Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 4 Mehefin 2019.
Llywydd, penderfyniad yw hwn a wneir pan mae'r ansicrwydd mwyaf ynglŷn â'n dyfodol ariannol. Mae cyni na welwyd ei debyg o'r blaen ym maes cyllid cyhoeddus yn cyfuno â diffyg eglurder llwyr o ran ein cyllidebau cyfalaf am y blynyddoedd i ddod, a gwaethygir hynny gan yr ansicrwydd ynghylch Brexit, er ein bod ni'n gwybod y gallai diffyg cynnydd Llywodraeth y DU o ran cyflwyno adolygiad cynhwysfawr o wariant weld cyllideb Llywodraeth Cymru yn llai hyd yn oed yn y dyfodol nag y mae heddiw.
Mae goblygiadau sylweddol a phenodol i'r sefyllfa ariannol hon o ran arfer fy mhwerau i wneud y gorchmynion prynu gorfodol sy'n angenrheidiol i'r prosiect fynd rhagddo. Yn hyn o beth, a chyn penderfynu cyflawni unrhyw orchmynion prynu gorfodol, mae'n ofynnol imi fod yn sicr bod angen pendant am orchmynion o'r fath a bod yn rhaid iddyn nhw fod er budd y cyhoedd, a bod yn rhaid iddyn nhw, gyda'i gilydd, gyfiawnhau ymyrryd â hawliau dynol y rhai sydd â buddiant yn y tir sydd ei angen ar gyfer y prosiect. Mae'n rhaid imi gael fy modloni y byddai'r adnoddau angenrheidiol i gyflawni'r prosiect ar gael o fewn amserlen resymol ac nad yw'r prosiect yn debygol o gael ei atal gan unrhyw rwystr arall i'w weithrediad. Llywydd, deuthum i'r casgliad bod y sefyllfa ariannol yn golygu na allaf fod yn sicr y caf arfer fy mhwerau i roi gorchmynion prynu gorfodol o ran y prosiect, gan nad wyf wedi fy modloni y gellir gweithredu'r prosiect mewn dyfodol y gellir ei ragweld, o ystyried y cyfnod hir o ansicrwydd ariannol sy'n ein hwynebu.
Nawr, Llywydd, yng ngoleuni'r casgliad hwn, nid oes angen imi fynd ymlaen i ystyried a yw manteision y prosiect yn goresgyn ei anfanteision ac a wyf i'n cytuno â chasgliadau cyffredinol yr arolygydd o ran lleoliad y man canol rhwng y manteision a'r anfanteision. Serch hynny, rwyf wedi mynd ati, fel y dywedodd yr arolygydd, drwy roi sylw, fel y gwnaiff ef ym mharagraff 8.481 ei adroddiad, i'r buddiannau cryf a chystadleuol sydd ar waith yma, a'r cwestiwn o ble y dylai'r cydbwysedd rhwng y buddiannau cystadleuol hynny sefyll. Felly, rwyf wedi ystyried y manteision a'r anfanteision a nodwyd gan yr arolygydd, a deuthum i'r casgliad, hyd yn oed heb ystyried safbwynt y Cabinet ynglŷn ag ariannu, a hyd yn oed pe byddai'n debygol, ar y sail honno, y câi'r prosiect ei weithredu arno, y byddwn i, beth bynnag am hynny, wedi penderfynu peidio â chyflawni'r cynlluniau na'r gorchmynion.
Rwy'n cydnabod casgliadau'r arolygydd o ran manteision ac anfanteision y prosiect. Fodd bynnag, rwyf yn rhoi mwy o bwys na'r arolygydd ar yr effeithiau andwyol y byddai'r prosiect yn eu cael ar yr amgylchedd ac ecoleg. Yn benodol, rwy'n rhoi pwys mawr iawn ar y ffaith y byddai'r prosiect yn cael effaith andwyol sylweddol ar safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar wastadeddau Gwent a'u rhwydwaith a'u bywyd gwyllt, ac ar rywogaethau eraill, ac effaith andwyol barhaol ar dirwedd hanesyddol wastadeddau Gwent. O ganlyniad, yn fy marn i, mae effeithiau anffafriol y prosiect ar yr amgylchedd, o'u cymryd ynghyd â'r anfanteision eraill, yn gorlethu ei fanteision. Wrth bwyso a mesur y 'buddiannau cryf a chystadleuol', geiriau'r arolygydd, mae fy nyfarniad ynghylch lle mae'r cydbwysedd rhwng y buddiannau cystadleuol hynny'n gorwedd yn y pen draw yn wahanol i'w farn ef. Am y rhesymau ychwanegol hyn, ar wahân i'r rhesymau ar sail cyllid, nid wyf o'r farn y ceir achos cryf o ran budd y cyhoedd o blaid difeddiannu'r tir sy'n ddarostyngedig i'r gorchmynion prynu gorfodol, ac nid wyf o'r farn y byddai'n briodol nac yn fanteisiol cyflawni cynlluniau a gorchmynion eraill.
Llywydd, yn union fel y bu'n rhaid i'm penderfyniad ystyried y cyd-destun ariannol diweddaraf a'r newid sy'n wynebu Llywodraeth Cymru, mae'n rhaid i ddatrysiadau i broblemau tagfeydd ar yr M4 o amgylch Casnewydd yn y dyfodol adlewyrchu'r sialensiau amgylcheddol diweddaraf sy'n ein hwynebu fel cenedl. Mae dau adroddiad sylweddol diweddar wedi tynnu sylw at wahanol agweddau ar yr heriau hyn. Y cyntaf yw adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd, 'Net Zero', sy'n argymell nod newydd o 95 y cant ar gyfer lleihau allyriadau yng Nghymru erbyn 2050. Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru, gan gydnabod maint a brys y bygythiad, wedi datgan argyfwng ar yr hinsawdd. Yn ail, fis diwethaf, cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig ei asesiad byd-eang ar fioamrywiaeth. Roedd yr adroddiad hwnnw'n nodi maint yr effaith y mae gweithgarwch a datblygiad dynol yn ei chael ar rywogaethau, a'r bygythiad y mae datblygiad pellach yn debygol o'i achosi i ecosystemau ledled y byd. Llywydd, mae canfyddiadau'r adroddiad hwnnw'r un mor berthnasol i ni yma yng Nghymru.
Nawr, Llywydd, rwy'n cydnabod, wrth gwrs, fod barn gref ar ddwy ochr y ddadl ynglŷn â'r prosiect hwn. Ond mae yna gonsensws, a chonsensws yr wyf i'n ei rannu, fod yn rhaid mynd i'r afael â phroblemau o ran capasiti, cydnerthedd a'r amgylchedd ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, ac y bydd angen cymysgedd o atebion lleol a rhanbarthol i fynd i'r afael â nhw. Yng ngoleuni'r cyfyngiadau ar gyllid a'r effeithiau amgylcheddol sydd wedi arwain at fy mhenderfyniad ar y gorchmynion, mae'n bwysig bod y materion hynny'n cael sylw ar y cyd ar hyn o bryd, a bod gan leisiau ar y naill ochr a'r llall y cyfle i weithio ar y ffordd ymlaen gyda'i gilydd. Yn y cyd-destun hwn yr wyf i'n cyhoeddi comisiwn newydd heddiw a gaiff ei benodi—comisiwn o arbenigwyr trafnidiaeth sy'n gyfrifol am adolygu'r dystiolaeth a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ynghylch atebion amgen i'r problemau a wynebir ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd. Fe all yr awgrymiadau hynny gynnwys technolegau arloesol a mesurau eraill i fynd i'r afael â'r problemau cyfredol hynny.
Bydd y comisiwn yn cael ei dywys gan ein huchelgais cyffredinol ni i ddatblygu system drafnidiaeth o ansawdd uchel, sy'n aml-foddol, yn integredig ac yn garbon isel, ac yng nghyd-destun heriau mawr newid hinsawdd a bioamrywiaeth yr wyf i wedi eu nodi eisoes. Bydd y comisiwn yn cynnwys amrywiaeth o arbenigedd, a chaiff ei gefnogi yn ei waith gan dîm penodedig o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn gwneud cyhoeddiadau pellach am y comisiwn, gan gynnwys amserlenni—gan wneud y cyhoeddiadau hynny yfory i'r Cynulliad. Cyn gwaith y comisiwn, bydd y Gweinidog yn gweithredu cyfres o ymyriadau wedi eu hanelu ar fyrder i liniaru tagfeydd ar yr M4, er enghraifft camau i hwyluso'r broses o symud cerbydau sy'n peri rhwystrau, patrolau gwell o swyddogion traffig, gwybodaeth fyw am deithiau i helpu gyrwyr i wneud dewisiadau teithio gwell, ac ymgyrch i newid ymddygiad gyrwyr a lleihau damweiniau a digwyddiadau a gwneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar y lonydd ar hyn o bryd.
Llywydd, mae trafnidiaeth yn faes, fel y clywsom yn y cwestiwn a ofynnwyd imi gan y cyn Brif Weinidog, lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol i'r dyfodol, o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd trwy Trafnidiaeth i Gymru i'r fasnachfraint reilffyrdd newydd a'r metro, i ddeddfwriaeth o bwys i wella gwasanaethau bysiau, i'r buddsoddiad mwyaf a welwyd erioed mewn teithio llesol ledled Cymru.
Mae datrys y problemau tagfeydd o amgylch yr M4 yn rhan bwysig o'r cynlluniau hynny. Ond fel y gwelwn o adroddiad yr arolygydd, nid oes atebion hawdd heb unrhyw wrthwynebiad. Rydym wedi ymrwymo i fabwysiadu dull cynhwysol a chydweithredol o ddod o hyd i atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy o fewn yr amserlenni byrraf posibl, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag eraill i wireddu'r uchelgais hwnnw.