7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Blwyddyn Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ieithoedd Cynhenid

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 21 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:48, 21 Mai 2019

Diolch yn fawr am eich datganiad chi. Fel arfer, mae’n rhaid imi ofyn faint o sylwedd sydd i’r geiriau sydd yn y datganiad. Gaf i eich atgoffa chi o rai o ddigwyddiadau diweddar y Llywodraeth yma o ran y Gymraeg? Ymyrraeth gan is-Weinidog ym mhroses gyflogaeth y Llyfrgell Genedlaethol, ble ceisiodd sicrhau na fyddai’r swydd yn mynd i siaradwr Cymraeg; sylwad absẃrd gennych chi, y Gweinidog dros y Gymraeg, a dwi’n dyfynnu, y byddai Cartrefi Cymunedol Gwynedd mewn perygl o ddisgrimineiddio pe byddan nhw’n rhoi’r Gymraeg fel sgil hanfodol ar gyfer eu swyddi—ymyrraeth a sylwadau sy’n ddilornus o’r Gymraeg, sydd hefyd yn mynd yn hollol groes i’ch strategaeth chi’ch hun o ran y Gymraeg yn y gweithlu, a sylwadau sy’n gwneud imi wrando ar eich datganiad chi heddiw efo pinsiad mawr iawn o halen. Ac rydych chi wedi sôn y prynhawn yma am bwysigrwydd canolfannau trochi, ond yn torri’r grant sydd i'w cynnal nhw, felly mae’r pinsiad o halen yma’n mynd yn fwy.

Dwi’n nodi bod tri amcan ar gyfer y Flwyddyn Ryngwladol ar gyfer Ieithoedd Brodorol, ac mai’r olaf o’r rhain ydy rhoi help i warchod hawliau siaradwyr yr ieithoedd hynny. Rydym ni’n hynod o lwcus yng Nghymru: cenedl fechan, ddi-wladwriaeth, ond mae gennym ni ddeddfwriaeth ar waith er mwyn gwneud yn union hynny, er mwyn diogelu’n hawliau ni—yn wahanol, yn anffodus, i’r sefyllfa efo ieithoedd lleiafrifol mewn llawer o wledydd ar draws y byd. Yn 2011, fe basiwyd Deddf arwyddocaol a phwysig dan arweiniad Plaid Cymru, a chyn-Aelod Cynulliad Arfon, Alun Ffred Jones. Mae'r Ddeddf honno'n rhoi statws swyddogol gydradd i'r Gymraeg yn y sector gyhoeddus, ond mae'r Llywodraeth wedi bod yn araf iawn yn gweithredu'r Ddeddf, ac, yn anffodus, mae llawer iawn o waith i'w wneud o ran gosod safonau. Does yna ddim esboniad o ran yr oedi gyda gosod safonau cymdeithasau tai, dŵr, cwmnïau post, bysiau, trenau, rheilffyrdd, nwy a thrydan, telathrebu.

Felly, hoffwn i ofyn heddiw, eto, ac yng ngoleuni amcan 3 y flwyddyn ryngwladol yma ynglŷn â hawliau: beth ydy'r amserlen ar gyfer symud ymlaen efo'r holl safonau sydd angen eu gosod? Mae hi'n wyth mlynedd ers pasio'r Ddeddf arloesol yma. Yng nghysgod Brexit a thwf y dde eithafol, mae angen i ni, yn fwy nag erioed, warchod hawliau ieithyddol pobl Cymru.

Ond, er mor angenrheidiol ydy hawliau unigolion i fyw drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen mynd ymhellach o lawer na hyn. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod yn llawn fod y Gymraeg yn iaith gymunedol, yn iaith fyw ddydd-i-ddydd mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, yn benodol yn y gorllewin, neu ardal Arfor, sef Môn, Gwynedd, Ceredigion, Caerfyrddin a rhai o'r ardaloedd cyfagos. Mae llawer o drigolion y bröydd hyn yn byw eu bywydau'n naturiol drwy'r Gymraeg, a dwi'n meddwl weithiau fod yna ddiffyg dealltwriaeth gwaelodol ynglŷn â hyn. Dim rhywbeth artiffisial ydy'r Gymraeg yn fy mywyd i yn Arfon, ond elfen gwbl naturiol o fy mywyd teuluol, cymdeithasol a chymunedol, ac mae angen pwyslais ar yr elfen gymunedol yma o'r Gymraeg yn ogystal â'r pwyslais ar hawliau unigol.

Mae ardal Arfor ymhlith y tlotaf yn Ewrop, ac mae pobl ifanc yn gorfod gadael yr ardal am waith, gan wanio'r Gymraeg a'r gwead cymunedol ieithyddol. Mi hoffwn i wybod beth ydy eich polisïau chi ynglŷn â datblygu nid yn unig y Gymraeg, ond yr economi, y gwasanaethau cyhoeddus, polisïau tai a chynllunio pwrpasol, trafnidiaeth ac yn y blaen. Beth ydy cynlluniau'ch Llywodraeth chi ar gyfer datblygu strategaeth benodol, ranbarthol ar gyfer yr ardal yma? 'Heb waith, heb iaith', meddai'r dywediad. Beth yn union ydy eich cynlluniau chi yn sgil hyn i gyd?

Ac, os ydym ni o ddifrif am gynnal y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ein bröydd Cymraeg, mae angen i ni sicrhau bod yna swyddi o safon uchel yn y gorllewin fel bod pobl ifanc yn gallu aros yn eu cymunedau os maen nhw'n dymuno gwneud hynny, ac mi ellid dechrau drwy sbïo ar swyddi'r Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i adleoli swyddi neu i leoli unrhyw swyddi newydd sydd yn dod yn uniongyrchol dan reolaeth eich Llywodraeth eich hun—pa gynlluniau sydd yna i leoli'r swyddi yma yn ardal Arfor? Arfor, nid Arfon.