Yr Argyfwng Newid Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:38, 4 Mehefin 2019

Mi ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol fod yna drafodaeth barhaus rhyngoch chi a Gweinidogion eich Cabinet chi ar y mater yma. Wrth gwrs, holl fwriad datgan argyfwng hinsawdd yw er mwyn newid gêr ac er mwyn sicrhau bod mwy yn digwydd. Felly, ga'i ofyn pa orchymyn, neu instruction, ŷch chi wedi ei roi i'ch Gweinidogion chi ynglŷn â sut mae datgan argyfwng hinsawdd yn mynd i newid eu blaenoriaethau nhw? Ac a fydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn diwygio llythyrau cylch gorchwyl—remit letters—i gyrff cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng yma?