1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Mai 2019.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r cynnig gofal plant a gaiff ei gyllido gan Lywodraeth Cymru? OAQ53887
Llywydd, rwy'n falch o allu dweud wrth y Siambr bod y cynnig gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth ar gael yn awr i rieni ledled Cymru gyfan erbyn hyn, ac mae hynny flwyddyn yn gynharach na'r hyn a drefnwyd yn wreiddiol.
Rwy'n croesawu'r newyddion hynny a'r ffaith ein bod ni wedi cael darpariaeth y cynnig gofal plant uchelgeisiol ac arloesol iawn hwn y mae fy nghyd-Aelod, Julie Morgan, yn bwrw ymlaen ag ef yn fedrus iawn, nid yn unig yn brydlon, ond yn unol â'r gyllideb hefyd.
Ond, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a fydd ei Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod â swyddogion ac aelodau cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sydd yn draddodiadol, yn hanesyddol, wedi gor-ddarparu'r cyfnod sylfaen gan 25 neu 30 awr yr wythnos, am gost fawr, ond yn fwriadol er mwyn bod o fudd i fywydau pobl ifanc, i weld sut y gallwn ni wneud i hyn weithio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr hefyd? Ac a gaf i ofyn hefyd beth sy'n cael ei wneud i ddatblygu'r ystyriaethau tymor hwy—tymor canolig i dymor hwy—o system fwy cydgysylltiedig a mwy cynhwysfawr o ofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar, sy'n briodol i bob oedran unigol? Ni allwn wneud hynny dros nos, ond hyrwyddais hyn pan oeddwn i mewn Llywodraeth, a byddaf yn parhau i'w hyrwyddo gan fy mod i'n credu mai dyma'r hyn y dylai Cymru fod yn ei wneud yn yr hirdymor.
Wel, diolchaf i'r Aelod am y cwestiynau ychwanegol yna. Llywydd, ar fater Pen-y-bont ar Ogwr, bydd Huw Irranca-Davies yn falch o wybod bod cyfarfod yn y dyddiadur eisoes i Julie Morgan gyfarfod ag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David, gan ei fod yn fater cymhleth, a gwn fod y Gweinidog yn teimlo y byddai'n well archwilio'r cymhlethdodau hynny wyneb yn wyneb. Mae'r cyfnod sylfaen yn gynnig cyffredinol ac mae'r cynnig gofal plant yn gynnig wedi'i dargedu—mae'r ffordd yr ydym ni'n eu dwyn ynghyd yn fater y gellir ei drafod orau o ran y manylion cymhleth hynny mewn cyfarfod wyneb yn wyneb.
Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies am yr uchelgais hirdymor i sicrhau bod gennym ni brofiadau o ansawdd uchel ac ysgogol mewn lleoliadau gofal a lleoliadau dysgu. Dyma pam yr ydym ni wedi darparu £60 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf ychwanegol a fydd yn mynd i 115 o leoliadau gofal plant. Mae cydleoli'r cyfnod sylfaen a darpariaeth y cynnig gofal plant ychwanegol yn gwbl ganolog i'r hyn y mae'r £60 miliwn i fod i'w gyflawni, fel bod gennym ni ofal plant a dysgu blynyddoedd cynnar fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch mewn modd sy'n dod â'r ddau beth hynny at ei gilydd mewn modd grymus.
Rydym ni'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd, wedi dilyn addewid maniffesto grŵp Ceidwadwyr y Cynulliad i ddarparu 30 awr yr wythnos o ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio. Yn wir, dylai hyn fod yn helpu rhieni ledled Cymru i fforddio cymorth ac iddyn nhw fod yn hyderus y gallan nhw aros mewn gwaith.
Fel y bydd Huw Irranca-Davies AC yn gwybod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, fodd bynnag, wrth gymryd tystiolaeth, bu rhywfaint o siom ynghylch y nifer sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant a phryder ynghylch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi egluro pa gamau yr ydych chi a'ch Llywodraeth yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod rhieni ledled Cymru yn ymwybodol o'r gofal plant rhad ac am ddim y mae ganddyn nhw'r hawl i'w gael?
Wel, Llywydd, erbyn mis Mawrth eleni, roedd dros 11,000 o blant eisoes yn elwa ar y cynnig, roedd dros 1,700 o ddarparwyr gofal plant yn cymryd rhan ynddo ledled Cymru ac roedd 30 y cant o'r plant a oedd yn cymryd rhan ynddo yn cael eu gofal plant trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob un o'r rheini yn ymddangos i mi fel sylfeini cadarn iawn y gallwn ni barhau i wneud yn siŵr ar eu sail, gyda chyflwyniad cynnar ar gael ledled Cymru, ein bod ni'n hysbysebu'r cynnig; bod y cyfleusterau yno gennym ni drwy'r £60 miliwn a mentrau eraill i sicrhau bod cynnig ar gael y mae rhieni eisiau manteisio arno; a'n bod ni'n parhau i ddysgu o brofiadau byw rhieni sy'n manteisio ar y cynnig eisoes. Edrychaf ymlaen, yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn, at weld mwy o blant, mwy o ddarparwyr a gofal mwy integredig i adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn llwyddiant sylweddol iawn.