Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 15 Mai 2019.
Fel y nododd ymchwil gan yr Adran Addysg, y gofalwyr mwyaf agored i niwed yw'r rhai nad ydynt yn cael cymorth ac sydd â chyfrifoldebau sy'n anghymesur â'u hoed a'u haeddfedrwydd eu hunain. Fel yr argymhellodd Estyn, y dasg gyntaf i sefydliadau addysg yw nodi pa fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu a mynd ymhellach drwy lunio cofnod o gyfanswm y gofalwyr ifanc sy'n cyflawni gwahanol raglenni a chymwysterau addysgol gan jyglo'r cyfrifoldebau gofalu hyn yn y cartref. I ailadrodd, yr hyn sy'n nodweddu gofalwr ifanc yw bod eu cyfrifoldebau'n parhau dros amser a bod eu mewnbwn yn hanfodol i gynnal iechyd neu les aelod o'r teulu, neu ffrind yn wir.
Nawr, er mwyn cefnogi myfyrwyr yn y ffordd fwyaf priodol, mae angen nodi pwy yw'r gofalwyr hyn cyn gynted ag y bo modd. Am y rheswm hwn, fel Ceidwadwyr, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cardiau adnabod i ofalwyr. Bydd hyn o fudd iddynt drwy eu hatal rhag ailadrodd eu hamgylchiadau, sy'n golygu eu bod wedi'u gwahanu oddi wrth fywyd arferol yn yr ysgol neu mewn mathau eraill o addysg, a'u helpu i gyfathrebu'n well â gweithwyr addysgol ac eraill ym maes iechyd y gwelant nad oes ganddynt ddewis heblaw rhyngweithio â hwy.
Cafodd llwyddiant y canllawiau hyn ei gyfleu gan Goleg Gwent, sydd wedi datblygu strategaeth i roi cymorth penodol i ofalwyr ifanc o'r adeg cyn eu derbyn i'r adeg ar ôl iddynt orffen astudio. Hynny yw, mae darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol sydd â chyfrifoldebau gofalu yng Ngholeg Gwent yn gallu manteisio ar gymorth diduedd wedi'i deilwra ar eu cyfer er mwyn cynyddu eu profiad dysgu a'u cyflawniad i'r eithaf. Felly, o gofio'r hyn a ddywedwyd yma, hoffwn alw ar y Llywodraeth i ddefnyddio llwyddiant Coleg Gwent fel esiampl i sefydliadau addysg bellach er mwyn i ofalwyr ifanc gael cyfle nid yn unig i wella eu bywydau a llwyddo—. Gallem fynd ymlaen, mewn gwirionedd, i sôn am yr agweddau negyddol, ond pan welwch arfer da mewn maes, hoffwn ofyn am inni edrych ar hynny ymhellach, a chithau fel Llywodraeth, er mwyn cyflwyno hynny ledled Cymru fel na fydd yr un gofalwr yn methu cael cymorth ychwanegol o'r fath.
Yr ail bwynt allweddol yw bod yn rhaid i awdurdodau lleol ledled Cymru ddysgu cydnabod bod yn rhaid cyflwyno'r cardiau hyn yn orfodol a bod yr holl bartïon perthnasol, megis y proffesiynau iechyd ac addysg, yn deall y cardiau adnabod yn iawn, yn ogystal â'u goblygiadau. Dylid cyflawni hyn drwy lansio ymgyrch effeithiol cyn i'r cardiau adnabod gael eu cyflwyno. Dylai athrawon a gweithwyr gofal iechyd—ymysg eraill—fod yn ymwybodol o'r cerdyn a'i ddeall.
Nawr, oni bai eu bod yn orfodol a rhywfaint o ddyletswydd statudol yn eu cylch, mae gennym dystiolaeth sy'n awgrymu na fydd y cardiau'n cael eu cyflwyno'n llawn ar draws yr holl awdurdodau lleol. Pam y dylem weld un awdurdod yn bod yn dda iawn, ac awdurdod arall nad yw'n trafferthu ei wneud? Felly, mewn gwirionedd, o ran unffurfiaeth a chysondeb, mae'n hanfodol fod yna ddyletswydd statudol ynghlwm wrth hyn. Oni bai fod y cardiau hyn yn orfodol, mae perygl y bydd amrywiadau rhanbarthol yn peri annhegwch, ac y collir manteision y cardiau os bydd awdurdodau lleol yn dewis peidio â'u cymeradwyo.
Yn wir, mae'n hanfodol hefyd fod awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sydd wedi'i hymestyn. Rydym bellach yn 2019, felly beth am weithio gyda'r ddeddfwriaeth honno a'i gwneud yn ystyrlon? Mae angen iddynt gyfathrebu'n well â'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn y mae'r Ddeddf hon yn ei olygu a sut y gallai fod o fudd i'n gofalwyr ifanc. Mae angen i awdurdodau lleol ar draws Cymru sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael asesiad gofalwr amserol er mwyn iddynt allu eu cynorthwyo gyda'r heriau a wynebant drwy roi gwybodaeth a chyngor iddynt a'u cyfeirio i'r mannau y mae angen iddynt fynd. O gofio bod dros 50 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn dioddef problemau iechyd meddwl—mae hwnnw'n ffigur enfawr—mae'n hanfodol cynnwys cymorth lles. At hynny, fel y crybwyllwyd yn flaenorol, y prif faes ar gyfer gwella yw addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, gan mai dyma lle mae gofalwyr ifanc yn dangos tangyflawniad sylweddol o gymharu â phobl ifanc nad ydynt yn ofalwyr.
Yn y Llywodraeth ac mewn awdurdodau lleol, a llawer o fannau lle caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, rydym yn siarad llawer, onid ydym, am gydraddoldeb yn gyffredinol. Dyma enghraifft glasurol. Ni allwch gael sefyllfa lle mae gan 50 y cant o ofalwyr ifanc anghenion iechyd meddwl, ac nad yw'r rheini'n mynd i gael sylw. Dyma faes sy'n gallu gwella eu hymdeimlad o gyflawniad a hunan-barch drwy sicrhau llwyddiant a chyfle i wneud cynnydd yn eu dewis faes gwaith. Drwy fabwysiadu'r fframweithiau hyn mewn lleoliadau addysgol, gobeithir y bydd nifer y rhai yn y grŵp hwn sy'n gadael y brifysgol cyn pryd yn gostwng.
Dylai cyflwyno cynllun teithio rhatach fod yn rhan annatod o'r rhaglenni hyn, eto er mwyn goresgyn y rhwystrau ariannol y gallai gofalwyr ifanc eu hwynebu wrth fynychu lleoliad addysg bellach. Yn ôl y Sefydliad Dysgu a Gwaith, mae 24 y cant o oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn credu mai cyfyngiadau ariannol yw'r hyn sy'n eu hatal rhag mynychu lleoliadau addysg bellach mewn gwirionedd. Ar hyn o bryd, nid yw'r cynllun tocynnau consesiwn ond yn darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl 60 oed a hŷn, cyn-filwyr a phobl anabl, ac unwaith eto, nid yw hyn yn ystyried pa mor hanfodol yw gofalwyr ifanc yn ein cymdeithas, a sut y mae eu cyfraniad ar y cyd â gofalwyr eraill yn arbed £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi yma yng Nghymru.
Felly, heddiw, Ddirprwy Weinidog a Dirprwy Lywydd, galwaf ar Lywodraeth Cymru i gefnogi'r argymhellion a gynigir heddiw er mwyn parhau i flaenoriaethu anghenion ein hoedolion ifanc sy'n ofalwyr, sicrhau eu bod yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i barhau â'u rôl anrhydeddus a chael y cyfle gorau i greu bywyd llwyddiannus a boddhaus. Yn bersonol, rwy'n edrych ymlaen at Wythnos y Gofalwyr sydd ar y ffordd, a gwn fod yr Aelodau ar y meinciau hyn yn edrych ymlaen ati hefyd. Mae gennym lawer o asiantaethau trydydd parti yn gweithio'n galed iawn i dynnu sylw at y materion a nodais yma heddiw. Mater i Lywodraeth Cymru yn awr yw ysgwyddo eu cyfrifoldebau ei hun mewn perthynas â hyn. Cefnogwch ein cynigion yma heddiw. Diolch.