Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 22 Mai 2019.
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Swyddfa Gyflwyno yn gwirio pob dogfen a osodir. Os na ddarparwyd fersiwn dwyieithog o'r ddogfen, bydd aelod o'r staff yn cysylltu i ofyn a oes fersiwn ar gael. Yn unol â Rheol Sefydlog 15.4, fe ganiateir i ddogfennau gael eu gosod yn uniaith os nad yw'n briodol o dan yr amgylchiadau, neu yn rhesymol ymarferol i ddarparu fersiwn ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i'r Rheol Sefydlog hon.
Wrth gasglu'r ystadegau ar gyfer yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Comisiwn y llynedd, fe welwyd nad oedd cyfran sylweddol o'r dogfennau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gosod yn ddwyieithog. Memoranda esboniadol oedd y rhan fwyaf o'r dogfennau yma, a'r rheswm dros beidio â'u cyflwyno'n ddwyieithog yn ôl y Llywodraeth oedd nad oedd yn ymarferol gallu gwneud hynny. Doeddwn i ddim yn hapus efo hynny, ac yn rhinwedd fy swydd fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, mi wnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes am arweiniad pellach. Ac fe ofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion drafod y mater. Cyfarfu swyddogion Comisiwn y Cynulliad â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd sut y byddai modd i Lywodraeth Cymru wella nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, a'r posibilrwydd o bennu targedau ar gyfer y cynnydd hwn, gyda'r nod yn y pen draw o gyflwyno'u holl ddogfennau yn ddwyieithog.