Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol') – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 21 Mai 2019.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Cwnsler Cyffredinol, am eich ateb i'r cwestiwn gwreiddiol. Mae'n bwysig, wrth gwrs, ein bod yn gweld creu awdurdodaeth i Gymru er mwyn gallu sefydlu setliad cydlynol a sefydlog yn y wlad hon. Byddwch wedi gweld adroddiad pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar faterion Cymreig, a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, a hefyd gyhoeddiadau'n ddiweddar gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddyfodol y gwasanaeth prawf. Mae'r materion hyn i gyd, wrth gwrs, yn feysydd lle mae anhawster aruthrol yn cael ei achosi drwy gael yr awdurdodaeth bresennol rhwng Cymru a Lloegr, a lle mae pobl yn dioddef yn y wlad hon o ganlyniad i'r sefyllfa honno.
Fy nghwestiwn i chi y prynhawn yma yw bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflwyno ei barn i gomisiwn Thomas: a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gyflwyno unrhyw dystiolaeth ychwanegol i'r comisiwn, neu a yw Llywodraeth Cymru yn glynu wrth y dystiolaeth a roddwyd gennyf i, ac, ar y pryd, ef ei hun, a chyn Brif Weinidog Cymru?