Y Cytundeb Partneriaeth Economaidd Rhwng yr UE a Japan

Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:03, 22 Mai 2019

(Cyfieithwyd)

Yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau, roedd pobl yn trafod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan a'r cysylltiadau masnach hirsefydlog sydd gennym â Japan, Weinidog. Pa feincnodau rydych wedi'u gosod ar gyfer llwyddiant gyda'r gwahanol deithiau masnach a fydd yn cael eu trefnu i Japan yn sgil cwpan y byd? Yn hytrach na mynd ati i’w fesur mewn cwpaneidiau o goffi a yfir a chacennau cri a fwyteir, mae'n bwysig ein bod yn gallu mesur gwir lwyddiant pan fydd cwpan y byd yn dod i ben, a bod proffil Cymru a threiddiad marchnad Japan yn llawer mwy na phan ddechreuodd cwpan y byd.