Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 21 Mai 2019.
Wel, mae'r ddau gynnig hynny'n wir. Mae cynlluniau ar y gweill i ddarparu rhagor o dystiolaeth. Rwyf i fy hun, er enghraifft, wedi bod i Ogledd Iwerddon ac i'r Alban i edrych ar sut mae pethau'n gweithio yno. Mae rhai o'r nodweddion y byddai'n rhaid inni ddelio â nhw efallai mewn setliad yn y dyfodol yma yn rhai sydd eisoes yn rhan o fywyd bob dydd ymarferwyr cyfreithiol yng Ngogledd Iwerddon. Felly, bydd posibilrwydd o ragor o dystiolaeth, ond ar hyn o bryd, rydym yn cadw at dystiolaeth Llywodraeth Cymru.