Gwella Tir Amaethyddol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:16, 21 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'n amlwg bod y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar 'Brexit a'n tir'. Mae'n hollbwysig, os ydym ni'n mynd i ddiogelu tir amaethyddol, bod yr un pwys yn cael ei neilltuo i gadwraeth ag i gynhyrchiant y tir hwnnw i gynhyrchu ein bwyd. A allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y ddwy agwedd fel rhai pwysig yn y dyfodol er mwyn cynnal ansawdd tir amaethyddol Cymru a hyfywedd economi wledig Cymru?