1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 4 Mehefin 2019.
2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda chyd-aelodau'r cabinet yn dilyn y datganiad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ53936
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae cydweithwyr yn y Cabinet yn trafod yn barhaus camau i leihau allyriadau a darparu cynllun carbon isel Cymru. Rhoddwyd trefniadau newydd ar waith i ganolbwyntio ar ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn y cylch cyllideb presennol.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Croesawaf y datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd. Credaf mai'r newid yn yr hinsawdd yw'r mater pwysicaf sy'n ein hwynebu heddiw. Mae'n debyg fy mod i mewn lleiafrif ond rwy'n credu mai dyma, yn sicr, yw'r mater pwysicaf. A wnaiff y Prif Weinidog lunio map ffordd o gamau gweithredu arfaethedig Llywodraeth Cymru? Gallai hyn gynnwys pethau fel y targed plannu coed blynyddol, a tharged blynyddol ar gyfer gwella'r cartref, gan wneud tai yn allyrwyr dim carbon neu'n rhai isel iawn.
Diolchaf i Mike Hedges am y sylwadau yna. Nid wyf i'n credu ei fod yn unig iawn o ran ei farn mai'r newid yn yr hinsawdd yw un o'r prif heriau sy'n wynebu dynolryw ledled y byd. Rydym ni eisoes wedi nodi cyfres o gamau ymarferol yn y cynllun carbon isel, ac maen nhw'n adeiladu hefyd ar bethau y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu gwneud. Rydym ni wedi lleihau allyriadau o'n hystâd weinyddol gan 57 y cant, yn erbyn llinell sylfaen, ac rydym ni eisoes wedi rhagori ar ein targedau ar gyfer 2020. Ac yn yr effaith gyfunol honno o'r llu o bethau y mae llywodraethau yn eu gwneud y byddwn ni'n cael yr effaith yr ydym ni'n dymuno ei chael. Felly, dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd y £13.5 miliwn yr ydym ni'n ei fuddsoddi mewn 111 o gerbydau newydd ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, ac mae paneli solar wedi eu gosod ar 33 o'r cerbydau nad ydyn nhw'n rhai ar gyfer achosion brys y byddwn ni'n eu prynu er mwyn gallu troi golau'r haul yn drydan. Os ydym ni'n mynd i lwyddo, yna mae angen gweithredu y tu hwnt i'r Llywodraeth arnom ni hefyd. A gwn y bydd Mike Hedges yn ymwybodol iawn o'r gwaith sy'n cael ei wneud yn Abertawe, trwy gynllun ynni a menter cymunedol Abertawe, sy'n gwneud gwaith lleol yn y maes hwnnw, yn enwedig ym meysydd tlodi tanwydd, i wneud yn siŵr nad yw'r ffordd yr ydym ni'n ymdrin â'r newid yn yr hinsawdd yn effeithio'n anghymesur ar y rhai sydd â'r lleiaf o allu i dalu'r gost. Mae'r cynllun gweithredu carbon isel, Llywydd, yn darparu £4 miliwn o fuddsoddiad newydd yn y gweithgareddau lleol hynny a fydd, ynghyd â'r pethau y gall Llywodraeth eu gwneud, yn gwneud gwahaniaeth ym mhob rhan o Gymru. Ac mae map ffordd sy'n tynnu'r holl bethau hynny at ei gilydd yn sicr ym meddwl Llywodraeth Cymru wrth i ni fynd i'r afael â'r broblem yr ydym ni'n gwybod ein bod ni'n ei hwynebu.
Prif Weinidog, galwais ar eich Gweinidog yr amgylchedd ym mis Mawrth i ystyried, ynghyd â gweddill eich Cabinet, y rhesymau amgylcheddol, yn ogystal â'r rhesymau economaidd, dros gynorthwyo Tata Steel i greu ei gyflenwad ynni lleol ei hun, trwy orsaf bŵer o'r radd flaenaf arfaethedig. Ar y pryd, dywedwyd wrthyf y byddai Gweinidog yr amgylchedd a Gweinidog yr economi yn cael cyfarfod ar y cyd gyda Tata yn ystod y mis neu ddau nesaf. Mae hynny dri mis yn ôl erbyn hyn, felly roeddwn i'n meddwl tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd ar hynny a rhoi gwybod i ni sut mae pethau'n mynd.
Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn ac am y pwyslais y mae'r Aelod yn ei roi ar faterion amgylcheddol. Gwn fod fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi bod yn trafod y mater hwnnw ymhellach gyda Tata. Roeddwn i fy hun yn Tata ychydig cyn hanner tymor, yn cyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol yno. Codasant gyda mi unwaith eto, Llywydd, y pris uchel am ynni y mae'n rhaid iddyn nhw ei brynu a methiant Llywodraeth y DU i weithredu ar gostau uchel i ddiwydiannau sydd â defnydd dwys o ynni. Mae'n rhan o'r rheswm pam y maen nhw mor benderfynol o ddatblygu eu cyflenwadau pŵer eu hunain, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gefnogwr brwd o'r bwriad hwnnw, o ran y cyngor yr ydym ni'n ei roi i Tata ond hefyd wrth drafod ffyrdd y gallwn ni wneud cyfraniad ariannol at y datblygiad hwnnw.
Mi ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol fod yna drafodaeth barhaus rhyngoch chi a Gweinidogion eich Cabinet chi ar y mater yma. Wrth gwrs, holl fwriad datgan argyfwng hinsawdd yw er mwyn newid gêr ac er mwyn sicrhau bod mwy yn digwydd. Felly, ga'i ofyn pa orchymyn, neu instruction, ŷch chi wedi ei roi i'ch Gweinidogion chi ynglŷn â sut mae datgan argyfwng hinsawdd yn mynd i newid eu blaenoriaethau nhw? Ac a fydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn diwygio llythyrau cylch gorchwyl—remit letters—i gyrff cyhoeddus mewn ymateb i'r argyfwng yma?
Diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiwn ac am yr awgrym hefyd. Fel y dywedais i yn yr ateb gwreiddiol, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd at y broses o greu'r cyllid am y flwyddyn nesaf yn fewnol, a rhoi mwy o bwyslais ar bethau rŷm ni'n gallu eu gwneud ar draws y Llywodraeth i gyd, pan fyddwn ni'n siarad am ddatgarboneiddio a phethau yn yr un maes. Felly, rŷm ni wedi newid y ffordd rŷm ni'n mynd ati. A phwrpas gwneud hynny yw i gasglu mwy o syniadau a newid y pethau rŷm ni'n eu gwneud ar draws y Llywodraeth, a, gydag unrhyw syniadau, fel yr un roedd e wedi'i awgrymu'r prynhawn yma, wrth gwrs, rŷn ni'n agored i feddwl a thrafod syniadau fel yna.