3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gosod dogfennau gerbron y Cynulliad yma yn y Gymraeg? OAQ53911
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Swyddfa Gyflwyno yn gwirio pob dogfen a osodir. Os na ddarparwyd fersiwn dwyieithog o'r ddogfen, bydd aelod o'r staff yn cysylltu i ofyn a oes fersiwn ar gael. Yn unol â Rheol Sefydlog 15.4, fe ganiateir i ddogfennau gael eu gosod yn uniaith os nad yw'n briodol o dan yr amgylchiadau, neu yn rhesymol ymarferol i ddarparu fersiwn ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i'r Rheol Sefydlog hon.
Wrth gasglu'r ystadegau ar gyfer yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Comisiwn y llynedd, fe welwyd nad oedd cyfran sylweddol o'r dogfennau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gosod yn ddwyieithog. Memoranda esboniadol oedd y rhan fwyaf o'r dogfennau yma, a'r rheswm dros beidio â'u cyflwyno'n ddwyieithog yn ôl y Llywodraeth oedd nad oedd yn ymarferol gallu gwneud hynny. Doeddwn i ddim yn hapus efo hynny, ac yn rhinwedd fy swydd fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, mi wnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes am arweiniad pellach. Ac fe ofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion drafod y mater. Cyfarfu swyddogion Comisiwn y Cynulliad â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd sut y byddai modd i Lywodraeth Cymru wella nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, a'r posibilrwydd o bennu targedau ar gyfer y cynnydd hwn, gyda'r nod yn y pen draw o gyflwyno'u holl ddogfennau yn ddwyieithog.
Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ei hymateb. Cefndir y cwestiwn hwn yw bod y Gweinidog iechyd a'i adran wedi gosod rheoliadau ar gyfer rhoi dyletswyddau o ran y Gymraeg ar ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol, yn ogystal â memorandwm esboniadol, yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai eleni. Roedd y memorandwm esboniadol a osodwyd yn uniaith Saesneg. Mae hyn yn syfrdanol yn fy marn i, yn enwedig o ystyried pwnc y ddogfen. Roedd aelodau'r pwyllgor materion cyfansoddiadol yn rhannu fy mhryderon am hyn, a byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywodraeth i rannu'r pryderon hynny. Rydw i hefyd wedi derbyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg, sydd fwy neu lai yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn torri safon yn yr achos yma. Os nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl ei bod yn rhesymol i sicrhau y gallwn ni fel Aelodau sy'n cynrychioli'r cyhoedd weld dogfen o'r math yma yn Gymraeg, pa gamau pellach all y Comisiwn eu cymryd i sicrhau nad oes modd i'r Llywodraeth weithredu'n groes i ysbryd y Ddeddf ieithoedd swyddogol ac i'w safonau iaith ei hunan wrth gyflwyno busnes gerbron y Cynulliad hwn?
Diolch yn fawr i Dai Lloyd am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at y broblem yma. Yn y lle cyntaf, gaf i ddweud fy mod i yn rhannu eich siomedigaeth chi fod y Llywodraeth wedi methu â darparu fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau penodol yma yn ymwneud â'r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol pan osodwyd y memorandwm? Dydy o ddim yn cydymffurfio ag ysbryd y cynllun. Dwi yn deall bod swyddogion y Comisiwn wedi mynd yn ôl i ofyn i'r Llywodraeth a oedd bwriad i ddarparu fersiwn ddwyieithog o'r memorandwm, a chafwyd cadarnhad nad oedd bwriad i ddarparu fersiwn Gymraeg.
Mae'r Comisiwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru barchu hawl ein Haelodau i weithio yn eu dewis iaith, a dydy hi ddim yn bosib i Aelodau arddel y dewis hwnnw wrth baratoi at drafodion os nad ydy'r dogfennau arwyddocaol o'r fath ar gael. Dŷn ni'n disgwyl hefyd i Lywodraeth Cymru gyflwyno dogfennau yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Nid yw'n dderbyniol i'r sawl sy'n dymuno darllen dogfennau yn Gymraeg orfod aros yn hirach—yn hir iawn weithiau—ar gyfer y fersiwn Gymraeg.
Fel y dywedais i, dwi eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes am hyn ac rwy'n deall bod y trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad, ar gais y Pwyllgor Busnes, wedi bod yn rhai positif. Ond, er hynny, mae'r achos penodol yma yn awgrymu bod angen cymryd rhagor o gamau eto, ac mi fyddaf i'n gofyn i swyddogion edrych ar ba gamau pellach allwn ni eu cymryd.
Diolch. Mae cwestiwn 3 i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands. Huw Irranca-Davies.