Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ac am yr awgrym hefyd. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd at y broses o greu'r cyllid am y flwyddyn nesaf yn fewnol, a rhoi mwy o bwyslais ar bethau rŷm ni'n gallu eu gwneud ar draws y Llywodraeth i gyd, pan fyddwn ni'n siarad am ddatgarboneiddio a phethau yn yr un maes. Felly, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd ati. A phwrpas gwneud hynny yw i gasglu mwy o syniadau a newid y pethau rŷm ni'n eu gwneud ar draws y Llywodraeth, a, gydag unrhyw syniadau, fel yr un roedd e wedi'i awgrymu'r prynhawn yma, wrth gwrs, rŷn ni'n agored i feddwl a thrafod syniadau fel yna.