Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle heddiw i drafod y trydydd achos marwolaeth mwyaf cyffredin yng Nghymru heddiw, clefyd yr ysgyfaint. Mae salwch anadlol yn effeithio ar un o bob pum bywyd yng Nghymru, cyfradd uwch na chyfartaledd y DU. Nid yw cyfraddau marwolaethau wedi gwella llawer yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac yn anffodus, gennym ni y mae'r ffigurau sy'n bedwerydd uchaf yn Ewrop.