Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Mai 2019.
Yn amlwg, byddem yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at y mater hwn, felly po fwyaf y bydd y sylfaen dystiolaeth yn tyfu, y mwyaf y bydd yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond credaf ei bod yn deg dweud, fel y casgla'r papur y cyfeiriwch ato, fod yr ansicrwydd parhaus ar y cam cymharol gynnar hwn o'r broses o ystyried y budd y gallai datganoli budd-daliadau ei ddarparu yn golygu y bydd y syniad yn cael ei drin gyda phryder y gellir ei gyfiawnhau. Credaf ei bod yn rhesymol trin y mater hwn yn ofalus ac yn wybodus, gan y ceir risgiau mawr o bosibl i Lywodraeth Cymru o fabwysiadu cyfrifoldeb am wahanol fudd-daliadau.