Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 22 Mai 2019.
Wel, rwyf wedi cael rhai trafodaethau ynglŷn ag effaith gwaith yr uned ar edrych ymlaen a nodi busnesau sy'n wynebu risg bosibl, felly mae hyn yn rhywbeth y mae'n ei fonitro'n rheolaidd o ran cynghori Llywodraeth Cymru ar y mathau o fuddsoddiadau y mae'n awyddus i'w gwneud. Cefais y trafodaethau hynny yng nghyd-destun caffael, sy'n golygu sicrhau, pan fo Llywodraeth Cymru yn caffael, ei bod yn gwneud hynny gyda gwybodaeth dda am gynaliadwyedd, mae'n debyg, y busnesau y mae'n ymgysylltu â hwy.