Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 22 Mai 2019.
Credaf eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld ffigurau cyflawni pendant iawn. Dyna pam fod gennyf gyfarfod yn syth ar ôl hyn gyda’n cynrychiolydd yn Japan, sydd wedi dychwelyd i Gymru i drafod hyn, er mwyn penderfynu beth yn union rydym yn ceisio’i ennill o ganlyniad i’r cyfle hwn, y cyfle unigryw hwn sydd gennym, i arddangos ein gwlad ar lwyfan rhyngwladol. Nid wyf yn credu y dylem gyfyngu ein hunain i Japan. Credaf fod cyfle i ni ddangos ein hunain yn fwy eang yn y dwyrain pell. Rwy’n credu, os edrychwch ar feincnodau ar gyfer llwyddiant, buaswn yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd yn y pen draw yn y bwyd a diod y gallwn ei allforio, er enghraifft. Ac wrth gwrs, rydym yn edrych i weld yn benodol a allwn agor y farchnad cig oen yno a sicrhau y gallwn lamu i'r farchnad honno yn sgil cwpan y byd.