iach, a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7002 Jenny Rathbone, Dai Lloyd, Joyce Watson
Cefnogwyd gan Darren Millar, David Rowlands, Mike Hedges, Russell George, Vikki Howells
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gall prydau ysgol iach, maethlon wneud cyfraniad hanfodol i les, cyrhaeddiad ac ymddygiad cadarnhaol disgyblion.
2. Yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant, Siarter Ar Gyfer Newid: Amddiffyn Plant yng Nghymru rhag Effaith Tlodi, yn darparu tystiolaeth sy'n peri pryder nad yw nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael yr hawl a nodir yng nghanllawiau bwyta'n iach mewn ysgolion a gynhelir.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro ai cyfrifoldeb llywodraethwyr ysgolion, awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yw safonau prydau ysgol a pha gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau eu bod yn cael eu monitro; a
b) amlinellu pa gamau sy'n cael eu cymryd i gynyddu faint o fwyd ar gyfer ysgolion sy'n cael ei gaffael yn lleol fel rhan o'i phwyslais ar yr economi sylfaenol.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, ymwelais ag ysgol Parc Cornist yn Sir y Fflint i edrych ar y ddarpariaeth amser cinio. Pam? Gan mai Sir y Fflint oedd yr unig arlwywr ysgolion yng Nghymru i fod wedi cyflawni ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd. Beth a welais? Roedd pob plentyn yn cael y pryd bwyd yr oeddent wedi'i ddewis adeg cofrestru y bore hwnnw. Hyd yn oed os oeddent yn olaf i mewn, fe wyddent fod eu henw ar y pryd bwyd hwnnw. Roedd hyn yn cael gwared ar y pryder sydd gan rai plant ynglŷn â bwyta rhywbeth nad ydynt yn ei hoffi neu nad ydynt yn ei adnabod. Roedd goruchwylwyr prydau bwyd yn annog pob plentyn i ychwanegu rhywfaint o salad at eu pryd bwyd, gan dargedu'r nod o saith y dydd; cogydd ymroddedig gyda sgiliau i ddiwallu'r canllawiau bwyta'n iach; y nesaf peth i ddim gwastraff mewn byd lle mae traean o'r holl fwyd yn cael ei daflu; ymagwedd ysgol gyfan at fwyd; arddangosiadau o amgylch yr ysgol yn dathlu bwyd; ac unwaith y mis câi aelodau eraill o'r teulu eu gwahodd i ddod i ginio i helpu i ledaenu'r neges ynglŷn â bwyd iach.
Awgrymaf fod angen hyn ym mhob ysgol er mwyn cyflawni amcanion 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Mae pob ysgol gynradd yn llenwi'r gofrestr ar ddechrau'r diwrnod ysgol. Felly pam na all pob disgybl cynradd ddewis eu cinio ar yr un pryd? Mae'n dechrau digwydd yng Nghaerdydd, ond yn bendant nid yw ar gael i bawb. Beth sydd i beidio â'i hoffi ynglŷn â chael gwared ar wastraff a phryderon plant?
Mae ardystiad Bwyd am Oes Cymdeithas y Pridd yn dynodi sicrwydd ansawdd. Mae'n bodoli yma yn ffreutur y Senedd. Beth sydd ei angen i gyflawni'r amcan hwnnw mewn ysgolion? Yn gyntaf, rhaid i arlwywyr ysgolion ddangos eu bod yn cydymffurfio â'r canllawiau cenedlaethol ar fwyta'n iach. Rhaid i o leiaf dri chwarter yr eitemau ar y fwydlen fod wedi'u paratoi'n ffres o gynhwysion heb eu prosesu. Rhaid i unrhyw gig ddod o ffermydd sy'n bodloni safonau lles anifeiliaid. Ni ddylai unrhyw bysgod fod ar restr 'pysgod i'w hosgoi' y Gymdeithas Cadwraeth Forol. Rhaid i wyau fod yn wyau maes. Ni ellir defnyddio unrhyw ychwanegion annymunol, traws-frasterau artiffisial na chynhwysion a addaswyd yn enetig, ac mae dŵr yfed am ddim ar gael yn amlwg—a heb ei guddio yn y toiledau. Mae'r bwydlenni'n dymhorol a thynnir sylw at gynnyrch sydd yn ei dymor. Caiff yr holl gyflenwyr eu dilysu gan Gymdeithas y Pridd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau bwyd priodol; fel arall, pwy a ŵyr fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd? Yn anad dim, yn fy marn i, caiff staff arlwyo hyfforddiant mewn paratoi bwyd ffres, gan fod hyn yn rhywbeth na allwn ei gymryd yn ganiataol, yn anffodus.
Mae dros 10,000 o ysgolion Lloegr yn defnyddio ardystiad Cymdeithas y Pridd i ddynodi cydymffurfiaeth ddirprwyol ynghylch ffresni ac ansawdd, ac mae hynny'n cynnwys dros hanner yr holl ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd hefyd. Mae'r arlwywyr ysgol mwyaf uchelgeisiol, fel Oldham—sy'n gwasanaethu un o'r cymunedau tlotaf ym Mhrydain—wedi mynd ymhellach i gyrraedd y safon aur: rhaid i o leiaf 20 y cant o'r arian a werir ar gynhwysion fod yn organig, gan gynnwys cig organig. 'O, mae hynny'n anfforddiadwy', clywaf bobl yn dweud. Na, nid yw hynny'n wir; 67c y disgybl y pryd bwyd yn unig y maent yn ei wario. Mae peth o'r ganmoliaeth i Oldham yn seiliedig ar y ffaith bod mwy na'r hyn sy'n arferol o'r bwyd yn tarddu o'r DU—bydd hynny'n eu galluogi i wrthsefyll ansicrwydd yn sgil Brexit. Maent hefyd i'w canmol am brynu bwyd a gynhyrchir yn eu hardal, gan gyfoethogi'r economi fwyd leol. Mae ymchwil i'r bwydlenni Bwyd am Oes hyn yn profi, am bob £1 a werir yn lleol, ei bod yn darparu elw cymdeithasol ar fuddsoddiad o dros £3 ar ffurf mwy o swyddi a marchnadoedd i gynhyrchwyr bwyd lleol.
Felly oni ddylai pob awdurdod lleol fod yn cysoni eu penderfyniadau polisi caffael bwyd â'r ymrwymiadau economaidd i ddyletswyddau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Os gall Oldham ei wneud, pam na all Cymru? Ac nid yn Lloegr yn unig y mae hyn. Mae'r Alban hefyd yn defnyddio'r fframwaith i gynyddu'r bwyd a gynhyrchwyd yn lleol y maent yn ei gaffael. Rwy'n awgrymu y gallai Cymru ei ddefnyddio fel arf i gryfhau economi sylfaenol ein bwyd.
Byddai'r buddsoddiad hwn yn ein plant yn boblogaidd gydag oedolion hefyd. Dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov ar gyfer Cancer Research UK fod 86 y cant o bobl yn cefnogi mesurau i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cydymffurfio â'r canllawiau ar fwyta'n iach, oherwydd gwyddom nad felly y mae hi ar hyn o bryd. A yw'n cymryd Comisiynydd Plant Cymru i ddweud wrthym fod diffodd ffowntenni dŵr mewn un ysgol wedi gorfodi disgyblion i ddefnyddio arian cinio i brynu dŵr potel?
Sut y gall ysgolion uwchradd Caerdydd gynnig yr hyn a alwant yn 'fargen fwyd' o ddiod potel gyda bwyd, gan ychwanegu at y gwastraff plastig yn ogystal â diffyg maeth mewn llawer o ysgolion? Gyda thraean o holl blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae'n hanfodol fod y bwyd sy'n cael ei weini yn yr ysgol o ansawdd uchel. I lawer dyma'r unig bryd y byddant yn ei gael. Mae'r holl ymchwil ar newyn bwyd yn ystod gwyliau ysgol yn dweud hynny wrthym. Dylai bargen fwyd olygu prif bryd bwyd gydag o leiaf ddau lysieuyn a phwdin o ryw fath, a dyna fy her i Gaerdydd.
Eto i gyd, mae'r wasgfa ar gyllidebau awdurdodau lleol, a staff arlwyo, sydd heb eu hyfforddi'n ddigonol mewn llawer o achosion yn fy marn i, yn peri iddynt roi pris o flaen ansawdd. Y llynedd, mae'n drist gennyf ddweud, rhoddodd Sir y Fflint ei wasanaeth arlwyo ar gontract allanol i gwmni masnachu hyd braich newydd a chael gwared ar wasanaethau ardystio Cymdeithas y Pridd. Hyd yma nid oes llawer o wahaniaeth wedi bod i blant, ond mae'n amddifadu Sir y Fflint o'r fframwaith i symud ymlaen nid yn ôl. Mae'r Gweinidog Addysg wedi datgan yn glir fod pob awdurdod lleol a llywodraethwr ysgol yn gyfrifol am fonitro cydymffurfiaeth â Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru) 2009. Mae rheolwr gyfarwyddwr Arlwyo a Glanhau NEWydd Sir y Fflint yn fy sicrhau bod ganddynt olrheiniadwyedd llawn ar gyfer popeth a ddefnyddiant, a'u bod wedi torri'r cysylltiad â Chymdeithas y Pridd am na allant gael cyflenwyr i ddarparu'r meintiau sydd eu hangen arnynt, yn ogystal ag ar sail cost. Ond mae'r penderfyniad hefyd yn deillio o'r ffaith fod yr arweinydd arlwyo llawn gweledigaeth wedi gadael. Dof yn ôl at Oldham: os gall Oldham gyflawni, pam na all Cymru?
Nid yw ardystiad Cymdeithas y Pridd ond yn un ffordd ymlaen, ond dyna y mae mwyafrif yr ysgolion cynradd a rhai ysgolion uwchradd yn ei ddefnyddio yn Lloegr, a'r hyn y mae'r Alban yn ei wneud yn ei huchelgais i ddod yn genedl bwyd da. Fe'ch gwahoddaf i gymharu'r hyn y mae disgyblion yn eich etholaeth yn ei fwyta o'i gymharu â'r hyn a gaiff ei gynnig i ddisgyblion yn Ffrainc, yn Sbaen, yn yr Eidal ac yng Ngwlad Groeg. Ble mae ein huchelgais ar gyfer ein plant? Naill ai mae'n rhaid i ni fabwysiadu fframwaith Cymdeithas y Pridd ar gyfer sicrhau gwelliant radical, neu ddyfeisio rhywbeth gwell. Ni allwn aros yn ein hunfan. Nid yw peidio â newid yn opsiwn.
Cefais olwg ar ganllawiau 2013 i baratoi ar gyfer y ddadl hon, ac roedd yr hyn a ddarllenais yn fy atgoffa, mewn gwirionedd, o lawer iawn o giniawau ysgol hen ffasiwn, sef cig a llysiau, a chwstard yn bwdin. Yn amlwg, nid oedd dim yn yr hen ddyddiau, os gallwch ei roi felly, yn ymwneud â llysieuaeth neu feganiaeth—nid oeddent wedi'u dyfeisio bryd hynny. Mae'n debyg bod llawer mwy o halen yn y dyddiau hynny hefyd. Ond gallaf weld bod y pethau yr ystyriwn eu bod yn arferion gwael, fel cacennau a bisgedi, yn dal i gael eu caniatáu ar fwydlenni Cymru ar yr amod nad ydynt yn cynnwys melysion. Felly, mae'n debyg fod hynny'n golygu eich bod yn dal i allu cael cwci maint eich pen cyhyd â'i fod yn llawn resins yn hytrach na siocled. Ac wrth gwrs, doedd neb yn gwybod beth oedd cwci yn y 1960au a'r 1970au, felly mae pethau yn bendant wedi gwella, neu wedi gwaethygu—penderfynwch chi. Nid wyf yn credu bod yna ganllawiau ers talwm, ond mae eu hangen arnom yn awr, mae hynny'n sicr.
O dra-arglwyddiaeth bwydydd a weithgynhyrchwyd a newid pethau fel melysion a chreision o statws danteithion achlysurol i statws byrbryd diofal neu hyd yn oed yn lle prydau bwyd mewn rhai achosion, i dwf diwylliant prydau parod a cholli sgiliau coginio—rhywbeth pwysig yn fy marn i—mae llwyth o resymau sydd wedi ein symud ymlaen o'r tocyn traddodiadol iawn hwnnw, drwy'r cyffro o gyflwyno tatw stwnsh wedi rhewi. A ydych chi'n cofio hwnnw ar fwydlen yr ysgol? Ein cyffro pan gyflwynwyd Smash. Ac yna i'r oes honno wedyn pan oedd cylchau sbageti yn cael eu hystyried yn ffurfiol yn llysieuyn—tipyn o liw cryf ar blatiaid llwydfelyn.
Ond rydych yn llygad eich lle, Jenny, nid ni yw'r unig wlad sydd â chanllawiau ar gyfer prydau ysgol, ond byddech yn synnu faint o wledydd yr UE nad ydynt yn meddu arnynt. Norwy, Denmarc, yr Iseldiroedd—rydym yn edrych ar y llefydd hyn am syniadau diddorol iawn. Tra bod eraill, fel yr Almaen, yn dilyn patrwm tebyg i ni, buaswn yn dweud, ac yn debyg i Loegr. Efallai bod yr Alban ychydig yn fwy uchelgeisiol, gyda rhestri o'r hyn a ganiateir, yr hyn y cyfyngir arno, yr hyn a anogir a'r hyn sy'n rhaid ei ddarparu, gyda chyfarwyddyd yn y rhan fwyaf o achosion, ar feintiau maetholion gwahanol, gan gynnwys mwynau a fitaminau.
Mae Ffrainc, wrth gwrs, yn gwneud yn fawr o'i chryfderau gyda pholisi ar gyfer pryd dau gwrs ynghyd â saig ychwanegol, yn ogystal â chynnyrch llaeth ychwanegol—sy'n fy nharo i'n uchel-ael iawn. Ond credaf fod y Ffindir wedi gwneud rhywbeth diddorol iawn a gallai roi rhai syniadau i'n hathrawon, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut y gallent gynnwys profiad plant o fwyta bwyd ysgol yn y maes dysgu a phrofiad ar lesiant. Oherwydd, i raddau, mae ganddynt ganllaw tebyg i'r math rwyf newydd ei ddisgrifio, ond prif fyrdwn eu polisi yw'r plât enghreifftiol. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod amdano. Mae'r plât enghreifftiol, sydd i'w weld yn y ffreutur, i fod i annog, neu i ddylanwadu yn y bôn, ar blant ysgol ynglŷn â sut i lenwi eu plât eu hunain pan fyddant yn cyrraedd y ciw cinio. Yn yr achos hwn, mae'n cynnwys hanner plât o lysiau wedi'u coginio'n ffres, chwarter o datws, reis neu basta, a chwarter o gig, pysgod neu brotein nad yw'n deillio o anifail. Gyda hynny, gall y plant gael llaeth a dŵr, bara menyn os ydynt ei eisiau, a ffrwythau'n bwdin. Yn anaml, cynigir pwdinau fel cacen pan na fydd y prif gyrsiau'n cyrraedd y gwerth caloriffig llawn am ryw reswm. Felly, maent yn ddanteithion go iawn.
Ond yr hyn sydd yr un mor bwysig, rwy'n meddwl, yw canllawiau'r Ffindir sy'n dweud bod yn rhaid i'r bwyd gael ei gyflwyno'n atyniadol, ar y tymheredd cywir, gan staff sy'n parchu'r plant, ond sydd hefyd yn parchu'r bwyd. Felly, nid llwytho stwff i hambyrddau plastig a wneir. Rwy'n meddwl mai rhywbeth arall sy'n ddiddorol o'r Ffindir yw bod eu prydau ysgol yn costio 8 y cant o'r gyllideb addysg i'w darparu. Mae prydau ysgol am ddim yn y Ffindir, nid dyna yw fy mhwynt—ond y gost sylfaenol o ran yr hyn a wariant yn darparu bwyd o'r fath gydag ansawdd maethol o'r fath.
Yma, lle mae gan ysgolion yr un ymrwymiad i ddarparu bwyd maethlon, a lle gallant adennill rhywfaint o'r arian, clywsom dystiolaeth gan y comisiynydd plant—roeddem yn sôn am blant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim—maent yn cael prydau sy'n werth £2 yn unig, neu ychydig dros hynny. Ni all ysgolion wneud elw ar eu bwyd, felly dyna yw ei gost. Rwy'n meddwl mai'r enghraifft a roddwyd yn adroddiad y comisiynydd plant yw bod tafell o pizza yn costio £1.95. Nid wyf yn siŵr iawn pam y mae'n costio £1.95 pan allwch godi 67c am bryd o fwyd iawn, ond yn sicr nid yw'n bodloni'r canllawiau maeth.
Fel y dywedoch chi, mae awdurdodau lleol yn cael arian, wedi'i lapio yn y grant cynnal refeniw, sy'n seiliedig ar nifer y plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Po uchaf y nifer, y mwyaf fydd y cyfraniad i'r grant cynnal refeniw. Mae ysgolion yn cael grant datblygu disgyblion ar gyfer yr un disgyblion. Felly, sut ar wyneb y ddaear y gall ysgol beidio â chael ei chosbi am gynnig bwyd gwerth £2? Rwy'n credu ei fod yn fethiant polisi yn yr achos arbennig hwnnw. Nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod, Weinidog, neu os gallwch ddweud wrthym, faint sy'n mynd i mewn i'r grant cynnal refeniw fesul disgybl sy'n cael prydau ysgol am ddim a faint ohono sy'n dod allan o'r grant cynnal refeniw wedyn i ddarparu'r prydau maethlon y mae pawb ohonom am eu gweld. Rwy'n tybio ein bod filltiroedd i ffwrdd o'r Ffindir, sef 8 y cant o'r gyllideb addysg—rwy'n siŵr na allwn fforddio hynny.
Hoffwn orffen drwy ddweud bod y canllawiau'n gynhwysfawr ond nad oes dyletswydd i lynu wrthynt, ar wahân i hyrwyddo bwyta'n iach a darparu dŵr yfed. Felly, rydym yn ôl gyda disgwyliadau yn hytrach nag ymrwymiadau. Felly, rwy'n chwilfrydig i glywed gan y Gweinidog am yr hyn y gallwch ei wneud pan fydd ysgolion yn cael eu dal yn anwybyddu'r canllawiau'n gyson. Diolch.
I lawer o blant, gan gynnwys llawer yn fy etholaeth i, eu hysgol yw prif ffynhonnell eu bwyd yn ystod y tymor. Y prydau brecwast a hanner dydd a ddarperir mewn ysgolion yw'r unig brydau a gânt, gyda dim ond byrbrydau gartref ar ben hynny. Bydd plant yn mynd i'r ysgol yn y bore heb fwyta'n iawn ers eu pryd canol dydd yn yr ysgol y diwrnod cynt. Nid rhianta gwael yw hyn, tlodi yw hyn, canlyniad cyni a chreulondeb y credyd cynhwysol. I lawer o blant, y brecwast a'r cinio a gânt yn yr ysgol yw'r unig fwyd iach y byddant yn ei fwyta y diwrnod hwnnw. Drwy wella prydau ysgol, rydym nid yn unig yn darparu cymorth maethol pwysig, ond rydym hefyd yn helpu plant i fod mewn sefyllfa well i fwydo eu meddyliau a dysgu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os gwelwch yn dda.
Diolch. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am blant sy'n byw mewn tlodi, ond mae plant o deuluoedd eithaf cefnog yn cael llond llaw o arian a'u hel i'r siop sglodion amser cinio. Felly nid wyf yn meddwl y gallwch ei roi mewn un categori o blant yn unig.
Fe ddof at rywbeth tebyg iawn i hynny yn nes ymlaen.
Mae canolbwyntio ar yr hyn a addysgir mewn ystafell ddosbarth yn llawer anos pan fyddwch yn llwglyd a bod yr angen am fwyd yn bwysicach na dim a addysgir i chi yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam rwy'n cefnogi'r ddadl hon heddiw a pham y credaf ei bod yn bwysig dros ben i blant gael digon o fwyd yn yr ysgol a chael prydau iach i'w bwyta.
Y sefyllfa bresennol yw bod Rheoliadau Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 yn amlinellu bwyd a diodydd sy'n addas i'w darparu mewn ysgolion a gynhelir. Mae hyn hefyd yn cynnwys bwydydd a ddarperir fel rhan o'r cynllun brecwast am ddim. Mae'n ofynnol i gyrff llywodraethu ddarparu gwybodaeth am y camau a gymerwyd ganddynt i hybu bwyta ac yfed iach i ddisgyblion yn eu hadroddiadau blynyddol. Mae Estyn, yr arolygiaeth addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn adrodd wedyn ar gamau a gymerwyd gan ysgolion i Weinidogion Cymru.
Yn gyntaf, rwyf am ganolbwyntio ar bryd canol dydd yr ysgol, neu ginio ysgol, fel y'i gelwir gan lawer. Un o'r nifer o bethau sy'n wahanol rhwng pobl fel fi a'r cyfoethog yw fy mod yn galw'r pryd canol dydd yn 'dinner' ac maent hwy'n ei alw'n 'lunch', ac mae eu prif bryd bwyd hwy, 'dinner', yn digwydd gyda'r nos pan fyddaf i'n cael te. Rwy'n meddwl mai dyna'r gwahaniaeth, a phwynt gafodd ei wneud gan Suzy Davies: efallai y byddant yn cael arian i fynd i gael rhywbeth, ond maent yn cael prif bryd bwyd pan fyddant yn cyrraedd adref, oherwydd mae'r lefel honno o gyfoeth gan eu rhieni.
Yn sicr, ond nid wyf yn credu y gallwch neidio i'r casgliad hwnnw, Mike—os cymerwch yr ymyriad—oherwydd weithiau nid yw'r rhieni hynny gartref a'r hyn a welwch yw 85 o bacedi creision ar lawr.
Wel, fe ddefnyddiaf y gair 'llawer', ac felly efallai y gallwn gyrraedd pwynt lle'r ydym yn cytuno.
Fe ofynnaf dri chwestiwn: beth sy'n digwydd pan fydd y plant yn sâl neu ar wyliau o'r ysgol? Bryd hynny, mae'n rhaid i rieni ddod o hyd i 10 pryd ychwanegol yr wythnos i bob plentyn. A oes ryfedd mai gwyliau ysgol yw'r amseroedd prysuraf i fanciau bwyd? Byddaf bob amser yn cofio'r fam a ddywedodd wrthyf gymaint roedd hi'n casáu gwyliau ysgol, nid oherwydd ei bod angen gofal plant, ond oherwydd y gwyddai faint o fwyd ychwanegol y byddai ei angen arni dros y gwyliau.
Yn ail, mae'n fwy na phrydau ysgol yn unig. Mae Sefydliad Maetheg Prydain yn dweud y gall ysgolion chwarae rhan bwysig yn hybu arferion bwyta iach ymhlith plant a sicrhau bod bwyd ysgol yn darparu prydau iach, cytbwys a maethlon gyda'r gyfran briodol o egni a maetholion sydd eu hangen ar ddisgyblion. Gall clybiau brecwast, siopau byrbrydau iach, prydau ysgol a phecynnau cinio wneud cyfraniad pwysig i'r egni a'r maetholion y mae plant yn eu cael. Mae'n hanfodol fod ffocws ysgol gyfan ar ffyrdd iach o fyw, gan gynnwys y bwyd a ddarperir i ddisgyblion, yn ogystal â'r pwyslais a roddir ar fwyta'n iach a maeth ar draws gwahanol bynciau'r cwricwlwm. Mae'n bwysig fod darparwyr bwyd ysgol yn cydweithio a bod y gymuned ysgol gyfan, o benaethiaid i rieni, y cogyddion, yr athrawon a'r cynorthwywyr dosbarth i gyd yn cymryd rhan, er mwyn rhoi negeseuon cyson i blant allu gwneud dewisiadau iachach.
Yn drydydd, sut y mae bwyd iach o fudd i blant? Gall bwyta'n iach helpu plant i gynnal pwysau iach, osgoi problemau iechyd penodol, sefydlogi eu hegni a miniogi eu meddyliau. Gall deiet iach effeithio'n ddwfn hefyd ar ymdeimlad plentyn o les meddyliol ac emosiynol, gan helpu i atal cyflyrau fel iselder, gorbryder, anhwylder deubegwn, sgitsoffrenia, ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd. Gall bwyta'n dda gynnal twf a datblygiad iach plentyn wrth iddo dyfu'n oedolyn a gall chwarae rhan yn lleihau'r risg o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc hyd yn oed. Os yw plentyn eisoes wedi cael diagnosis o broblem iechyd meddwl, gall deiet iach helpu'r plentyn i reoli'r symptomau ac adfer rheolaeth ar ei iechyd.
Mae'n bwysig cofio nad yw plant yn cael eu geni'n ysu am sglodion a pizza ac yn casáu brocoli a moron, a bod babanod yn cael eu bwydo â llaeth, nid â siocled. Mae'r cyflyru hwn yn digwydd dros amser wrth i blant ddod i gysylltiad â mwy a mwy o ddewisiadau bwyd afiach sy'n llawn o halen a siwgr—pethau fel siocled—y maent yn dueddol o barhau i ysu amdanynt wedyn. Fodd bynnag, mae'n bosibl ail-raglennu ysfa plant am wahanol fwydydd fel eu bod yn ysu am fwydydd iachach yn lle hynny. Po gyntaf y cyflwynwch ddewisiadau iach a maethlon i ddeiet plant, yr hawsaf fydd hi iddynt ddatblygu perthynas iach â bwyd a all bara oes, gobeithio.
Yn olaf, mae angen inni sicrhau bod plant yn cael eu bwydo'n dda mewn ysgolion gan nad oes gennym reolaeth dros y modd y cânt eu bwydo yn unman arall. Ac felly mae angen i ni gael pethau'n iawn yn yr ysgolion, ac rwy'n falch iawn fod Jenny Rathbone wedi cyflwyno hyn ac rwy'n falch iawn o gefnogi'r cynnig.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Jenny am gyflwyno mater eithriadol o bwysig, yn enwedig ynglŷn â sicrhau bod dŵr ar gael i ddisgyblion.
Rwyf am sôn am brydau ysgol fegan. Rwy'n credu y gall prydau ysgol chwarae rhan bwysig yn iechyd ein plant, eu datblygiad a'u dewisiadau yn y dyfodol. Gan adeiladu ar hynny, credaf y dylai ysgolion gynnig dewisiadau sy'n seiliedig ar blanhigion yn rheolaidd heb fod rhaid i ddisgyblion orfod gwneud cais arbennig amdanynt. Hoffwn weld prydau fegan blasus, maethlon a phriodol ar fwydlenni dyddiol.
Mae nifer y feganiaid yn y DU wedi codi'n gyflym ac mae mwy o fwytawyr hyblyg yn dewis bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion fel rhan o'u deiet. Mae gan feganiaid yn y DU hawl i arlwyo addas sy'n seiliedig ar blanhigion o dan gyfraith hawliau dynol a chydraddoldeb, er nad yw'n digwydd yn aml yn ymarferol. Mae ymchwil wedi cysylltu deietau fegan â phwysedd gwaed a cholesterol isel, yn ogystal â chyfraddau is o glefyd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser. Gallai datblygu cynefindra â bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion helpu i wrthbwyso arferion deietegol gwael, fel y rhai y mae Mike newydd sôn amdanynt, a ffurfir pan fyddant yn ifanc, ac sy'n cyfrannu at heriau iechyd y cyhoedd yn nes ymlaen. Mae deietau sy'n seiliedig ar blanhigion hefyd yn gynaliadwy. Fel unigolion, gallwn leihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd hyd at 50 y cant drwy newid i ddeiet fegan o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, defnydd o dir a cherbydau, ac erydiad pridd. A'r llynedd, daeth ymchwil ym Mhrifysgol Rhydychen i'r casgliad efallai mai bwyta deiet fegan yw'r ffordd unigol orau o leihau eich effaith amgylcheddol ar y ddaear, ac mae'r Cenhedloedd Unedig wedi annog y byd i gyd i symud tuag at ddeiet heb gig a chynnyrch llaeth er budd y blaned. Dyma bethau y gwelsom bobl ifanc ar y strydoedd yn ymgyrchu drostynt, a chredaf y dylem gynnig opsiwn i'r bobl ifanc hyn allu dewis yn eu hysgolion, dewis nad ydynt yn ei gael yn aml fel y dywedais, a chynnwys hynny yn eu dewisiadau bwyta yn yr ysgol.
Mae hefyd yn wir fod deietau sy'n seiliedig ar blanhigion yn gyfoethog mewn ffibr, nid ydynt yn cynnwys llawer o fraster dirlawn, maent yn cynnig cyfrannau lluosog o ffrwythau a llysiau, ac nid ydynt yn cynnwys cig wedi'i brosesu. Yn anffodus, rydym mewn sefyllfa lle mae'r pryd ysgol yn aml iawn yn sail i'r rhan fwyaf o ddeiet plant, ond ar ôl hynny gwelwn y banciau bwyd yn cymryd drosodd. Ac rydym i gyd yn gwybod bod banciau bwyd yn cynnig bwyd wedi'i brosesu, oherwydd natur yr hyn sy'n rhaid iddynt ei wneud er mwyn ei gadw. Felly, byddai'n help hefyd—. Nid wyf yn argymell bod pobl yn mynd i fanciau bwyd—mae'n wir mai dyna sy'n digwydd yn aml iawn. Felly, byddai cynnig deiet sy'n seiliedig ar blanhigion yn ddewis arbennig o dda i rai pobl ifanc.
Mae hefyd yn rhoi cyfle mewn ysgolion i bobl ifanc weld bwyd yn cael ei dyfu yn eu hysgolion, oherwydd mae gan lawer ohonynt erddi bychain, gyda'r opsiwn o fwyta cynnyrch yr hyn y maent yn ei dyfu. A hefyd mewn rhai lleoliadau trefol, lle mae gennym erddi trefol, ni fydd y bwyd yn teithio'n bell iawn, felly byddai'n fanteisiol o ran maeth i'r bobl ifanc, ond hefyd o ran yr hinsawdd, bydd hefyd yn cynnal y gymuned honno, ac yn adeiladu cymunedau hefyd, oherwydd gall pobl ifanc fod yn rhan o'r gweithgareddau hyn. Gallwch wneud y bwyd yn fforddiadwy o fewn yr ysgol a'r tu allan i'r ysgol, ac mae ein pwyllgor—y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig—yn cynnal ymchwiliad i randiroedd ar hyn o bryd mewn gwirionedd. Gallwn adeiladu rhai o'r canfyddiadau i mewn i ddadl fel hon heddiw, rwy'n credu.
Mae'r gwastraff wedi cael ei grybwyll heddiw. Wel, pe baech yn rhoi deiet sy'n seiliedig ar blanhigion i blant yn yr ysgol, byddech yn ailgylchu plicion, nid plastig.
A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jenny am godi'r mater pwysig hwn? Yn ddiamau, gall prydau ysgol iach gyfrannu at les disgyblion, eu cyrhaeddiad a'u hymddygiad cadarnhaol. Rydym wedi gwneud llawer o waith i sicrhau bod ein plant yn cael bwyd iachach yn ein hysgolion, ond rwy'n credu y gallwn wneud mwy.
Mae gwella iechyd a lles plant yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwella cyrhaeddiad addysgol ein dysgwyr. Mae sicrhau bod plant yn cael bwyd iachach a maethlon yn yr ysgol yn bwysig er mwyn cyflawni'r ymrwymiad hwn. Mae bwyd yn bwydo'r corff ac yn darparu tanwydd ar ei gyfer, ond mae hefyd yn bwydo'r ymennydd. Mae'n hanfodol er mwyn sicrhau lles plant, a phan fydd ein plant yn hapus a heb fod yn newynog yn yr ysgol, gallant ffynnu a dysgu go iawn.
A gaf fi achub y cyfle hwn, Ddirprwy Lywydd, i ddiolch i'r rhai yn ein hysgolion sy'n gweithio mor galed bob dydd i ddarparu'r prydau hyn i'n plant? Bydd llawer ohonoch wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen fod fy mam-gu wedi bod yn gogydd yn Ysgol Gynradd Blaenymaes yn Abertawe am flynyddoedd lawer; fe bliciodd lawer o datws i'r plant yno, ond gallaf ddweud wrthych iddi gael boddhad mawr yn darparu'r prydau hynny hefyd.
Mae'r Llywodraeth wedi cwblhau ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Yng Nghymru, gwyddom fod un o bob pedwar plentyn yn dechrau'r ysgol gynradd dros bwysau neu'n ordew, ac nid yw arferion bwyta bwyd a dirywiad yn y lefelau gweithgarwch corfforol yn newydd. Maent wedi cronni dros genedlaethau. A gwyddom hefyd fod cydberthyniad cryf iawn ag anghydraddoldeb iechyd. Ni chredaf y dylem adael i fwy o blant dyfu fyny ag arferion deietegol gwael neu ddiffyg gweithgarwch corfforol digonol yn eu bywydau bob dydd, ond rwy'n deall hefyd nad oes un ateb na ffordd syml o newid hyn. Mae gennym i gyd rôl i'w chwarae. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw erbyn mis Gorffennaf, a bydd strategaeth derfynol yn cael ei lansio ym mis Hydref, i nodi ein dull gweithredu 10 mlynedd a'n huchelgais i wrthdroi'r duedd.
Rwyf wedi ymrwymo i ddiweddaru ein rheoliadau bwyta'n iach mewn ysgolion, a gyflwynwyd yn 2013, fel eu bod yn cynnwys arferion gorau a'r cyngor mwyaf cyfredol—er enghraifft, ar lefelau bwyta siwgr a ffibr yn ein deiet. Ond gadewch imi fod yn glir: awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r rheoliadau, a dylai unrhyw un sy'n ymwneud â darparu bwyd a diod mewn ysgolion a gynhelir fod yn ymwybodol o'r gofynion statudol os ydynt yn cynllunio bwydlenni, os ydynt yn prynu neu'n caffael bwyd a pharatoi bwyd a diod ar gyfer ein hysgolion. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gaffael bwyd mewn ysgolion, ac mae'r ddeddfwriaeth gyfredol ar gaffael eisoes yn caniatáu i ysgolion ac awdurdodau lleol gaffael cynnyrch o Gymru, ond nid yw'n gosod gofyniad i wneud hynny. Mae hyn er mwyn osgoi sefyllfaoedd a allai wneud y cyflenwad o gynnyrch mewn rhai achosion naill ai'n anfforddiadwy neu weithiau'n annigonol. Ond mae rhai awdurdodau lleol, yn enwedig ein rhai gwledig, eisoes yn caffael cynnyrch lleol i'w defnyddio yn eu hysgolion. Mae nifer o fanteision i hynny. Yn gynharach heddiw, clywais bobl yn siarad am filltiroedd bwyd a chynaliadwyedd, ond mewn gwirionedd, mae llawer o'r ysgolion hynny'n bwrw ati wedyn i ddefnyddio'r bwyd hwnnw fel ffordd arloesol o siarad am gynhyrchu bwyd a maeth bwyd fel rhan o'r cwricwlwm ysgol ehangach, ac rwy'n cymeradwyo dulliau ac arloesedd o'r fath gan yr awdurdodau lleol sy'n gwneud hynny. Fel yr amlinellodd Mike Hedges, dylai llywodraethwyr gyflwyno adroddiad ar fwyd ysgol i'r rhieni drwy eu hadroddiad blynyddol, ac mae'n ddarostyngedig i arolwg Estyn.
O ran dŵr, gadewch i mi fod yn gwbl glir—ni ddylai fod angen i mi fod, ond gadewch i mi fod yn gwbl glir—mae mynediad rhydd a hwylus at ddŵr yfed yn orfodol. Mae'n glir iawn fod hynny'n ofyniad yn adran 6 y Mesur Bwyta'n Iach Mewn Ysgolion (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn ôl yn 2009. Nawr, rwy'n ymwybodol o'r achos y cyfeiriodd y comisiynydd plant ato, er nad oedd y comisiynydd mewn sefyllfa i ddweud wrthyf pa ysgol ydoedd oherwydd buaswn i neu fy adran yn sicr wedi bod mewn cysylltiad â'r ysgol honno. Heb y wybodaeth honno, fe atgoffais ac fe roddais wybod i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol am eu cyfrifoldebau ar hyn drwy gylchlythyr Dysg ar 13 Mawrth.
Fodd bynnag, buaswn mewn sefyllfa i ddweud wrthych fy mod wedi gweld dŵr yn cael ei wrthod yn un o'r ysgolion yr ymwelais â hi, ac yn breifat, buaswn yn falch o ddweud wrthych pa un ydyw. Ond rwy'n siŵr nad enghreifftiau unigol yw'r rhain. Roeddech yn sôn am Estyn yn gynharach, ac roeddwn am eich holi faint o sylw y credwch y mae Estyn yn ei roi i'r canllawiau ar fwyta'n iach, oherwydd pan oeddwn yn arolygydd lleyg, gallaf gofio cael fy ngheryddu gan y prif arolygydd nad oedd yn fater y dylem fod yn ei ystyried.
Wel, mae'n amlwg i mi, ac mae'n amlwg i Estyn, fod hwn yn fater y dylent fod yn adrodd arno—sut y mae ysgol yn sicrhau bod bwyd a diod iach ar gael i'r plant yn yr ysgol. Ac fel y dywedais, rwy'n siomedig iawn o glywed y byddai unrhyw ysgol yn cyfyngu ar fynediad plant at ddŵr yfed am ddim. Mae'n eithaf clir yn y Mesur ac fel y dywedais, ar 13 Mawrth eleni, drwy gylchlythyr Dysg, gwnaethom atgoffa pob AALl a phob ysgol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i'r perwyl hwn.
Nawr, mae diwygio'r rheoliadau yn un cam gweithredu i sicrhau effaith gadarnhaol ar les, cyrhaeddiad ac ymddygiad plant. Mae adroddiadau diweddar, megis 'Siarter ar gyfer Newid' gan Gomisiynydd Plant Cymru, a'r ymchwiliad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar fwyd i blant yn y dyfodol, wedi tynnu sylw at faterion yn amrywio o newyn gwyliau, y soniodd Mike amdano, i ddyled prydau ysgol, y gwn ei fod wedi bod yn bryder i'r Aelod, Joyce Watson, a'r ffaith nad yw pawb sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn manteisio ar hynny. Mae'r rhain yn ffactorau sy'n ymwneud â thlodi ac sy'n effeithio'n sylweddol ar hapusrwydd a lles ein plant.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gael gwared ar bryderon sy'n gysylltiedig â rhai o'r materion hyn, boed yn feddwl sut y gellir blaenoriaethu lles plant neu helpu i ddileu pryderon sy'n gysylltiedig â rhai o gostau'r diwrnod ysgol. Mae ysgolion hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn hybu patrymau ymddygiad cadarnhaol. Bydd y cwricwlwm ysgol newydd yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol sy'n gysylltiedig â chyrraedd a chynnal pwysau corff iach, yn enwedig effaith bwyd a maeth ar iechyd a lles, a'r sgiliau i fabwysiadu ymddygiad iach. Gobeithio y bydd archwilio'r meysydd hyn o fewn y cwricwlwm, gan hwyluso profiadau newydd a datblygu sgiliau newydd yn y broses, yn cyfrannu at y dull ysgol gyfan ac at agweddau gydol oes dysgwyr at fwyd a bwyta.
Mae yna nifer o raglenni o fewn ysgolion Cymru y gellid eu cryfhau a'u halinio i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer yr agenda hon. Mae rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgol iach, rhaglen genedlaethol sy'n gweithredu yn y mwyafrif o ysgolion Cymru, yn ceisio hybu iechyd yn gyfannol, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae gan raglenni fel eco-ysgolion botensial i ysbrydoli plant i werthfawrogi'r amgylchedd, deall manteision bod yn yr awyr agored, annog tyfu bwyd ar gampws yr ysgol, yn ogystal â materion ehangach yn ymwneud â phlastig a diogelwch bwyd ac effaith cynhyrchu bwyd ar ein hagenda cynaliadwyedd.
Rhag i ni anghofio, mae Cymru wedi arloesi mewn nifer o feysydd sydd wedi bod o fudd i'n plant. Fe wnaethom arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno ein cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ac rwy'n cyfaddef fy mod yn sgeptig ar y pryd, ond mae'r dystiolaeth a'r ymchwil ar effaith y polisi hwnnw'n glir: mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gyrhaeddiad addysgol y plant hynny. Bymtheg mlynedd ers ei gychwyn, mae'r cynllun yn rhan annatod o'n gwaith ehangach i wella bwyd a maeth mewn ysgolion a gynhelir. Ers 2017, rydym wedi ariannu rhaglen gwella gwyliau'r haf, ac ers hynny rydym wedi darparu £1 filiwn o gymorth i'r rhaglen, gan sicrhau bron i 4,000 o leoedd mewn cynlluniau gwella gwyliau'r haf ledled Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn darparu hyd at £900,000 i ymestyn y rhaglen ymhellach, gan alluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gynorthwyo mwy fyth o deuluoedd yr haf hwn.
Ddirprwy Lywydd, i gloi, rhaid i lesiant ein plant fod yn ganolog i'n system addysg gynhwysol, a hyrwyddo ac annog arferion bwyta da tra yn yr ysgol a'r gobaith yw y bydd mynd â'r arferion hynny adref yn gyfrifoldeb a rennir rhwng ysgolion a theuluoedd. Bydd annog plant i ddatblygu arferion bwyta da yn aros gyda hwy drwy gydol eu hoes ac yn eu helpu i ddatblygu'n unigolion hapus, hyderus ac iach fel y byddai pob un ohonom am ei weld.
Diolch. A gaf fi alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig yma ar brydiau ysgol iach? Wrth gwrs, mae taclo'r agenda gordewdra'n hanfodol, wrth gwrs, ac un agwedd ar hynny ydy beth sydd o dan sylw'r prynhawn yma, sef prydiau ysgol iach, lle, fel y mae'r Gweinidog yn ei ddweud, mae arferion oes yn gallu cael eu sefydlu a gobeithio cael eu hadeiladu arnyn nhw—os ydyn nhw'n arferion da, wrth gwrs.
Gaf i longyfarch Jenny Rathbone yn y lle cyntaf am feddwl am y syniad ac am wneud yr holl waith wrth gefn wrth gyflwyno'r ddadl prynhawn yma, a hefyd am olrhain yr holl weithgareddau sydd yn mynd ymlaen, gan ddechrau efo cynllun arbennig sir y Fflint—wrth gwrs, roedd hynna o ddiddordeb mawr—a phethau arloesol yn mynd ymlaen yn fanna? Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol mewn rhai ysgolion yn Abertawe mae'r plant hefyd yn gallu archebu beth maen nhw ei eisiau i ginio wrth gofrestru yn y bore, ond mae hynna'n gweithio'n dda iawn, yn ogystal â phopeth arall, achos, fel yr oedd Jenny'n ei ddweud, mae hyn yn fater i'r ysgol gyfan.
Hefyd, roedd Jenny'n pwysleisio pwysigrwydd tystysgrif Cymdeithas y Pridd er mwyn i ni allu cael y safon hanfodol yna o ddarpariaeth o'r bwydydd angenrheidiol i'n plant. Mae hynny'n golygu, wrth gwrs, caffael cyfrifol yn y lle cyntaf sy'n cydnabod gofynion iechyd a'r gofynion amgylcheddol, gan gynnwys caffael cyfrifol lleol, lle mae hynny'n gallu cael ei ddarparu.
Ac, wrth gwrs, roedd Jenny hefyd yn pwysleisio argaeledd dŵr yn rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w gael, ac, wrth gwrs, gwnaeth y Gweinidog bwysleisio hynna hefyd. Wrth gwrs, mae hwnna'n hollol sylfaenol. Dŵr glân, hawdd i'w gael, sydd ddim yn costio dim byd: mae o'n ofyniad statudol. Dylai fo fod yn digwydd. Roedden ni'n clywed, wrth gwrs, y cyfathrebu nôl a mlaen p'un ai oedd hyn yn digwydd mewn pob ysgol ai peidio—dwi'n siŵr bydd yna ragor o fanylion i ddilyn—ond argaeledd dŵr allan o dap sy'n osgoi poteli plastig ac, wrth gwrs, osgoi prynu diodydd sydd yn llawn siwgr i’w hyfed. Felly, mae’r ddau bwynt yna’n hollol sylfaenol. Dŷn ni i gyd yn deall hynna; mae pawb rŵan yn deall hynna, buaswn i’n meddwl, ac mae eisiau gwarantu bod argaeledd dŵr glân yn rhad ac am ddim ym mhob ysgol, fel y mae’r Gweinidog wedi ei ddweud wrthon ni.
Wrth gwrs, cawson ni ambell i brofiad rhyngwladol gan Jenny, ac mae angen inni edrych i wledydd eraill am ddarpariaethau bendigedig mewn rhai ardaloedd. Ac, wrth gwrs, dyna beth ddechreuodd Suzy Davies yn ei chyfraniad hi, a diolch am ei chyfraniad hi hefyd, yn naturiol, yn olrhain rhai o giniawau'r gorffennol yn yr ysgolion—af i ddim ar ôl hynna i gyd—ond, wrth gwrs, profiad rhyngwladol, yn enwedig, yn yr achos yma, y Ffindir, eto yn arloesi, fel y mae’r Ffindir, mewn nifer o feysydd, yn arloesi, ac, wrth gwrs, yn gwario’r arian angenrheidiol i arloesi hefyd, mae’n wir i ddweud. Ond roeddwn i’n licio’r syniad yna o ddangos i’r plant beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel. Mae hynna’n bwysig—ddim jest yn ei adael o'n hollol i fyny i ddewis y plentyn. Mae yna ddisgwyliad yn fanna o beth mae plât iach o fwyd yn edrych fel.
Gan symud ymlaen wedyn at gyfraniad Mike Hedges, wrth gwrs, roedd Mike yn pwysleisio pwysigrwydd y pryd o fwyd yn yr ysgol, jest rhag ofn fuasai’r plentyn hwnnw ddim yn cael unrhyw fwyd arall o gwbl y dydd hwnnw—o gofio cefndir tlodi, wrth gwrs, yn Abertawe, mae hynna’n agenda pwysig inni—eto, gan bwysleisio pwysigrwydd darpariaeth fwyd iach er lles a datblygiad y plentyn yn addysgiadol yn ogystal â thyfu’n blentyn iach. Ac eto roedd Mike yn mynd ar ôl yr angen am fwyd, darpariaeth fwyd, neu’r her i ddarparu bwyd i’n plant yn ystod gwyliau’r haf. Mae o yn bwnc cyson yn ardal Abertawe bob tro, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol yn yr haf. Ac, wrth gwrs, mi wnaeth Mike y pwynt dyw plant ddim yn cael eu geni i ddim ond hoffi siocled ac i gasáu llysiau—mae yna rôl ehangach, wrth gwrs, mewn darparu addysg a sut mae plant yn cael eu magu yn y byd yma, ond dwi’n credu bod hynny y tu allan i ganllawiau’r ddadl yma'r prynhawn yma.
Sydd yn ein dod â ni at gyfraniad gwerthfawr Joyce Watson, eto’n gwneud y pwynt ynglŷn ag argaeledd dŵr, ac, wrth gwrs, yn gwneud yr achos dros gael y dewis figan hefyd yn ein hysgolion—cael y dewis, mewn ffordd—a phwysleisio llysiau yn y ddarpariaeth o fwyd a maeth. A hefyd roedd Joyce yn ein hatgoffa ni am effeithiau beth rŷn ni’n ei fwyta yn gallu amharu neu ddylanwadu'n uniongyrchol ar ein hamgylchedd. Ac eto roedd Joyce yn gwneud y pwynt, fel y gwnaeth sawl un, fod pryd ysgol yn gallu dylanwadu ar arferion oes y plentyn wrth i’r plentyn dyfu i fod yn berson ifanc ac wedyn yn oedolyn—dŷch chi’n sefydlu arferion oes wrth ddechrau bwyta yn ein hysgolion ni. Ac, wrth gwrs, y pwynt arall diddorol oedd pan fo ysgolion yn tyfu’r cynnyrch i’w fwyta, ac, wrth gwrs, yn pwysleisio pwysigrwydd cynnyrch lleol, ond, yn addysgiadol, mae plant yn gallu gweld o le mae eu bwyd nhw’n dod, ac yn cyfeirio at ymchwiliad presennol cyfredol y pwyllgor newid hinsawdd ar randiroedd a’r pwysigrwydd yn y fan hynny o hefyd fod yn byw bywyd iach, bwyta bwyd iach a hefyd yn lleihau gwastraff bwyd. Bydd canlyniadau’r ymchwiliad yna i ddilyn allan o’r pwyllgor newid hinsawdd.
A'r Gweinidog i orffen—dwi wedi clustnodi rhai materion wnaeth hi gyfeirio atynt eisoes, ond eto’n ategu pwysigrwydd prydiau iach i hybu lles a datblygiad y plentyn, yn cydnabod cyfraniad y sawl sy’n paratoi bwyd, wrth gwrs, gan gynnwys aelodau eraill o’i theulu dros y blynyddoedd mewn ardaloedd o Abertawe mae rhai ohonon ni’n eu nabod yn dda iawn. Ond, wrth gwrs, mae’n bwysig cydnabod rôl allweddol y sawl sydd yn coginio bwyd yn ein hysgolion wedi'i wneud dros y blynyddoedd, achos yr agenda gordewdra ydy’r peth sylfaenol sydd yn gyrru hyn. Wrth gwrs, mae yna sawl elfen i’n hymateb ni fel cymdeithas i’r agenda gordewdra, fel y gwnaeth y Gweinidog ei amlinellu. Mae diweddariad ar y rheoliadau bwyta’n iach yn ein hysgolion ar y ffordd. Eto, roedd y Gweinidog yn pwysleisio pwysigrwydd caffael lleol. Cawson ni'r ddadl eto ynglŷn â darpariaeth dŵr am ddim, ac eto yn ein hatgoffa ni o'n hanes bod brecwast am ddim hefyd wedi dechrau yma yng Nghymru. Ac, i orffen, roedd y Gweinidog yn pwysleisio lles ein plant yn hyn i gyd, sydd yn hollol ganolog. Diolch yn fawr.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.