Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 21 Mai 2019.
Llywydd, dywedaf eto: pam y mae'r Aelod yn credu bod ganddo fynediad at ddata a ddelir gan bobl eraill? Mae gan Lywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ddiwygio tenantiaethau amaethyddol, efallai fod yr Aelod yn gwybod amdano. Mae ar agor am 12 wythnos. Bydd yn cau ar 2 Gorffennaf. Bydd yn ystyried newidiadau i reoliadau ym maes tenantiaethau amaethyddol. Bydd yn ceisio diweddaru Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 a Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 er mwyn sicrhau, pan fo gan bobl hawliau y mae angen eu cynnal o dan y gyfraith, bod y gyfraith yng Nghymru mewn cyflwr addas i hynny ddigwydd.