7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Prydau Ysgol Iach

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 5:03, 15 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, mae'n amlwg i mi, ac mae'n amlwg i Estyn, fod hwn yn fater y dylent fod yn adrodd arno—sut y mae ysgol yn sicrhau bod bwyd a diod iach ar gael i'r plant yn yr ysgol. Ac fel y dywedais, rwy'n siomedig iawn o glywed y byddai unrhyw ysgol yn cyfyngu ar fynediad plant at ddŵr yfed am ddim. Mae'n eithaf clir yn y Mesur ac fel y dywedais, ar 13 Mawrth eleni, drwy gylchlythyr Dysg, gwnaethom atgoffa pob AALl a phob ysgol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i'r perwyl hwn.

Nawr, mae diwygio'r rheoliadau yn un cam gweithredu i sicrhau effaith gadarnhaol ar les, cyrhaeddiad ac ymddygiad plant. Mae adroddiadau diweddar, megis 'Siarter ar gyfer Newid' gan Gomisiynydd Plant Cymru, a'r ymchwiliad a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar fwyd i blant yn y dyfodol, wedi tynnu sylw at faterion yn amrywio o newyn gwyliau, y soniodd Mike amdano, i ddyled prydau ysgol, y gwn ei fod wedi bod yn bryder i'r Aelod, Joyce Watson, a'r ffaith nad yw pawb sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim yn manteisio ar hynny. Mae'r rhain yn ffactorau sy'n ymwneud â thlodi ac sy'n effeithio'n sylweddol ar hapusrwydd a lles ein plant.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi rhoi nifer o gamau ar waith i gael gwared ar bryderon sy'n gysylltiedig â rhai o'r materion hyn, boed yn feddwl sut y gellir blaenoriaethu lles plant neu helpu i ddileu pryderon sy'n gysylltiedig â rhai o gostau'r diwrnod ysgol. Mae ysgolion hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn hybu patrymau ymddygiad cadarnhaol. Bydd y cwricwlwm ysgol newydd yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o'r ffactorau cyfrannol sy'n gysylltiedig â chyrraedd a chynnal pwysau corff iach, yn enwedig effaith bwyd a maeth ar iechyd a lles, a'r sgiliau i fabwysiadu ymddygiad iach. Gobeithio y bydd archwilio'r meysydd hyn o fewn y cwricwlwm, gan hwyluso profiadau newydd a datblygu sgiliau newydd yn y broses, yn cyfrannu at y dull ysgol gyfan ac at agweddau gydol oes dysgwyr at fwyd a bwyta.

Mae yna nifer o raglenni o fewn ysgolion Cymru y gellid eu cryfhau a'u halinio i ddarparu cymorth ychwanegol ar gyfer yr agenda hon. Mae rhwydwaith Cymru o gynlluniau ysgol iach, rhaglen genedlaethol sy'n gweithredu yn y mwyafrif o ysgolion Cymru, yn ceisio hybu iechyd yn gyfannol, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mae gan raglenni fel eco-ysgolion botensial i ysbrydoli plant i werthfawrogi'r amgylchedd, deall manteision bod yn yr awyr agored, annog tyfu bwyd ar gampws yr ysgol, yn ogystal â materion ehangach yn ymwneud â phlastig a diogelwch bwyd ac effaith cynhyrchu bwyd ar ein hagenda cynaliadwyedd.

Rhag i ni anghofio, mae Cymru wedi arloesi mewn nifer o feysydd sydd wedi bod o fudd i'n plant. Fe wnaethom arwain y ffordd yn y DU drwy gyflwyno ein cynllun brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd yn 2004. Ac rwy'n cyfaddef fy mod yn sgeptig ar y pryd, ond mae'r dystiolaeth a'r ymchwil ar effaith y polisi hwnnw'n glir: mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gyrhaeddiad addysgol y plant hynny. Bymtheg mlynedd ers ei gychwyn, mae'r cynllun yn rhan annatod o'n gwaith ehangach i wella bwyd a maeth mewn ysgolion a gynhelir. Ers 2017, rydym wedi ariannu rhaglen gwella gwyliau'r haf, ac ers hynny rydym wedi darparu £1 filiwn o gymorth i'r rhaglen, gan sicrhau bron i 4,000 o leoedd mewn cynlluniau gwella gwyliau'r haf ledled Cymru. Ac yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn darparu hyd at £900,000 i ymestyn y rhaglen ymhellach, gan alluogi awdurdodau lleol a phartneriaid i gynorthwyo mwy fyth o deuluoedd yr haf hwn.

Ddirprwy Lywydd, i gloi, rhaid i lesiant ein plant fod yn ganolog i'n system addysg gynhwysol, a hyrwyddo ac annog arferion bwyta da tra yn yr ysgol a'r gobaith yw y bydd mynd â'r arferion hynny adref yn gyfrifoldeb a rennir rhwng ysgolion a theuluoedd. Bydd annog plant i ddatblygu arferion bwyta da yn aros gyda hwy drwy gydol eu hoes ac yn eu helpu i ddatblygu'n unigolion hapus, hyderus ac iach fel y byddai pob un ohonom am ei weld.