Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Mai 2019.
Pryder a gofal, ie, ond rydym yn gweld tystiolaeth sy'n gwbl glir bellach y gallai gwneud hyn arwain at warged o £200 miliwn i bwrs Cymru, ac mae hwnnw'n £200 miliwn y gellir ei ddefnyddio i liniaru effeithiau gwaethaf cyni, sydd wedi ei orfodi gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn hynny yn San Steffan. Mae hwn yn gyfle nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio arno hyd yma. Nawr, gyda'r dystiolaeth sydd gennym o'n blaenau, ac wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, onid yw'n bryd dweud bellach y byddwn mewn sefyllfa am yr 20 mlynedd nesaf, drwy ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn yn hyderus, i allu lliniaru a helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yng Nghymru, fel y gwnânt yn yr Alban?