4. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 22 Mai 2019.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o Islamoffobia? 315
Yn y fforwm cymunedau ffydd y bore yma, tynnodd y Prif Weinidog sylw at ystyriaeth Llywodraeth Cymru o'r diffiniad o Islamoffobia. Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda golwg ar fabwysiadu'r diffiniad. Mae angen i ni sydd mewn grym wneud safiad dros bobl sy'n cael eu stigmateiddio neu’n cael eu cam-drin.
Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy siom ynghylch methiant y Torïaid yn San Steffan i gymeradwyo’r diffiniad hwnnw, sy'n seiliedig ar ddiffiniad y Cenhedloedd Unedig o wahaniaethu hiliol a diffiniad Runnymede. Tybed a oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag unigolyn penodol yn y ras am yr arweinyddiaeth, a’i sylwadau difrïol yn erbyn Mwslimiaid, gyda sylwadau am fenywod yn edrych fel blychau llythyrau yn un enghraifft yn unig o anoddefgarwch yr unigolyn hwnnw.
Efallai hefyd y byddwch eisiau llongyfarch y Cymry ifanc a ymddangosodd yn rhaglen y BBC, Young, Welsh and Pretty Religious, ac yn arbennig, gwaith yr ymgyrchydd gwrth-Islamoffobia, Sahar Al-Faifi, sydd wedi dioddef llawer o gamdriniaeth a bygythiadau am siarad am yr angen am y diffiniad hwn o Islamoffobia, yn enwedig gan sylwebyddion asgell dde ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos ddiwethaf.
Mae Plaid Cymru fel plaid wedi ymrwymo i gydnabod y diffiniad hwn o Islamoffobia, ac rwy'n croesawu'r datganiad rydych newydd ei wneud, Weinidog, sef bod Llywodraeth Cymru yn barod i’w ystyried hefyd. A wnewch chi longyfarch Sahar a'r lleill sy'n ymladd hiliaeth ac Islamoffobia ac ymrwymo i amddiffyn pobl o bob ethnigrwydd a chrefydd pan fyddant yn wynebu gwahaniaethu, camdriniaeth a chael eu bychanu'n ddyddiol? Ac a wnewch chi ymuno â mi hefyd i gondemnio'r bobl sy'n pedlera’r wleidyddiaeth atgas, ‘chwiban y ci’ honno sy'n arwain at weithredoedd o'r fath?
Rwy’n ddiolchgar i Leanne Wood am gyflwyno’r cwestiwn hwn i'n galluogi i fod yn glir iawn ynglŷn â'n sefyllfa. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu Islamoffobia a phob math o droseddau casineb crefyddol yn ddiamwys. Mae'n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am mai ni sydd mewn grym.
Mae'n drist, mewn ffordd, o ran y sefyllfa a ddaeth i'r amlwg mewn perthynas â Llywodraeth y DU, oherwydd mai grŵp seneddol hollbleidiol a luniodd adroddiad a gyflwynai ddiffiniad o Islamoffobia. Felly, rwy'n gobeithio y daw Llywodraeth y DU i dderbyn y diffiniad hwn. Mae'n ddiffiniad nad yw'n gyfreithiol rwymol o Islamoffobia sydd wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU ar y cam hwn, ond deallaf ei fod wedi cael ei fabwysiadu gan y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Geidwadol yr Alban. Felly, mae'n amlwg yn cael ei drafod gan grwpiau gwleidyddol. Deallaf fod yr ymchwiliad wedi’i gynnal gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fwslimiaid Prydeinig, a gynhaliodd yr ymchwiliad hwn mewn sawl dinas yn Lloegr, lle clywsant am ystod o brofiadau Islamoffobig, gan gynnwys cam-drin corfforol a geiriol.
Yr hyn sy'n glir yw bod yn rhaid i ni edrych ar ein cyfrifoldebau yng Nghymru yn awr. Roeddwn yn drist iawn o glywed am brofiad Sahar oherwydd rwy'n credu ei bod yn un o naw o gredinwyr ifanc sy'n disgrifio eu bywydau ar raglen BBC Wales, Young, Welsh and Pretty Religious. Nid dyna'r Gymru rydym eisiau i Fwslimiaid ifanc, nac unrhyw un o unrhyw ffydd, ei phrofi.
Rwy'n credu bod y pryderon yn awr—fe'u trafodwyd y bore yma yn ein fforwm cymunedau ffydd, ac edrychasom ar y ffyrdd yr awn i'r afael â throseddau casineb. Mae'n ddiddorol, o ran cam-drin ar-lein, fod Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r heddlu i edrych ar ffyrdd y gallwn adnabod troseddau casineb a cham-drin ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, rhywbeth a fydd yn galw am wahanol fathau o fecanweithiau adrodd, oherwydd mae hyn yn rhan o'n rhaglen ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb. O ran y sylwadau a wneir—nid wyf am roi mwy o sylw iddynt mewn gwirionedd, o ran sylwadau Boris Johnson, ond credaf ei bod yn bwysig iawn inni nodi mai’r corff gwarchod cydraddoldebau, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ddywedodd fod sylwadau Boris Johnson ar y burka yn ymfflamychol a chynhennus.
A gaf fi ymuno â chi yn y Siambr hon i gondemnio Islamoffobia ac anoddefgarwch crefyddol o unrhyw fath yn llwyr? Oherwydd mae’n treiddio drwy ein cymdeithas, yn anffodus, ac mae'n digwydd; rydym yn ei weld, ac mae'n gwbl annerbyniol. Rwy'n credu mai un mater sy’n rhaid inni ei ystyried gyda’r diffiniad penodol hwn wrth gwrs yw nad yw wedi’i fabwysiadu’n eang eto, a chredaf fod yna ddadl ynglŷn ag a fyddai diffiniad gweithredol arall yn well diffiniad i gyrff sector cyhoeddus a Llywodraethau allu ei ddefnyddio. A gaf fi gofnodi nad oes gennym safbwynt eto fel Ceidwadwyr Cymreig ar y mater hwn, ond rydym wrthi’n ystyried cynnig y grŵp hollbleidiol? Nid wyf yn dweud ar hyn o bryd ein bod am ei wrthod neu ei dderbyn, ond rwy’n credu bod angen inni feddwl ymhellach yn ei gylch, yn syml oherwydd bod cynifer o leisiau, côr o leisiau, wedi bod yn mynegi pryderon am oblygiadau posibl defnyddio hwn fel diffiniad gweithredol. Ac rwy'n dweud hynny oherwydd ein bod i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y diffiniad gweithredol o wrth-semitiaeth a gyflwynwyd gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost wedi'i fabwysiadu’n eang heb unrhyw broblem, heblaw’r Blaid Lafur ar y pryd, wrth gwrs, a gymerodd fwy o amser i allu ei fabwysiadu. Felly, a oes gennych unrhyw bryderon? Beth fyddai eich ymateb i'r rheini sydd wedi mynegi pryderon ynghylch y goblygiadau posibl i’w harferion gweithio pe bai'r diffiniad penodol hwn yn cael ei fabwysiadu? Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd dros 40 o unigolion wedi cyd-lofnodi'r llythyr, gan gynnwys academyddion, awduron, ymgyrchwyr yn erbyn anoddefgarwch crefyddol, Mwslimiaid eu hunain, ac wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ddweud bod y diffiniad penodol hwn—er eu bod yn condemnio Islamoffobia o unrhyw fath, roedd y diffiniad hwn y anaddas i’r diben a gallai ei fabwysiadu ar frys arwain at waethygu tensiynau cymunedol, yn hytrach na’u lleihau.
Diolch i Darren Millar am nodi eich cefnogaeth a’r ffaith fod eich grŵp yn mynd i ystyried y diffiniad hwn. Dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn ein bod yn gweithio ar hyn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, oherwydd credaf fod hwn yn rhywbeth lle rydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Ond yn ffodus iawn, mae gennym fforwm cymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod heddiw, y bore yma, wedi cael cynrychiolwyr nid yn unig o blith Mwslimiaid—roedd gennym gynrychiolwyr o blith y Sikhiaid, Iddewon, Hindŵiaid, Bwdhyddion, Bahá'í, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Eglwysi Ynghyd; roedd pawb o gwmpas y bwrdd, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog a minnau, ac roeddem yn trafod y materion hyn. A chawsom drafodaeth am droseddau casineb, ac mae troseddau casineb yn hiliol, ond maent hefyd yn droseddau yn erbyn ffydd a chrefydd, ac wrth gwrs, maent yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Felly, mae angen i ni edrych ar y diffiniad hwn o Islamoffobia. Rhaid i ni fod yn glir iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn, fel rydym yn glir iawn yn y ffordd rydym yn mynd i’r afael â gwrth-semitiaeth. Felly, mae'n rhaid i’r Llywodraeth sefyll yn gadarn a gwneud y pwynt hwn, ac rwy'n ddiolchgar unwaith eto, fel y dywedais, fod Leanne Wood wedi rhoi cyfle inni ymateb heddiw. Mae'n rhywbeth rydym yn sefyll yn gadarn drosto ac mae angen inni fwrw ymlaen ag ef.
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater a hefyd am gyfraniadau Darren Millar. Mae'n ymddangos i mi fod amseru Llywodraeth y DU yn anffodus yng nghyd-destun ymdrechion gan y dde eithafol i ysgogi casineb at wahaniaeth ar yr adeg hon. Ac felly, nid oes gennyf safbwynt ar y geiriad; mae'n rhaid i ni gofio y gall ein geiriau gael effaith y tu hwnt i’r tŷ hwn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sylweddoli pa mor bwysig yw eu crefydd i Fwslimiaid ar adeg bwysig Ramadan. Ar ôl ymweld â sawl mosg i helpu i gynorthwyo i dorri ympryd ar adeg machlud haul, mae ymlyniad Mwslimiaid i’w ffydd, yn ogystal â’u hymrwymiad i roi’n elusennol tuag at achosion da, wedi creu cymaint o argraff arnaf. Felly, er enghraifft, mae bwyd wedi cael ei rannu ddwy waith o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd gyda’r gymuned ddigartref, a darparu nwyddau iddynt yn ogystal â bwyd. Felly credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn hyrwyddo parch tuag at wahaniaeth, a dathlu cyfoeth ac amrywiaeth y diwylliannau a'r crefyddau sydd gennym yng Nghymru.
Diolch i chi, Jenny Rathbone, a siaradodd ein Prif Weinidog y bore yma am yr Iftar a fynychodd nos Sul o flaen Neuadd y Ddinas. Siaradodd am bwysigrwydd Ramadan yr wythnos hon ac am y cyfraniad a wnaed gan y gymuned Fwslimaidd. Dyma adeg pan ydym yn nodi 20 mlynedd ers datganoli. Nos Lun, roedd rhai ohonom mewn darlith a roddwyd gan Aled Edwards, sy’n arloesi—a gwn fod llawer yma yn y ddarlith honno—sydd wedi cael y fath effaith yn datblygu’r ddeialog ryng-ffydd hon. Ac roedd ef—. Ond fe ddywedasom, ac mewn gwirionedd, fe ddywedais mewn ymateb iddo fod gennym, yn anffodus—roedd ei ddarlith yn ysbrydoledig iawn—mae gennym sŵn rhagfarn, hiliaeth, geiriau casineb ac eithafiaeth sy’n swnllyd iawn ar hyn o bryd. A siaradodd y Prif Weinidog am fygythiad yr eithafiaeth a welwn yn awr o’r asgell dde, oherwydd mae hwnnw nawr yn eithafiaeth y mae’r heddlu yn mynd i’r afael ag ef. Felly, rydym am wneud yn siŵr fod pobl Cymru’n cydnabod bod gennym y gwerthoedd hynny rydym wedi bod yn eu harddel ynghylch cymuned, tegwch, gobaith a thosturi, a dyna pam rydym yn genedl noddfa—ffaith a gafodd ei chydnabod yn ddiweddar iawn gan NBC News a ddywedodd, ‘Diolch byth, mae Cymru yn genedl noddfa'—neges o’r Unol Daleithiau.
Diolch i Leanne, Darren, Jenny a’r Gweinidog hefyd, am o leiaf ddeall mai problem yn ymwneud ag Islamoffobia yw hon. Weinidog, mae ystod amrywiol o 44 ymgyrchydd—academyddion, awduron a phobl gyhoeddus eraill—wedi llofnodi llythyr agored yn beirniadu’r modd, ac rwy'n dyfynnu, 'anfeirniadol ac annymunol' y mabwysiadwyd y diffiniad arfaethedig hwn o Islamoffobia. Aethant yn eu blaen i ddweud bod y diffiniad, ac rwy’n dyfynnu, yn cael ei fabwysiadu heb graffu digonol nac ystyriaeth briodol o’i ganlyniadau negyddol i ryddid mynegiant, a rhyddid academaidd neu newyddiadurol.
Cau’r dyfyniad. Byddai mabwysiadu’r diffiniad hwn—rwy’n dyfynnu eto—‘yn gwaethygu tensiynau cymunedol’ ac yn cyfyngu ar ryddid i lefaru ar faterion o bwys sylfaenol.
Cau’r dyfyniad. Mae’r rhai a lofnododd y llythyr hwn yn cynnwys pobl o bob crefydd, neu heb grefydd, megis Richard Dawkins, Peter Tatchell, yr arweinydd LHBT, yr arglwydd Democrataidd Rhyddfrydol, Arglwydd Alton, yr Esgob Michael Nazir-Ali, a sylfaenydd Quilliam International, Maajid Nawaz. Maent oll yn bobl o fri ac yn bobl bwysig sy’n siarad am gysylltiadau cyhoeddus yn fyd-eang.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu y gallai mabwysiadu'r diffiniad hwn—
A wnewch chi ofyn cwestiwn, os gwelwch yn dda?
—rwystro ymdrechion gwrthderfysgaeth. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod y bydd mabwysiadu’r diffiniad amwys a helaeth hwn heb graffu digonol nac ystyriaeth briodol o’i ganlyniadau negyddol yn tanseilio cydlyniant cymdeithasol ac yn tanio’r union ragfarn yn erbyn Mwslimiaid y’i lluniwyd i’w hatal? Diolch yn fawr.
Wel, Mohammed Asghar, credaf fod Darren Millar wedi dweud y byddwch yn ystyried y diffiniad hwn yn eich—bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ystyried, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Rydym ni'n ystyried—mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried—gyda Llywodraeth yr Alban. Felly, mae'r ystyriaeth hon hefyd yn mynd i gynnwys pwyntiau a wnaed ar faterion gweithredol, yn amlwg. Ond buaswn yn gobeithio y gallem orffen y ddadl hon, o ran ymateb i’r cwestiwn pwysig hwn heddiw, drwy uno ar draws y Siambr, fel y gwnaethom ychydig wythnosau yn ôl, pan weithiasom gyda’n gilydd ar gynnig, wedi’i gefnogi gan y tair prif blaid yn y Cynulliad hwn, i lwyr ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb hiliol. Ac rwy’n gwybod mai dyna y credaf yw'r neges y byddem yn awyddus i’w chyfleu y prynhawn yma—rydym ni, gyda'n gilydd, ac nid Llywodraeth Cymru’n unig, yn gwbl wrthwynebus i Islamoffobia a phob math o droseddau casineb crefyddol.
Diolch yn fawr iawn.