Part of 1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 22 Mai 2019.
Wrth gwrs, nid yw hwn yn fater y gellir ei ddatrys yn gyflym iawn fel y credaf fod yr Aelod yn awgrymu, oherwydd wrth gwrs, mae'r adroddiad y cyfeirioch chi ato yn y cwestiwn cyntaf yn cyfeirio at yr hyn a elwir yn 'S-benefits', sef y set benodol o fudd-daliadau sydd wedi'u datganoli i'r Alban, ac mewn gwirionedd, megis dechrau eu taith i reoli ac integreiddio'r budd-daliadau hynny y mae Llywodraeth yr Alban. Felly, credaf fod yr awgrym fod hyn yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos bron â bod, yn afrealistig, ond mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac edrychwn ymlaen at weithio'n gadarnhaol, gobeithio, gyda Phlaid Cymru a phobl eraill â buddiant wrth inni ddatblygu ein syniadau ar yr agenda hon.