Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:37, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Yn bendant, a diolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad. Wrth gwrs, mae ein gwaith ar ardrethi annomestig yn rhan o’r pecyn o ffyrdd rydym yn cefnogi ein gwaith o adfywio canol trefi a chefnogi’r stryd fawr yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae gennym ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio, ac rydym yn buddsoddi hyd at £100 miliwn o gyllid cyfalaf ynddi dros gyfnod o dair blynedd. Mae hynny'n cyd-fynd â'r gwaith a wnawn ar hyrwyddo ardaloedd gwella busnes. Felly, ym mis Hydref, yn fy mhortffolio blaenorol, cyhoeddais gyllid pellach o £262,000 er mwyn datblygu 10 ardal gwella busnes arall i ychwanegu at y 13 sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mewn canol trefi ledled Cymru.