Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

QNR – Senedd Cymru ar 15 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y galw am dai fforddiadwy?

Photo of Julie James Julie James Labour

Mae’n glir o ddadansoddi’r data, a hefyd o’m trafodaethau â phartneriaid ar draws y sector tai, fod galw sylweddol am dai fforddiadwy, ac am dai cymdeithasol yn arbennig. Rwy’n cydnabod bod angen rhagor o dai, a dyna’r rheswm pam mae adeiladu rhagor o dai ar rent cymdeithasol yn flaenoriaeth ar gyfer y Llywodraeth hon.