Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 4 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â'ch penderfyniad, ac rwyf wedi arddel y farn honno ers tro. Ond deallaf iddo fod yn benderfyniad anodd iawn ichi ei wneud, gyda dadleuon cryf iawn ar y ddwy ochr. Mae hyn hefyd yn egluro'r ffaith fod gen i a Jayne, er ein bod yn cytuno'n llwyr ar raddfa a difrifoldeb y problemau, safbwyntiau gwahanol ynghylch yr ateb gorau, serch hynny. Ond mae dadleuon cryf iawn ar y ddwy ochr ac rwy'n deall hynny'n iawn.
Ond rwy'n cytuno bod yr ystyriaethau amgylcheddol, gwerth mawr gwastadeddau Gwent, sy'n amgylchedd unigryw a hanesyddol, gyda gwerth ecolegol hollbwysig—yn wir, mewn dadl fer yn ddiweddar, cyfeiriais at hanes gwastadeddau Gwent yma yn y Siambr hon. Yn wir, mae gwerth gwastadeddau Gwent, a'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, yn golygu bod angen meddylfryd newydd, mwy o ddychymyg a ffyrdd newydd o wynebu'r broblem hon, a hefyd, mae'r gost yn amlwg yn anhawster gwirioneddol wrth fwrw ymlaen â ffordd o'r maint hwn. Gwn fod llawer o bobl yn credu y byddai'r gost yn y pen draw wedi mynd y tu hwnt i £2 biliwn, ond os yw pobl yn arddel y farn honno, neu'n credu y byddai wedi bod oddeutu £1.5 biliwn, mae'n swm mawr iawn o arian, y gellid ei ddefnyddio mewn ffyrdd llawer gwell yn fy marn i.
Hoffwn ichi gytuno—credaf eich bod wedi gwneud hyn eisoes, Prif Weinidog, ond yn sicr hoffwn wneud y pwynt—y bydd yn rhaid defnyddio £1 biliwn o'r benthyciad sydd ar gael, efallai, ar gyfer y coridor M4 hwnnw o amgylch Casnewydd, lle mae'r problemau mor ddifrifol a dwys. Ac, rwy'n credu, gyda'r disgwyliad sydd wedi ei greu o gwmpas hanes y cynnig am ffordd liniaru'r M4, mae gan y bobl leol ddisgwyliadau uchel iawn y bydd hynny'n digwydd. Hoffwn ategu hefyd yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelod Jayne am yr angen i sicrhau bod pobl Casnewydd yn cael eu cynrychioli'n briodol yn y broses sydd bellach yn mynd i ddigwydd o amgylch y comisiwn. A byddwn yn dweud bod yn rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gael swyddogaeth gref iawn o ran y Comisiwn, gan ei bod yn sicr y bydd gofyn iddynt gyflawni llawer o'r camau y bydd eu hangen i fwrw ymlaen â'r dull amgen.
Prif Weinidog, a allech roi sicrwydd pellach hefyd o ran yr angen i gymryd camau cyflym iawn i ymdrin â phroblemau'r presennol? Gwn eich bod eisoes wedi mynd i'r afael â hyn, ond roeddech yn llygad eich lle yn dweud y byddai'n o leiaf tua phum mlynedd cyn y byddai ffordd liniaru'r M4 yn weithredol, ac yn amlwg mae angen inni wneud llawer i ymdrin â'r problemau yn y tymor byr iawn. A rhaid i hynny fod yn flaenaf, fe gredaf, yng ngwaith y comisiwn, ac mae angen i lawer ddigwydd cyn i'r comisiwn ddechrau ar ei waith hyd yn oed. Rwy'n gobeithio y gwelwn y lefel honno o frys ac amseroldeb.
A gaf i ddweud hefyd fod llawer o'r materion, wrth gwrs, yn effeithio ar ardal Cyngor Sir Fynwy, Dwyrain Casnewydd, yn fy etholaeth i? Credaf ein bod yn ffodus o gael cymunedau yno sydd mewn gwirionedd yn cyflwyno atebion posibl i'r problemau sy'n ein hwynebu, gan gynnwys y rheini ym Magwyr a Gwndy, sy'n cynnig gorsaf drên newydd. Maent wedi bod yn mynd drwy broses y DU ynglŷn â chronfa gorsafoedd newydd, ac maent yn gobeithio, ar hyn o bryd, y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol i'r £80,000 sydd ar gael gan Gyngor Sir Fynwy i fwrw ymlaen â cham nesaf y broses honno o wneud cais i orsafoedd newydd Cronfa'r DU. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y byddwn yn defnyddio'r dychymyg, yr egni a'r syniadau hynny gan gymunedau lleol i fynd i'r afael â'r problemau real iawn hyn.
Yn olaf, Prif Weinidog, tybed a allech ddweud unrhyw beth am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd credaf fod llawer o bobl yn ystyried y penderfyniad hwn yn brawf pwysig o'r ddeddfwriaeth honno, ac a fyddem yn gweld dull newydd iawn o weithredu gan Lywodraeth Cymru. Tybed a allech ddweud rhywbeth am arwyddocâd y ddeddfwriaeth honno wrth ichi ddod i'r penderfyniad a wnaethoch.