3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:21, 4 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'r penderfyniad hwn yn un gresynus iawn yn ein golwg ni. Wrth i'r Prif Weinidog glochdar, yn ofalus ei ddewis, am economi Cymru nawr, ni chyfeiriodd at y ffaith mai yng Nghymru y ceir y cyflogau isaf ym mhob un o wledydd a rhanbarthau'r DU. Roedd ganddo'r cyfle heddiw i wneud rhywbeth i leddfu'r gwasgbwynt sy'n tagu dwy ran o dair o economi Cymru sy'n dibynnu, i ryw raddau, ar yr M4 i gael ei chynnyrch i'r farchnad. A yw'n credu mewn gwirionedd bod dweud ei fod yn mynd i wneud rhywbeth i hwyluso'r gwaith o ymdrin â damweiniau a dysgu mwy i bobl am sut i osgoi damweiniau, neu sefydlu comisiwn arall—bod hynny'n ymateb digonol i faint y broblem? Rwy'n croesawu iddo ddweud y bydd yn gwrando ar bob llais, ac rwy'n gobeithio y bydd, fel rhan o hynny, yn gwrando ar David Rowlands, ein llefarydd ni, am y gwaith manwl y mae ef wedi ei wneud yn hyn o beth.

Y llythyr penderfyniad—rydych chi'n dweud ym mharagraff 4.3 fod yna naw mater yr oeddech chi'n eu hystyried. Rydych chi'n sôn wedyn am dri mater arall ym mharagraff 4.4. Tybed a gaf i ofyn: a oes dogfen arall y rhoesoch chi sylw iddi o gwbl, a maniffesto'r Blaid Lafur yw'r ddogfen honno, a oedd yn dweud, 'Fe fyddwn ni'n cwblhau ffordd liniaru'r M4'. Nawr, rydych chi'n dweud ar ddiwedd eich llythyr  penderfyniad—[Torri ar draws.] Rydych chi'n dweud ar ddiwedd eich llythyr penderfyniad:

'Dim ond trwy wneud cais am adolygiad barnwrol y ceir herio fy mhenderfyniadau.'

Prif Weinidog, onid ydych chi'n credu y gallai eich penderfyniad chi fod yn rhywbeth y gallai pleidleiswyr fod â barn amdano, o ystyried yr addewid glir iawn a wnaethoch chi yn eich maniffesto, yr ydych chi wedi ei thorri erbyn hyn?

Nawr, rydych chi'n sôn am yr amserlen, Prif Weinidog. Rydych chi'n dweud, yn 2014, nad oedd neb wedi meddwl am Brexit. Yn Ionawr 2014 y gwnaeth David Cameron draddodi ei araith Bloomberg yn dweud y byddai refferendwm ar aros neu adael. Rydych chi'n sôn am y llinell amser. Yr arolygwr druan, roedd yno rhwng Chwefror 2017 a Medi 2018. Roedd ganddo 83 o ddiwrnodau yn eistedd ac yn gwrando ar dystiolaeth. Dywedwyd wrtho gan Lywodraeth Cymru—y Prif Weinidog, Carwyn Jones, y Gweinidog cyllid, Mark Drakeford—y byddai'r arian ar gael i ariannu hyn. Cyflawnodd yr holl waith ar y sail honno—gwariodd 44 miliwn o bunnoedd ar y sail honno—eto i gyd, dywedwyd wrthoch, nid cyn 29 o fis Ebrill, fod hynny, yn wir, yn gwbl anghywir. Felly, Prif Weinidog, yn ôl eich tystiolaeth chi, fe wnaethoch dreulio tri mis yn edrych ar yr adroddiad hwn, yn gwneud yr holl waith hwn, gan roi ystyriaeth anhygoel iddo mewn manylder rhyfeddol. Ond yna ar 29 Ebrill aeth y cyfan yn ofer gan fod eich Cabinet wedi dweud wrthoch nad yw'r arian ar gael. A yw honno'n sail gredadwy mewn gwirionedd? A ydym ni i gredu o ddifrif eich bod wedi bwrw ymlaen ar y sail honno?

Yn olaf, hoffwn dynnu rhywfaint o sylw at yr anghysondeb rhwng eich llythyr penderfyniad a'r hyn yr oeddech chi'n ei ddweud gynnau. Mae eich llythyr penderfyniad yn sôn am un ffactor amgylcheddol yn unig, sef gwastadeddau Gwent—dim ond 2 y cant o'r gwastadeddau sy'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y ffordd. Rydych chi'n rhoi pwyslais a barn mor wahanol arno, o'i gymharu â'r arolygydd, o ran mai hyn sy'n ei ysgogi. Ond yr hyn a wnaethoch ei ddweud yn eich datganiad nawr oedd, 'O, y pwyllgor ar newid hinsawdd oedd hynny, Net Zero oedd hynny'—roedd hynny oherwydd eich bod wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, er i chi ddweud wrthym ni'r tro diwethaf mai datganiad yn unig oedd hyn ac na fyddai'n arwain at newid polisi. Pam ydych chi'n rhoi cymaint o bwyslais ar newid hinsawdd yn eich datganiad heddiw ond nid yn yr hysbysiad o'ch penderfyniad? A pha effaith a gaiff ar yr hinsawdd pan fo'r niferoedd enfawr hyn o gerbydau mewn tagfeydd yn pwmpio carbon deuocsid ac allyriadau eraill, a fyddai gryn dipyn yn llai pe bai'r ceir hynny'n symud yn hytrach nag yn aros yno gyda'u peiriannau ymlaen?

Ac yn olaf, beth am bobl Casnewydd sy'n dioddef y llygredd aer hwnnw, y gronynnau a'r nitrogen deuocsid gerllaw'r twneli hynny, sy'n mynd yn waeth ac yn waeth, ynghyd â'r gwasgbwynt hwn sy'n mynd yn waeth ac yn waeth i economi Cymru?