1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mai 2019.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd tuag at greu llywodraeth ffeministaidd yng Nghymru? OAQ53882
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, cyflwynodd Jane Hutt ein huchelgais ar gyfer cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar gydraddoldeb canlyniadau i bawb. Datblygwyd y datganiad yn rhan o adolygiad cydraddoldeb rhywiol, wrth gwrs, a sefydlwyd gan Carwyn Jones ym mis Mawrth 2018.
Croesawaf fenter y gŵr bonheddig hwnnw. Diolch am hynna, Prif Weinidog. A gaf i ofyn i chi amlinellu pa newidiadau eraill ydych chi'n ei gredu fydd eu hangen yn y dyfodol i wireddu ein huchelgais ar y cyd o gydraddoldeb gwirioneddol yng Nghymru?
Diolchaf i Carwyn am y cwestiwn atodol yna. Mae yn llygad ei le; uchelgais graidd y Llywodraeth hon yw creu Cymru sy'n fwy cyfartal. Llywydd, soniaf am dair ffordd gryno yn unig y bydd y newidiadau hynny yn y dyfodol yn cael eu llunio.
Yn gyntaf oll, gwn y bydd yr Aelod wedi gweld adroddiad y comisiwn gwaith teg—menter arall a sefydlwyd ganddo. Bydd wedi gweld ei adroddiad ardderchog. Bydd yn gwybod bod Julie James eisoes wedi derbyn chwe chynnig allweddol yr adroddiad hwnnw, a chawsom drafodaethau yn ystod wythnos diwethaf a'r wythnos hon ynghylch sut y byddwn ni'n sefydlu swyddfa gwaith teg o fewn y Llywodraeth yma yng Nghymru i fwrw ymlaen â'r agenda honno.
Yn ail, fel y mae'r Aelod yn gwybod, disgwylir cam 2 yr adolygiad o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ym mis Gorffennaf eleni. Bydd yn darparu adroddiad a map ffordd. Ac mae'r map ffordd hwnnw'n wirioneddol bwysig yn y modd y dywedodd y cyn Brif Weinidog, i roi syniad i ni o'r newidiadau hynny y bydd eu hangen i sicrhau'r Gymru fwy cyfartal honno.
Ac yn drydydd, Llywydd, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, rydym ni wedi gwneud ymrwymiad i ddeddfu Rhan 1 Deddf Cydraddoldeb 2010—y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol—oherwydd, yn y pen draw, perthynas pobl â'r economi sy'n rhoi'r cyfle mwyaf sylfaenol iddyn nhw mewn bywyd, ac mae hon yn Llywodraeth sy'n benderfynol y bydd pobl yng Nghymru yn cael y cyfleoedd hynny yn deg ac yn gyfartal ar draws ein cenedl gyfan.
Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod yn eithaf dewr i'r cyn Brif Weinidog godi'r cwestiwn hwn. Ar adeg ei ymadawiad, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Llywodraeth wedi cynyddu unwaith eto ac, wrth gwrs, dyma—beth gallaf i ei alw—asesiad Chwarae Teg o'r gwaith yr oedd wedi ei wneud yn yr wyth mlynedd o fod mewn grym: dylai deddfwriaeth a fframweithiau cyfredol, fel Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, y dyletswyddau cydraddoldeb rhywiol, a'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i gydraddoldeb, a oedd yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006—
'sicrhau y caiff y broses o ystyried rhywedd a chydraddoldeb, yn fwy cyffredinol, ei hymgorffori yng nghanol prosesau llunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, cyfyngedig yw effaith y fframwaith hwn hyd yma, oherwydd heriau o ran integreiddio a gweithredu.'
Clywais yr hyn a ddywedasoch am yr hyn sy'n digwydd o fewn y Llywodraeth, ond mae gweithredu yn bwysig pan ddaw i bolisi, a hoffwn wybod beth yw eich gweledigaeth ar gyfer hyn. A dweud y gwir, rwyf i eisiau gwybod pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod pob bwriad da sy'n cael ei gyflwyno i ddeddfwriaeth a pholisi yn digwydd mewn gwirionedd ac yn cael y canlyniadau yr ydych chi'n bwriadu iddyn nhw eu cael.
Llywydd, bydd yr Aelod yn croesawu, rwy'n siŵr, y ffaith bod y ffigurau diweddaraf ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dangos ei fod yn disgyn, nid codi, yng Nghymru. Gostyngodd o 16 y cant yn 2016 i 15 y cant yn 2017 i 14 y cant yn 2018. Llawer rhy fawr, wrth gwrs, ond, yn wahanol i'r ffordd y dechreuodd ei chwestiwn, mae'r ffigurau hynny'n mynd i'r cyfeiriad iawn a gwn y bydd hi'n awyddus i'w cefnogi nhw i ostwng ymhellach ac yn gyflymach fyth.
Gofynnodd am rai manylion penodol, pethau yr ydym ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n eu gweld yn digwydd yma yng Nghymru. Unwaith eto, rwy'n siŵr y bydd hi'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn darparu absenoldeb â thâl i ddioddefwyr cam-drin domestig, fel y'i sefydlwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, a'n bod ni'n cymryd camau i sicrhau bod mwy o ymwybyddiaeth o'r hawl hwnnw a'i fod yn cael ei hysbysebu'n well ymhlith staff, a'n bod ni'n ei drafod gyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur gan ein bod ni eisiau sicrhau, y tu hwnt i'r Cynulliad, bod absenoldeb â thâl ar gael yn ehangach yn ein gwasanaethau cyhoeddus.
Ac rydym ni eisiau mynd y tu hwnt i hynny hefyd, felly byddwn yn trafod gyda'n partneriaid cymdeithasol ffyrdd y mae mathau eraill o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y gweithle yn cael eu cydnabod, bod rheolwyr yn cael eu hyfforddi'n briodol i allu adnabod yr arwyddion, eu bod yn gwybod sut y gallan nhw gyfeirio pobl i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, a bod y costau sy'n gysylltiedig â hynny i gyd yn cael eu cydnabod gan gyflogwyr yma yng Nghymru yn rhan o'n hymdrech i greu'r Gymru fwy cyfartal honno y soniodd y cyn Brif Weinidog amdani yn ei gwestiwn cyntaf.