Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 4 Mehefin 2019.
Llywydd, rwy'n diolch i Jayne Bryant am yr oriau lawer o sylw y mae hi wedi eu rhoi i'r mater hwn, am y llu o gyfarfodydd yr wyf wedi eu cael gyda hi yn ystod y misoedd cyn i mi ddod yn Brif Weinidog, wrth iddi geisio canfod atebion i'r problemau yng nghyffiniau Casnewydd. Mae hi wedi bod yn gwbl gydwybodol yn gwneud hynny, ac rwy'n awyddus i roi sicrwydd iddi hi, wrth ddod i'm penderfyniad heddiw ac wrth ei fynegi yn y ffordd y gwneuthum, fy mod yn gwbl benderfynol y byddwn yn dangos i bobl Casnewydd fod yn bethau y gellir eu gwneud yn y presennol, ymhell cyn y byddai unrhyw ryddhad yn dod yn sgil ffordd liniaru, i gael effaith ar y problemau y maen nhw'n eu hwynebu.
Weithiau, Llywydd, disgrifir y ffordd liniaru yn ateb i lawer o broblemau. Fe ddarllenais i'n ofalus iawn, a rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pethau a ddywedodd yr arolygydd am ansawdd yr aer o amgylch Casnewydd, ond pan gaiff yr Aelodau gyfle i'w ddarllen fe fyddan nhw'n gweld, er bod yr arolygydd wedi canfod y byddai ansawdd aer wedi gwella mewn 30,000 o dai, roedd ef yn canfod hefyd mai dibwys neu ychydig iawn fyddai'r effaith ar 29,500 o'r tai hynny, a dim ond 12 o'r 30,000 eiddo hynny a fyddai'n gweld effaith fawr ar ansawdd yr aer. Felly, mae'r materion sy'n ymwneud ag ansawdd aer yn bwysig iawn. Rydym yn fwy ymwybodol o'r rhain heddiw nag yr oeddem hyd yn oed bum mlynedd yn ôl, ond gwelwyd nad oedd ffordd liniaru'r M4 yn ateb i'r problemau ansawdd aer a wynebir gan bobl Casnewydd, a chredaf fod yna atebion eraill a fydd o fwy o fudd iddyn nhw.
Rwy'n ddiolchgar i Jayne Bryant am dynnu sylw at ddigwyddiadau a damweiniau, oherwydd yr wyf i wedi nodi yn fy natganiad y pethau y credwn y gallwn ni eu gwneud nhw ar unwaith i ymdrin yn gynt ag unrhyw ddamwain sy'n digwydd, yn enwedig o amgylch twnnel Bryn-glas, oherwydd, os cawn ni fwy o batrolau, mwy o bresenoldeb yr heddlu, trefniadau eraill ar gyfer clirio damweiniau oddi ar y draffordd fel y gellir ymateb iddyn nhw'n briodol ac ymchwilio iddyn nhw, yna ni cheir peth o'r oedi hirfaith sy'n digwydd fel arall, a bydd y draffordd yn cael ei hadfer i weithredu'n briodol heb yr effaith ar ardaloedd cyfagos y cyfeiriodd yr Aelod dros Orllewin Casnewydd ati.
Gadewch i mi ymdrin â mater arian, oherwydd yr wyf i eisoes wedi dweud yn fy nhrafodaethau â rhai o'r bobl a fydd yn ffurfio'r comisiwn y byddan nhw'n alluog i gael yr alwad gyntaf am yr arian a fyddai wedi ei neilltuo fel arall ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Ac roeddwn i'n awyddus i roi'r sicrwydd hwnnw iddyn nhw y bydd yr adnoddau ar gael, pan fydd syniadau ymarferol ganddyn nhw, i roi'r syniadau hynny ar waith. Rwyf i wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw iddyn nhw'n barod; rwy'n falch iawn o'i ailadrodd eto'r prynhawn yma. Pan fydd Ken Skates yn gwneud ei ddatganiad yfory, bydd ganddo ef fwy i'w ddweud am y ffordd y bydd y comisiwn yn gweithredu, ei ddulliau o weithio, a sut y bydd hynny'n sicrhau bod lleisiau pobl leol ac eraill yn cael eu clywed yn y penderfyniadau a wneir. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn awyddus i ofyn cwestiynau ond hefyd i groesawu'r hyn a fydd yn cael ei ddweud yn y cyswllt hwnnw hefyd.