Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 22 Mai 2019.
Weinidog, yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw bod Cymru'n defnyddio'r pwerau treth newydd sydd ar gael iddi i hybu economi Cymru, a chredaf fod datganoli pwerau treth incwm, er enghraifft, yn gyfle newydd cyffrous i gefnogi a thyfu economi Cymru. Felly, pa waith ymchwil neu fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i asesu effaith y newidiadau i gyfraddau treth incwm yma yng Nghymru ar refeniw treth, ac yn wir, ar berfformiad economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ac efallai, yn y dyfodol, y bydd hyn yn rhywbeth y gallai uned Dirnad Economi Cymru fod yn rhan ohono hefyd.