– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 22 Mai 2019.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n mynd, a allant wneud hynny'n gyflym. Na, mae'n ddrwg gennyf—dim sgyrsiau yn y Siambr. Os ydych chi am gael sgwrs, ewch allan os gwelwch yn dda. Rwy’n bwriadu symud ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar John Griffiths i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis. John.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle heddiw i drafod y trydydd achos marwolaeth mwyaf cyffredin yng Nghymru heddiw, clefyd yr ysgyfaint. Mae salwch anadlol yn effeithio ar un o bob pum bywyd yng Nghymru, cyfradd uwch na chyfartaledd y DU. Nid yw cyfraddau marwolaethau wedi gwella llawer yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac yn anffodus, gennym ni y mae'r ffigurau sy'n bedwerydd uchaf yn Ewrop.
Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi canfod bod y gost i'r DU oddeutu £11 biliwn y flwyddyn, ac mae cyfran sylweddol ohoni'n ymwneud â Chymru. Mae'r marwolaethau'n 15 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, ac o fewn hyn, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint sydd i gyfrif am y nifer uchaf ohonynt. Grŵp o gyflyrau yw COPD, sy'n gynnwys broncitis ac emffysema. Maent yn ei gwneud yn anodd i wagio'r aer o'r ysgyfaint gan fod y llwybrau anadlu wedi culhau, gan ei gwneud yn anos symud aer i mewn ac allan wrth i chi anadlu, ac mae'r ysgyfaint yn llai abl i gymryd ocsigen i mewn a chael gwared ar garbon deuocsid. Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn cynghori gweithgareddau ac ymarfer corff i helpu i wella anadlu, ffitrwydd ac ansawdd bywyd. O'i wneud yn rheolaidd, gall hyn helpu i wrthdroi effaith y cyflwr drwy gryfhau'r cyhyrau. Mae hefyd yn llesol i'r galon a phwysedd gwaed ac yn gwneud pobl yn llai tebygol o ddatblygu cyflyrau fel diabetes ac osteoporosis.
Mae adsefydlu'r ysgyfaint yn rhaglen gynlluniwyd ar gyfer pobl sy'n byw gyda COPD. Mae'n cyfuno sesiynau ymarfer corff gyda chyngor a thrafodaethau am iechyd eich ysgyfaint. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gweld ei fod yn gwella ansawdd eu bywyd, ac mae'r effaith yn aml yn fwy na'r hyn sy'n digwydd wrth gymryd meddyginiaethau a fewnanadlir, er mai cyfuno'r ddau sy'n debygol o gynnig y budd mwyaf.
Mae ffordd o fyw yn bwysig iawn. Mae'r arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru 2017/18 yn datgelu bod 19 y cant o bobl yn ysmygu yng Nghymru, a bod 59 y cant o oedolion dros bwysau neu'n ordew. Ar hyn o bryd yng Nghasnewydd, mae 21 y cant o oedolion yn ysmygu, sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Gwent a Chymru. Mae'r rhain yn ffactorau cyfrannol pwysig. Mae ysmygu yn achosi dros 80 y cant o achosion o COPD a chanser yr ysgyfaint ac yn achosi neu'n gwaethygu pob cyflwr anadlol arall. Hefyd, mae salwch anadlol ddwywaith yn fwy tebygol o ddigwydd ymhlith unigolion sy'n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf difreintiedig—11 y cant o gymharu â 6 y cant. Mae'r ystadegau moel hyn yn destun pryder, ac mae darparu gwasanaethau cymorth, mesurau ac ymyriadau cydgysylltiedig ledled Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob claf yn gallu manteisio ar yr ystod o wasanaethau a thriniaethau sydd ar gael.
Ysmygu sy'n achosi'r nifer fwyaf o farwolaethau y gellir eu hosgoi ac anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru, ac mae'r cyfraddau wedi aros yn eu hunfan ar 19 y cant ers 2015. Rhaid i gamau cymunedol ar lefel llawr gwlad gael y cymorth ariannol sydd ei angen i helpu pobl i roi'r gorau am byth i sigaréts yn effeithiol. Y lefel hon o gymorth yn y gymuned sydd hefyd yn werthfawr iawn i ganiatáu i'r rhai sy'n byw gyda chyflyrau'r ysgyfaint a chlefyd yr ysgyfaint reoli eu cyflyrau yn y ffordd orau. Mae Cancer Research UK wedi nodi bod ymhell dros 10,000 o drigolion Cymru sy'n ysmygu wedi cael eu trin gan wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol, sef 2.24 y cant o'r boblogaeth, sy'n sylweddol is na'r targed o 5 y cant. Yr hyn sy'n peri pryder yw bod ymchwil ddiweddaraf Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn amlygu sefyllfa gyfredol o ganlyniadau sy'n gwaethygu yng Nghymru—cynnydd yn nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty, cyfraddau marwolaeth ac ansawdd bywyd gwaeth. Mae clefydau'r ysgyfaint yn arwain at fwy na 700,000 o dderbyniadau i'r ysbyty a thros 6 miliwn o ddiwrnodau gwely cleifion mewnol yn y DU bob blwyddyn. Mae llai o bobl yn gwneud defnydd o raglenni addysg ac ymarfer corff sy'n helpu unigolion i hunanreoli eu cyflwr yn well a chynnal ansawdd bywyd da, ac mae'r niferoedd sy'n manteisio ar frechlyn y ffliw a gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yn isel. Mae mesurau ataliol yn hanfodol bwysig i helpu i gefnogi cleifion a'u teuluoedd. Mae buddsoddi ymhellach yn y ddarpariaeth addysg, ymarfer corff a hunanreoli yn ffordd ymarferol o wella bywydau'r rhai sy'n byw gyda chlefyd yr ysgyfaint yng Nghymru. Ceir tystiolaeth helaeth y gall datblygu hunanreoli gynyddu annibyniaeth, gwybodaeth a newid cadarnhaol mewn ymddygiad, er enghraifft, mwy o ymarfer corff a rhoi'r gorau i ysmygu, sy'n galluogi pobl sy’n dioddef o COPD i gael gwell iechyd.
Yn anffodus, nid yw pawb yn gallu elwa ar wasanaeth adsefydlu’r ysgyfaint, gyda dim ond 1 o bob 10 o bobl yn defnyddio gwasanaethau. Mae amseroedd aros ledled Cymru yn amrywio o 77 wythnos i lai nag 8 wythnos, gyda chyn lleied â thair rhaglen y flwyddyn yn cael eu cynnig i gleifion mewn rhai ardaloedd. Fe ddylid ac fe ellid aildrefnu cyllid oddi wrth driniaethau drud gydag anadlwyr tuag at ymyriadau mwy costeffeithiol. Mae'r cymorth adsefydlu yn cynnig y cymorth amhrisiadwy y soniais amdano ac yn gwella cryfder y cyhyrau. Mae'n helpu cleifion i ymdopi'n well â diffyg anadl ac yn cefnogi iechyd meddwl gwell.
Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio cynyddu mynediad drwy'r cynllun cyflawni iechyd anadlol a gobeithiaf y byddant hwy a byrddau iechyd yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau o ansawdd uchel ledled ein gwlad. Yn gynharach eleni, roeddwn yn falch iawn o ymuno â rhaglen Helping You Help Yourself Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yng Nghasnewydd, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Casnewydd. Mae tua 1.8 y cant o boblogaeth fy etholaeth yn byw gyda COPD, ac mae cyfartaledd Cymru, sef 2.3 y cant, yn uwch na chyfartaledd gweddill y DU.
Gan weithio gyda’r Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, mae'r sefydliad wedi datblygu rhaglen addysg ac ymarfer corff saith wythnos o hyd i helpu cyfranogwyr i ddeall eu cyflwr yn well. Bydd yn gwella iechyd ac yn darparu'r dulliau i gadw'n weithgar a rheoli cyflyrau'n annibynnol. Cyflwynir y rhaglen gan gydlynydd rhaglen y Gronfa Loteri Fawr, gweithiwr gofal iechyd proffesiynol a thiwtor gwirfoddol sydd â phrofiad o fyw gyda COPD.
Gwelais drosof fy hun y gwahaniaeth y mae'r rhaglenni hyn yn ei wneud ac wedi'i wneud i bobl y mae clefyd yr ysgyfaint yn effeithio ar eu bywydau. Hyd yma, mae 123 o gyfranogwyr mewn 27 o raglenni ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y cynllun, gyda'r pedair rhaglen yng Nghasnewydd yn cynnwys 20 o bobl. Yng Nghasnewydd, cynyddodd nifer y cyfranogwyr a oedd yn teimlo bod ganddynt ddealltwriaeth dda o'u cyflwr ysgyfaint 42 y cant ac roedd cynnydd o 7 y cant yn y niferoedd a oedd yn teimlo eu bod wedi mabwysiadu patrymau ymddygiad iechyd mwy cadarnhaol fel bwyta'n iach a bywyd cymdeithasol gwell. Gwelwyd cynnydd amlwg yn y pellter cyfartalog y gellid ei gerdded mewn chwe munud, o 364 metr i 407 metr gyda llai o ddiffyg anadl. A dywedodd mwyafrif llethol, 96 y cant, eu bod yn teimlo bod y rhaglen a'r deunyddiau’n ddefnyddiol.
Yn wir, disgrifiodd un o fy etholwyr, sef Michael Taylor, sut oedd y cwrs hwn wedi ei ryddhau o ddedfryd oes o fyw mewn anwybodaeth mewn perthynas â'i gyflwr. Dywedodd ei fod wedi ei gyflwyno i eraill sy'n byw gyda'r cyflwr ac wedi ei helpu i ddeall sut y byddai ymarfer corff yn ei alluogi i gael dealltwriaeth lawn o’r cyflwr a gwelliant yn ei iechyd a rhoi cyfle iddo ef ac eraill a oedd yn cymryd rhan i ofyn cwestiynau perthnasol a chael cymorth ar unwaith, gan eu galluogi i oresgyn unrhyw bryderon neu ofidiau a oedd ganddynt. Y peth pwysicaf a ddysgodd y cwrs iddo oedd nad oedd ar ei ben ei hun yn dioddef fel yr arferai fod a bod yna sefydliadau fel Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ymarferwyr meddygol a gwirfoddolwyr yn hapus i roi eu hamser a'u gofal i wella ansawdd bywyd y rhai sy'n byw gyda salwch anadlol. Ddirprwy Lywydd, rwy’n credu bod ei eiriau’n atgoffa pob un ohonom am yr effaith gadarnhaol iawn y gall gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint ei chael ar iechyd a lles pobl, a gwn fod llawer o Aelodau eraill y Cynulliad wedi ymweld â rhaglenni ac wedi cael profiad uniongyrchol o'u gwerth.
Er mwyn parhau i wella'r lefel hon o gymorth a gofal, mae angen i ni fynd ati yn y tymor hir i ariannu'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff er mwyn rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr ac awdurdodau lleol. Mae'n rhan allweddol o sicrhau bod cleifion yn gallu gwella eu hyder drwy ymarfer corff a rheoli eu diffyg anadl. Mae angen inni weld mwy o fuddsoddi mewn mentrau i leihau'r risg y bydd angen i gleifion gael eu derbyn i'r ysbyty yn ddiangen, sy'n gostus ac yn osgoadwy, a dylai hyn gynnwys pecynnau achub cleifion sy'n cynnwys cwrs o feddyginiaethau gwrthfiotig a thabledi corticosteroid i'w cadw gartref a hunan-reoli gyda'r cyngor a'r anogaeth sydd eu hangen. A byddai hynny'n galluogi ymateb prydlon i symptomau sy'n gwaethygu. Hefyd, mae angen inni weld gwell cyllid ar gyfer cymorth nyrsio cymunedol er mwyn i gleifion allu cael gafael ar wasanaethau cymorth a chyngor gyda'r gofal sydd ynghlwm wrthynt a'r hunanreolaeth well y mae'n ei olygu, a hunangyfeirio yn ôl yr angen at wasanaethau yn y gymuned. Byddai hyn, yn ei dro, yn gwella'r defnydd o fesurau ataliol.
Mae pobl sy'n byw gyda'r clefydau hyn yn wynebu mwy o risg o gymhlethdodau difrifol sy'n gysylltiedig â'r ffliw, wrth gwrs, ond er gwaethaf hyn, dim ond 46.9 y cant a fanteisiodd ar frechiad yn erbyn ffliw ymhlith rhai rhwng chwe mis oed a 64 oed mewn unrhyw grŵp risg clinigol yn ystod tymor ffliw 2016-17, yn erbyn targed o 75 y cant. Ymhlith y rheini â chlefyd anadlol cronig, 46.5 y cant a fanteisiodd ar y brechiad, cyfradd sydd wedi aros yn ei hunfan dros y pum mlynedd diwethaf. Pe bai honno'n cynyddu, byddai'n lleihau'r risg o gymhlethdodau'n gysylltiedig â ffliw a derbyniadau i'r ysbyty.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n cefnogi dyhead Llywodraeth Cymru i gynyddu mynediad at adsefydlu'r ysgyfaint drwy'r cynllun cyflawni iechyd anadlol. Mae'n ymyrraeth gosteffeithiol i bobl sy'n byw gyda chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint a chyflyrau eraill yr ysgyfaint. Gellir dadlau bod cymorth i roi'r gorau i ysmygu gyda ffarmacotherapi ac ymyriadau adsefydlu'r ysgyfaint yn ffordd fwy costeffeithiol o helpu cleifion, yn hytrach na gwariant anghymesur ar driniaethau anadlydd ar wahân. Mae'r afiechydon a'r cyflyrau hyn yn rhan o'r agenda iechyd cyhoeddus ehangach, gan gynnwys ymwybyddiaeth gynyddol o'r effaith y mae ein gweithredoedd yn ei chael ar yr amgylchedd o'n cwmpas.
Mae pobl mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru yn anadlu lefelau o lygredd aer sy'n anghyfreithlon ac yn niweidiol i'w hiechyd. Mae'n broblem amgylcheddol, ond yn fater iechyd cyhoeddus brys hefyd. Bydd cael mwy o bobl i gerdded a beicio wrth gymudo'n ddyddiol a'r daith i'r ysgol ac yn ôl yn lleddfu tagfeydd yn ystod oriau brig ar ein ffyrdd, yn lleihau aer o ansawdd gwael ac yn ein gwneud yn fwy heini ac yn iachach. Rhaid dilyn y datganiad diweddar gan Lywodraeth Cymru ar argyfwng hinsawdd â syniadau newydd a chamau gweithredu cadarn pellach. Ar draws y byd, ceir teimlad cynyddol fod rhaid gwneud mwy—o'r protestiadau Extinction Rebellion diweddar yn Llundain i'r geiriau pwerus gan bobl fel yr ymgyrchydd ifanc, Greta Thunberg, yn ein hatgoffa bod yn rhaid i ni i gyd weithredu'n gyflym a gwneud ein rhan i amddiffyn ein planed.
Bydd lleihau lefelau llygredd aer o fudd mawr i bawb yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy'n byw gyda salwch anadlol a COPD. Mae cynlluniau teithio llesol a rhwydweithiau trafnidiaeth integredig, megis metro de Cymru, yn gyfle ar gyfer newid mawr ei angen. Maent yn tynnu mwy o bobl allan o'u ceir, i gerdded ac i feicio, gyda'r holl fanteision sydd ynghlwm wrth hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd, rwy'n credu, drwy fod yn un o'r gwledydd cyntaf i fwrw ymlaen â deddfwriaeth arloesol, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Felly, i orffen, Lywydd, rwy'n falch o gael y cyfle hwn heddiw i ofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint ymhellach er mwyn gwrthsefyll salwch anadlol yng Nghymru a mesurau ataliol fel y brechlyn ffliw, rhoi'r gorau i ysmygu, a nyrsys ardal a chymorth cymunedol pellach. Credaf y bydd canolbwyntio ar y mathau hynny o fesurau ataliol yn arwain at y math o gynnydd y mae pob un ohonom am ei weld ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sy'n dioddef o glefyd yr ysgyfaint yng Nghymru.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i John Griffiths am gyflwyno'r pwnc hwn ar gyfer y ddadl fer. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn cydnabod baich sylweddol clefyd anadlol ar gymdeithas—yr effaith a gaiff ar fywydau beunyddiol pobl sydd â chyflyrau anadlol cronig, yr effaith a gaiff ar wasanaethau gofal anadlol o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol , a'r effeithiau cysylltiedig ar ofal cymdeithasol, a'r effaith y mae'n ei chael yn fwy cyffredinol ar ein heconomi.
Yn achos pobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr anadlol, a nodweddir yn aml gan ddiffyg anadl, mae angen inni sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau a chyfleoedd priodol ar gael yn rhwydd i'w cynorthwyo. Bydd hyn yn amrywio o ddulliau rhagnodi cymdeithasol, megis cyfranogiad mewn grwpiau cerdded lleol, i ymyriadau lefel is dan arweiniad megis y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff y cyfeiriodd John Griffiths ato, i wasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint mwy dwys a chyfannol ar gyfer pobl â diffyg anadl mwy difrifol, sef prif ffocws yr araith.
Mae pob bwrdd iechyd yn darparu gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint, ond rwy'n cydnabod bod heriau o ran sicrhau bod y gwasanaeth ar gael bob amser mewn modd amserol, a gwnaeth John Griffiths sylw ar hyn yn ystod ei araith. Gwyddom y ceir llawer o bobl nad ydynt yn gweithredu ar ôl cael eu hatgyfeirio at wasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint, o ystyried hyd yr amser y gall ei gymryd i gael mynediad ato a'r gofynion amser y mae'n ei osod ar bobl. Ni fydd nifer sylweddol o bobl yn cwblhau'r cwrs, sy'n gallu para chwech i wyth wythnos cyn i bobl gamu i lawr i lefel lai dwys o gymorth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu cyfranogiad y GIG mewn nifer o archwiliadau cenedlaethol o wasanaethau anadlol. Mae'r rhain wedi dadansoddi'r ddarpariaeth o wasanaethau adsefydlu'r ysgyfaint ac wedi gwneud argymhellion i fyrddau iechyd ar gyfer gwella. Yn benodol, maent yn tynnu sylw at bwysigrwydd adsefydlu'r ysgyfaint i'r rheini sydd wedi'u derbyn i'r ysbyty yn ddiweddar wedi i'w COPD waethygu. Dyna pam mai'r dull cenedlaethol yw edrych ar sut y gellir cynorthwyo pobl i gael mynediad at raglen sy'n fwy addas i'w hamgylchiadau a'u dewisiadau unigol.
Felly, rydym yn ymrwymedig i ddatblygu a gwella mynediad at amrywiaeth o ymyriadau wedi'u teilwra, gan gynnwys adsefydlu'r ysgyfaint. Mae gennym waith pwysig wedi'i nodi yn y cynllun cyflawni iechyd anadlol ac roeddwn yn falch o glywed John Griffiths yn ei gydnabod. Mae'r gwaith hwnnw'n cael ei ddatblygu gan arweinwyr yn y GIG a'r trydydd sector, yn enwedig Cynghrair Anadlol Cymru.
Buddsoddwyd yn y gwasanaeth ledled Cymru. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn enghraifft dda—maent wedi symud y gwasanaeth allan o ysbytai ac i mewn i leoliadau cymunedol. Mae'n wasanaeth sydd wedi'i gydnabod â gwobr GIG Cymru, a hefyd yn un rwyf wedi ymweld ag ef i weld yr amrywiaeth o waith y maent yn ei wneud—nid yn unig y rhyngweithio a'r gwelliant corfforol ond hefyd y gwelliant a'r rhyngweithio cymdeithasol wrth i bobl gael lleoliad i fynd iddo, a'r newid ymddygiad sy'n gwreiddio yn sgil hynny o bosibl.
Gwyddom fod ysmygu'n gyfrifol am lawer o'r anabledd a welsom mewn perthynas â chlefydau'r ysgyfaint. Mae'n bwysig inni ystyried pwysigrwydd rhoi'r gorau i ysmygu i bobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint yn ogystal â'r boblogaeth gyffredinol sy'n ysmygu, oherwydd mae ysmygu'n dal i achosi dros 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn yng Nghymru ac mae'n costio mwy na £300 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru. Erys ysmygu'n un o'r prif resymau dros anghydraddoldebau mewn iechyd, ac mae cyfraddau ysmygu yn ein cymunedau lleiaf cefnog yn fwy na dwbl y rhai yn ein cymunedau mwyaf cefnog.
Y peth gorau y gall unrhyw ysmygwr ei wneud i wella ei iechyd yw rhoi'r gorau i ysmygu. Ceisiodd dros 40 y cant o ysmygwyr roi'r gorau iddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n bwysig fod cymaint â phosibl yn ceisio help i roi'r gorau iddi, am fod hynny'n cynyddu eu siawns o roi'r gorau iddi'n llwyddiannus. Felly, ein prif nod yw gweld mwy o ysmygwyr yn defnyddio ein brand Helpa Fi i Stopio ar gyfer gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yng Nghymru.
Rydym wedi ystyried y dystiolaeth wrth benderfynu ar y ffordd orau o gynorthwyo ysmygwyr i roi'r gorau iddi. Mae pobl sy'n dymuno rhoi'r gorau i ysmygu, gan ddefnyddio cymorth ymddygiadol yn seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â meddyginiaeth neu therapi disodli nicotin y mae gwasanaethau Helpa Fi i Stopio y GIG yn ei darparu—os ydynt yn gwneud hynny, maent dros bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi na'r rhai sy'n ceisio rhoi'r gorau iddi heb gymorth.
Lluniwyd y gwasanaeth integredig Helpa Fi i Stopio i annog ysmygwyr i ddod i gysylltiad drwy ddefnyddio'r llinell gymorth, gwefan neu drwy neges destun. Bydd cynghorydd hyfforddedig yn rhoi esboniad clir o'r gwahanol wasanaethau sydd ar gael yn lleol ac yn helpu'r sawl sy'n ffonio i ddewis y gwasanaeth sy'n gweddu orau i'w amgylchiadau a'i ddymuniadau—gall hynny fod mewn grŵp a gynhelir yn lleol, fel arfer mewn lleoliad gwasanaeth iechyd neu gymunedol. Er enghraifft, yng Nghasnewydd, cynhelir grwpiau yng nghanolfan hamdden Casnewydd a Chlwb Gwasanaeth Sifil Betws yn ogystal ag mewn nifer o gyfleusterau gofal sylfaenol, neu gallai ysmygwr ddewis cael cymorth mewn fferyllfa leol neu dros y ffôn. Hefyd, mae gennym ap Smoke Free—Quit Smoking Now i helpu pobl i gael cymorth ychwanegol.
Rwy'n falch o rannu enghreifftiau pellach o arferion da gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae gwasanaethau adsefydlu'r ysgyfaint yn y bwrdd iechyd yn sicrhau bod pob claf sy'n ysmygu yn cael cynnig atgyfeiriad at Helpa Fi i Stopio er mwyn cael cymorth ymddygiadol a ffarmacotherapi. Yn benodol, yng Nghasnewydd dros y flwyddyn ddiwethaf, fel rhan o'u rhaglen ofal, nyrsys adsefydlu'r ysgyfaint sydd wedi bod yn rhoi'r gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu i'r cleifion a fu'n derbyn gwasanaeth adsefydlu'r ysgyfaint. Hyfforddwyd y nyrsys hyn gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Rhoi'r Gorau i Ysmygu a Hyfforddiant ac mae ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi cleifion sy'n ysmygu i'w helpu i roi'r gorau iddi yn llwyddiannus, er mwyn helpu i wella eu hiechyd a rheoli'r cyflwr ar eu hysgyfaint. Fel gyda gwasanaethau Dim Smygu Cymru, caiff y rhaglenni adsefydlu'r ysgyfaint hyn gan y GIG eu darparu mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae'n bwysig fod llwybrau atgyfeirio'n cael eu cryfhau ar draws y GIG fel bod pob ysmygwr yn cael eu hannog i feddwl am geisio rhoi'r gorau iddi. Mae fy swyddogion, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi bod yn datblygu dau fesur perfformiad newydd ar gyfer y GIG. Byddai'r cyntaf yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr gofal sylfaenol ac eilaidd adrodd ar ganran y cleifion sy'n oedolion mewn categorïau penodol sy'n cael eu sgrinio am eu statws ysmygu. Byddai'r ail fesur yn ei gwneud yn ofynnol i adrodd ar ganran yr ysmygwyr yn y categorïau hynny a atgyfeiriwyd at wasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu y GIG. Yn y flwyddyn gyntaf, rydym yn argymell y dylai'r mesurau hynny gynnwys menywod beichiog, cleifion cyn llawdriniaeth a phobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint.
Wrth gwrs, nid y GIG yn unig sy'n gallu helpu i ledaenu'r gair am Helpa Fi i Stopio. Gall y trydydd sector fod â rôl hefyd. Felly, mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â gwefan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac o ganlyniad, bydd ymwelwyr yng Nghymru â gwefan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sydd am gael help i roi'r gorau iddi yn cael eu atgyfeirio yn awr at wefan Helpa Fi i Stopio. Yn ogystal, bydd ymarferwyr Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sy'n gweithio ar y rhaglen adsefydlu'r ysgyfaint, Helping You Help Yourself, yn cael eu hyfforddi i roi cyngor byr ar roi'r gorau i ysmygu. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn arwain at fwy o atgyfeirio at wasanaethau arbenigol Helpa Fi i Stopio o blith y grŵp hwn o bobl.
Mae pob un ohonom yn awyddus i'n negeseuon fod yn rhan o ddull gofalgar a chefnogol o weithredu. Mae'n bwysig fod ysmygwyr yn sylweddoli nad oes stigma ynghlwm wrth gael cefnogaeth, ond ei fod yn arwydd o gryfder mewn gwirionedd. Mae'r gwasanaethau Helpa Fi i Stopio yma i roi'r cyfle gorau i ysmygwyr roi'r gorau iddi am byth, a bob blwyddyn, mae tua 15,000 o ysmygwyr ledled Cymru yn cael y cymorth hwnnw. Rwy'n falch o nodi bod adroddiad diweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon yn ganmoliaethus ynghylch y gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu yma yng Nghymru. Mae'n nodi bod y nifer gynyddol o ysmygwyr sy'n cymryd rhan yn y gwasanaethau yn cyferbynnu â rhannau eraill o'r DU.
I grynhoi, mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i weld y GIG a'r trydydd sector yn gweithio'n agosach byth gyda'i gilydd i gefnogi cleifion sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Rwy'n croesawu'r rhaglen gan Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint a'r cysylltiadau sy'n cael eu gwneud a'u gwella gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gwyddom pa mor bwysig yw adsefydlu'r ysgyfaint i bobl sydd â chlefyd anadlol cronig ac rydym yn gweithio i wella mynediad at ddarpariaeth y GIG ymhellach. Pan wnawn hynny, mae'n hollbwysig fod pobl yn gweithredu ar eu hatgyfeiriad ac yn cwblhau'r cwrs cymorth sydd ar gael iddynt. Rydym yn cydnabod bod angen gwella amseroldeb y cymorth hwnnw. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i weithio gyda phartneriaid i ysgogi rhagor o welliannau. Gall pawb ohonom weithio gyda'n gilydd i roi'r ansawdd bywyd gorau posibl i bobl. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.