Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 22 Mai 2019.
Er mwyn parhau i wella'r lefel hon o gymorth a gofal, mae angen i ni fynd ati yn y tymor hir i ariannu'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol. Mae'n rhan allweddol o sicrhau bod cleifion yn gallu gwella eu hyder drwy ymarfer corff a rheoli eu diffyg anadl. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddi mewn mentrau i leihau'r risg y bydd angen i gleifion gael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen, sy'n gostus ac yn osgoadwy, a dylai hyn gynnwys pecynnau achub cleifion sy'n cynnwys cwrs o feddyginiaethau gwrthfiotig a thabledi corticosteroid i'w cadw gartref a hunan-reoli gyda'r cyngor a'r anogaeth sydd eu hangen. A byddai hynny'n galluogi ymateb prydlon i symptomau sy'n gwaethygu. Hefyd, mae angen inni weld gwell cyllid ar gyfer cymorth nyrsio cymunedol er mwyn i gleifion allu cael gafael ar wasanaethau cymorth a chyngor gyda'r gofal sydd ynghlwm wrthynt a'r hunanreolaeth well y mae'n ei olygu, a hunangyfeirio yn ôl yr angen at wasanaethau yn y gymuned. Byddai hyn, yn ei dro, yn gwella'r defnydd o fesurau ataliol.
Mae pobl sy'n byw gyda'r clefydau hyn yn wynebu mwy o risg o gymhlethdodau difrifol sy'n gysylltiedig â'r ffliw, wrth gwrs, ond er gwaethaf hyn, dim ond 46.9 y cant a fanteisiodd ar frechiad yn erbyn ffliw ymhlith rhai rhwng chwe mis oed a 64 oed mewn unrhyw grŵp risg clinigol yn ystod tymor ffliw 2016-17, yn erbyn targed o 75 y cant. Ymhlith y rheini â chlefyd anadlol cronig, 46.5 y cant a fanteisiodd ar y brechiad, cyfradd sydd wedi aros yn ei hunfan dros y pum mlynedd diwethaf. Pe bai honno'n cynyddu, byddai'n lleihau'r risg o gymhlethdodau'n gysylltiedig â ffliw a derbyniadau i'r ysbyty.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at adsefydlu'r ysgyfaint drwy'r cynllun cyflawni iechyd anadlol. Mae'n ymyrraeth gosteffeithiol i bobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau eraill yr ysgyfaint. Gellir dadlau bod cymorth i roi'r gorau i ysmygu gyda ffarmacotherapi ac ymyriadau adsefydlu'r ysgyfaint yn ffordd fwy costeffeithiol o helpu cleifion, yn hytrach na gwariant anghymesur ar driniaethau anadlydd ar wahân. Mae'r afiechydon a'r cyflyrau hyn yn rhan o'r agenda iechyd cyhoeddus ehangach, gan gynnwys ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae ein gweithredoedd yn ei chael ar yr amgylchedd o'n cwmpas.
Mae pobl mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru yn anadlu lefelau o lygredd aer sy'n anghyfreithlon ac yn niweidiol i'w hiechyd. Mae'n broblem amgylcheddol, ond yn fater iechyd cyhoeddus brys hefyd. Bydd cael mwy o bobl i gerdded a beicio wrth gymudo'n ddyddiol a'r daith i'r ysgol ac yn ôl yn lleddfu tagfeydd yn ystod oriau brig ar ein ffyrdd, yn lleihau aer o ansawdd gwael ac yn ein gwneud yn fwy heini ac yn iachach. Rhaid dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar argyfwng hinsawdd â syniadau newydd a chamau gweithredu cadarn pellach. Ar draws y byd, ceir teimlad cynyddol fod rhaid gwneud mwy—o'r protestiadau Extinction Rebellion diweddar yn Llundain i'r geiriau pwerus gan bobl fel yr ymgyrchydd ifanc, Greta Thunberg, yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni i gyd weithredu'n gyflym a gwneud ein rhan i amddiffyn ein planed.
Bydd lleihau lefelau llygredd aer o fudd mawr i bawb yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n byw gyda salwch anadlol a COPD. Mae cynlluniau teithio llesol a rhwydweithiau trafnidiaeth integredig, megis metro de Cymru, yn gyfle ar gyfer newid mawr ei angen. Maent yn tynnu mwy o bobl allan o'u ceir, i gerdded ac i feicio, gyda'r holl fanteision sydd ynghlwm wrth hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd, rwy'n credu, drwy fod yn un o'r gwledydd cyntaf i fwrw ymlaen â deddfwriaeth arloesol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Felly, i orffen, Lywydd, rwy'n falch o gael y cyfle hwn heddiw i ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint ymhellach er mwyn gwrthsefyll salwch anadlol yng Nghymru a mesurau ataliol fel y brechlyn ffliw, rhoi'r gorau i ysmygu, a nyrsys ardal a chymorth cymunedol pellach. Credaf y bydd canolbwyntio ar y mathau hynny o fesurau ataliol yn arwain at y math o gynnydd y mae pob un ohonom am ei weld ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dioddef o glefyd yr ysgyfaint yng Nghymru.