Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 4 Mehefin 2019.
Llywydd, diolch i John Griffiths. Ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r pethau a ddywedais eisoes mewn cysylltiad â gweithredu'n gyflym a'r angen am atebion newydd llawn dychymyg. Ceisiaf ymateb i'r pwyntiau newydd y mae John wedi'u gwneud. Mae'n iawn i dynnu sylw at y ffaith, yn ogystal â phryder am gostau disgwyliedig cyfredol unrhyw ffordd liniaru, fod yn rhaid inni feddwl sut y gallai'r costau hynny gynyddu yn y dyfodol. Ar gyfartaledd, mae cost cynlluniau o'r math hwn ar draws y Deyrnas Unedig wedi cynyddu 20 y cant, ac mae llawer o enghreifftiau sy'n llawer gwaeth na hynny, wrth gwrs. Rydych yn siŵr o gymryd y math hwnnw o dystiolaeth i ystyriaeth yn y cefndir wrth asesu fforddiadwyedd.
Dywedaf eto, pan gynigiwyd y cynllun gyntaf, fel yr eglurwyd gan y Prif Weinidog ar y pryd ar sawl achlysur yma yn y Siambr, mai ar y sail y byddai ffrwd newydd o gyllid—pwerau benthyca nad oeddent erioed wedi bod ar gael o'r blaen i'r Cynulliad hwn— yn ddigonol i dalu'r costau dan sylw, ac na fyddai angen, felly, dargyfeirio arian i ffwrdd oddi wrth flaenoriaethau eraill y Llywodraeth Lafur Gymreig hon yn y meysydd pwysig hynny, sef iechyd, tai ac addysg, ac yn y blaen. Ond rwyf wedi egluro wrth y bobl a fydd yn gysylltiedig â'r comisiwn, y bydd eu gwaith nhw'n cael manteisio ar yr arian a fuasai ar gael ar gyfer ffordd liniaru, ac y byddant yn gallu bwrw ymlaen â syniadau fel y rhai a gyflwynwyd gan gynghorau cymuned yn ardal Sir Fynwy. Byddant yn gallu defnyddio'r arian hwnnw i roi sylwedd i'w gwaith.
Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am gyfraniad Cyngor Dinas Casnewydd, ac rwyf wedi siarad eisoes gydag arweinydd Cyngor Casnewydd heddiw. Siaredais ag amryw o unigolion eraill sydd â diddordeb uniongyrchol ynddo. Mae fy nghyd-aelod Ken Skates wedi siarad â Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach a buddiannau busnes eraill, a byddaf yn cwrdd â nhw yr wythnos nesaf. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod gan bawb sydd â diddordeb yn y penderfyniad gyswllt uniongyrchol â Llywodraeth Cymru.
Mae'r Aelod wedi fy holi am ddeddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n dymuno egluro, Llywydd, fy mod wedi darllen yn ofalus iawn y dystiolaeth a roddwyd gan y Comisiynydd, a darllenais yn ofalus iawn y modd yr ymatebodd Cwnsler y Frenhines, ar ran Llywodraeth Cymru, i'w dehongliad hi o'r Ddeddf. Yn fy marn i, nid darlleniad o'r Ddeddf oedd yr hyn a glywais i'n cael ei fynegi ar lawr y Cynulliad hwn, sef bod yn rhaid i gynigion ar gyfer datblygu fodloni pob un o'r saith nod a'r holl amcanion llesiant, a bod yn rhaid iddynt wneud hynny'n gyfartal ar draws yr holl nodau a'r amcanion. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn anochel, mewn unrhyw gynllun datblygu, y bydd rhywfaint o gydbwysedd rhwng y gwahanol nodau a'r amcanion y mae'r Ddeddf yn eu cyflwyno. Nid oeddwn wedi anghydweld â barn yr arolygydd, felly, fod gofynion y Ddeddf wedi cael eu cynrychioli'n deg gan Lywodraeth Cymru yn y modd y cyflwynodd ei thystiolaeth ar y Ddeddf i'r arolygydd.