Gosod Dogfennau yn y Gymraeg

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 22 Mai 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:10, 22 Mai 2019

Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ei hymateb. Cefndir y cwestiwn hwn yw bod y Gweinidog iechyd a'i adran wedi gosod rheoliadau ar gyfer rhoi dyletswyddau o ran y Gymraeg ar ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol, yn ogystal â memorandwm esboniadol, yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai eleni. Roedd y memorandwm esboniadol a osodwyd yn uniaith Saesneg. Mae hyn yn syfrdanol yn fy marn i, yn enwedig o ystyried pwnc y ddogfen. Roedd aelodau'r pwyllgor materion cyfansoddiadol yn rhannu fy mhryderon am hyn, a byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywodraeth i rannu'r pryderon hynny. Rydw i hefyd wedi derbyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg, sydd fwy neu lai yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn torri safon yn yr achos yma. Os nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl ei bod yn rhesymol i sicrhau y gallwn ni fel Aelodau sy'n cynrychioli'r cyhoedd weld dogfen o'r math yma yn Gymraeg, pa gamau pellach all y Comisiwn eu cymryd i sicrhau nad oes modd i'r Llywodraeth weithredu'n groes i ysbryd y Ddeddf ieithoedd swyddogol ac i'w safonau iaith ei hunan wrth gyflwyno busnes gerbron y Cynulliad hwn?