Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 22 Mai 2019.
Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rhagweithiol ar fater rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ac mae'n amlwg fod stryd fawr brysur a chynhyrchiol yn hanfodol bwysig i fy etholaeth, gan gynnwys trefi Coed-duon, Rhisga, Trecelyn, Crosskeys a llawer o rai eraill ledled Islwyn.
Yn wir, pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr am flwyddyn arall ac yn ymestyn y rhyddhad sydd ar gael drwy'r cynllun i fusnesau, gyda £2.4 miliwn yn ychwanegol i'w ddyrannu i awdurdodau lleol i ddarparu rhagor o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol a phobl eraill sy'n talu ardrethi. Felly, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Lafur Cymru ar ochr busnesau lleol?