Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 4 Mehefin 2019.
Yn y cyfamser, rhaid inni barhau â'n paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Ers cytuno ar yr estyniad ym mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn achub ar y cyfle i adolygu'r paratoadau a wnaethom ni wrth i'r dyddiad ymadael disgwyliedig agosáu ym mis Ebrill. Mae'n bwysig ein bod yn pwyso a mesur ac yn ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr holl waith gwerthfawr sy'n cael ei wneud ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt. Mae'n parhau'n wir nad oes modd lliniaru'n llawn ar effeithiau gadael heb gytundeb ar Gymru, naill ai yn y tymor byr neu yn yr hirdymor. Nid oes unrhyw fesur a allai wrthweithio'n llwyr effeithiau dechrau masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae gosod tariffau a'r potensial ar gyfer oedi a rhwystrau mewn porthladdoedd oherwydd gwiriadau tollau yn ganlyniad anochel o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Cyfaddefodd papur Llywodraeth y DU ei hun ym mis Chwefror eleni, a oedd yn nodi'r goblygiadau i fusnes a masnach o adael yr UE heb gytundeb, y byddai economi'r DU yn 6.3 i 9 y cant yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb' nag y byddai wedi bod fel arall o'i gymharu â heddiw. Yn frawychus, yng Nghymru, byddai'n 8.1 y cant yn llai. Mae arbenigwyr gorfodi'r gyfraith wedi'i gwneud hi'n glir y bydd y DU yn lle llai diogel os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.
Felly, rydym ni eisiau sicrhau bod ein paratoadau mor gadarn â phosib. Yn gyffredinol, rwy'n falch o ddweud bod myfyrdodau ar baratoadau blaenorol yn gadarnhaol. Roedd gennym ni strwythurau llywodraethu cadarn ar waith a oedd yn darparu gwaith cydgysylltu a gwneud penderfyniadau effeithiol. Sefydlwyd strwythurau cadarn gennym ni ar gyfer ymgysylltu â'r sector cyhoeddus ehangach—yn wir, nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hadroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi darparu arweiniad yn y maes hwn. Lle bu'n rhaid gwario ar y posibilrwydd o adael heb gytundeb, rydym ni wedi ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bu hynny yn unol â'r nodau strategol ehangach ac, yn ddelfrydol, y byddai'n fuddiol os na fyddai cytundeb, neu fel arall.
Rydym ni wedi cyflwyno ein meddyliau i Lywodraeth y DU o ran paratoadau ar gyfer y DU gyfan. Er i ni weld gwelliannau o ran rhannu gwybodaeth a'r un math o gydgysylltu canolog a oedd gennym ni yng Nghymru, daeth yn rhy hwyr. Mae hefyd yn bwysig nad yw'r perthnasau a'r strwythurau a grëwyd yn dirywio. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau hyn, rydym ni'n ailedrych ar ein gwaith cynllunio a'n paratoadau er mwyn sicrhau eu bod mor gadarn â phosib, gan ystyried, yn benodol, a oes angen i unrhyw un o'n tybiaethau sylfaenol newid. Er enghraifft, rydym ni wedi bod yn ystyried goblygiadau dyddiad ymadael posib yn yr hydref yn lle'r gwanwyn, fel y gwahanol batrymau o fewnforion ac allforion a'r capasiti storio sydd ar gael.
Iechyd a lles pobl Cymru yw ein prif flaenoriaeth o hyd a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael a bod cyflenwadau bwyd yn ddiogel. Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau ym mhob sector o'r economi drwy'r cyngor a roddir gan borth Brexit Busnes Cymru a chymorth ariannol drwy gronfa cydnerthedd busnesau Brexit, cronfa dyfodol yr economi a Banc Datblygu Cymru. A byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU fel na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid.
Rydym yn dal i gael cydbwysedd er mwyn sicrhau ein bod yn dyrannu adnoddau ar baratoadau 'dim cytundeb' yn briodol ac yn gymesur, gan barhau i gyflawni blaenoriaethau eraill a hefyd i baratoi i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu hystyried mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond gyda'r cyfyngder Seneddol presennol, diffyg unrhyw gonsensws ynglŷn â ffordd ymlaen, a'r posibilrwydd y bydd Brexitwr digyfaddawd yn arwain y Blaid Geidwadol a'r wlad, mae'r bygythiad o ddim cytundeb yn dal yn real iawn, ac felly mae'n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer.
Dirprwy Lywydd, byddwn yn annog pob busnes a sefydliad ledled Cymru i wneud yr un fath. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod yn llawn yr her o neilltuo adnoddau prin i gynllunio ar gyfer rhywbeth na fydd o bosib yn digwydd, ond mae'r risg o anwybyddu bygythiad dim cytundeb yn fawr iawn. Yn syml, nid yw'n ddigon i fanteisio nawr ar y posibilrwydd y bydd y Senedd neu'r UE yn rhoi terfyn arno ar y funud olaf, unwaith eto. Rydym ni'n darparu cyngor ac arweiniad drwy ein gwefan—Paratoi Cymru—sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chefnogaeth i bobl Cymru. Gall busnesau gael cymorth ariannol a chyngor am fasnachu drwy gyfnodau ansicr ar wefan Busnes Cymru, gan gynnwys y Porth Brexit, a thrwy Fanc Datblygu Cymru. Rydym ni bellach wedi nodi nifer o gamau syml, cost-isel i helpu busnesau i baratoi am Brexit 'dim cytundeb' ac a fydd yn ddefnyddiol i'w busnesau beth bynnag, ac mae'r manylion hynny ar gael yn awr ar Paratoi Cymru.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n wynebu'r bygythiad gwirioneddol a pharhaus o Brexit anhrefnus. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd gwirioneddol, rydym ni'n gweithredu lle mae gennym ni'r gallu i sicrhau bod Cymru'n barod. Fel Llywodraeth gyfrifol, diogelu buddiannau pobl Cymru fydd ein prif flaenoriaeth bob amser.