– Senedd Cymru am 4:04 pm ar 4 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit. Dwi'n galw ar y Gweinidog a'r Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. Ddiwedd fis Ebrill, wnes i ddatganiad yn croesawu penderfyniad y cyfarfod eithriadol o'r Cyngor Ewropeaidd i gytuno ar estyniad i erthygl 50. Fel sawl un arall, roeddwn i'n teimlo rhyddhad fod y penderfyniad wedi ei atal, am y tro, o leiaf, y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb a'r anhrefn a ddeuai yn ei sgil. Ond roeddwn i'n glir iawn hefyd, er bod yr estyniad i erthygl 50 i'w groesawu, fod peryglon sylweddol ynghlwm wrth hynny. Soniais i am y risg na fyddem ni, yn ystod y chwe mis hynny, yn gweld camau pendant ymlaen, ond yn hytrach y byddai'r Senedd yn San Steffan yn parhau i droi yn ei hunfan. Erbyn heddiw, y gwir digalon amdani yw bod yr ofnau hynny wedi eu gwireddu. Mewn ychydig wythnosau, mae fel petai popeth wedi newid.
Mae'r negodiadau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid wedi methu, wedi'u dinistrio gan yr ymgiprys am amlygrwydd gan y rhai sy'n dyheu am arwain y Ceidwadwyr, ac fe wyddom ni nad oes unrhyw awydd yn y Blaid Geidwadol seneddol am y fath o Brexit y buom ni'n ei hybu'n gyson, un sy'n galw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau.
Mae'r Prif Weinidog yn rhoi'r gorau iddi ac mae ei chytundeb yn deilchion. Mae'n ymddangos yn anochel, o gofio'r broses ryfedd a'r etholwyr cwbl anghynrychioladol a fydd yn rhoi ei holynydd inni, y bydd gennym ni Brif Weinidog ym mis Gorffennaf a fydd yn mynnu, mewn sioe o ryfyg, os dim byd arall, y bydd y 27 aelod o'r UE yn ailagor eu trafodaethau ar y cytundeb ymadael. Caiff hyn ei wrthod, a bydd y Llywodraeth yn paratoi'r ffordd ar gyfer cael Brexit heb gytundeb. Llywydd, mae'n anhygoel y gallai Prif Weinidog newydd, heb fandad cyhoeddus, fod yn barod i lywyddu dros y DU yn chwalu o'r UE heb gytundeb. Ond mae'n amlwg hefyd nad oes consensws cenedlaethol ynghylch y ffordd ymlaen ac ychydig o gefnogaeth i Brexit meddal fel ffordd o wneud yr hyn sy'n amhosibl ei gyflawni. Fe wnaethom ni geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 gyda'r math lleiaf niweidiol o Brexit, ond mae'r ymdrech honno bellach wedi cyrraedd pen y ffordd.
Mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod yr etholwyr yn rhanedig iawn o hyd, ac, yn wir, bod y rhaniad wedi ymledu, gyda llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn refferendwm 2016 bellach yn cefnogi dim cytundeb, a llawer, mwyafrif mae'n debyg, eisiau inni aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn wyneb y math hwn o ddewis deuaidd, rydym ni'n glir, bron dair blynedd ar ôl y refferendwm, a mwy na dwy flynedd ar ôl inni gyflwyno 'Diogelu Dyfodol Cymru', fod yn rhaid i ni fel Llywodraeth gydnabod y gwirioneddau hyn a newid cwrs.
Wrth wneud hynny, nid ydym ni'n ymddiheuro o gwbl am y polisi a gyflwynwyd gennym ni a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Roedd yn ymgais onest i gyfleu ffordd o barchu canlyniad y refferendwm heb chwalu'r economi, gan gydnabod y byddai'r cwymp economaidd yn sgil Brexit caled dim ond yn dwysáu, yn hytrach na datrys, y problemau a achoswyd gan gyni—y cyni a fu, gyda'r ymdeimlad o gael eich eithrio, a chwaraeodd ran mor fawr yn cymell pobl i bleidleisio 'gadael' mewn cymunedau ledled Cymru.
Wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, roeddem yn glir na fyddai unrhyw fath o Brexit gystal ar gyfer swyddi a bywoliaethau pobl Cymru ag aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac roeddem ni hefyd yn glir bod angen cyfaddawd rhwng dylanwad gwleidyddol a ffyniant economaidd er mwyn cyflawni Brexit. Ond mae amser wedi treiglo, mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu mwy na dwy flynedd yn ceisio ac yn methu llunio cytundeb a allai guddio'r gwrthddywediadau cynhenid a nodwyd yn safbwyntiau digyfaddawd y Prif Weinidog. Mae'r ansicrwydd parhaus yn anghynaliadwy. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud bod y sefyllfa wleidyddol bresennol o ran gadael yr UE yn drychineb sy'n gwasgu ar fusnesau yn y DU, gyda hyder buddsoddwyr ar ei isaf ers y chwalfa ariannol ddegawd yn ôl. Nid rhyw ddadl haniaethol yw hon; mae effeithiau gwirioneddol i bobl Cymru, gyda cholli cyfleoedd a swyddi.
Felly, fel Llywodraeth, byddwn yn awr yn ymgyrchu i aros yn yr UE. Ac er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, dylai Senedd San Steffan nawr ddangos y dewrder i gyfaddef ei bod mewn merddwr a deddfu ar gyfer refferendwm, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Rydym ni wedi bod yn galw ers misoedd ar i Lywodraeth y DU wneud paratoadau rhag ofn y byddai angen refferendwm. Nawr rhaid i'r Senedd wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Gadewch imi fod yn hollol glir: bydd unrhyw gytundeb yn gofyn am fandad newydd gan yr etholwyr, ac mae'n rhaid i'r angen am adael heb gytundeb gael un hefyd. Ac, wrth gwrs, rhaid i unrhyw refferendwm gynnwys aros yn yr UE fel dewis. Rydym ni bob amser wedi dadlau bod perygl y bydd cynnal refferendwm arall yn atgyfnerthu rhaniadau, ond mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod unrhyw gred bod y wlad wedi dod ynghyd yn gwbl ledrithiol. Ac, wrth gwrs, mae siawns y gallai ail refferendwm arwain at yr un canlyniad â'r cyntaf. Ond byddwn yn ymgyrchu i aros, a byddwn yn gweithio gyda'r rheini yn y Siambr hon a'r tu allan sy'n rhannu'r farn honno.
Yn y cyfamser, rhaid inni barhau â'n paratoadau ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb ddiwedd mis Hydref. Ers cytuno ar yr estyniad ym mis Ebrill, rydym ni wedi bod yn achub ar y cyfle i adolygu'r paratoadau a wnaethom ni wrth i'r dyddiad ymadael disgwyliedig agosáu ym mis Ebrill. Mae'n bwysig ein bod yn pwyso a mesur ac yn ystyried y ffordd orau o adeiladu ar yr holl waith gwerthfawr sy'n cael ei wneud ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt. Mae'n parhau'n wir nad oes modd lliniaru'n llawn ar effeithiau gadael heb gytundeb ar Gymru, naill ai yn y tymor byr neu yn yr hirdymor. Nid oes unrhyw fesur a allai wrthweithio'n llwyr effeithiau dechrau masnachu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae gosod tariffau a'r potensial ar gyfer oedi a rhwystrau mewn porthladdoedd oherwydd gwiriadau tollau yn ganlyniad anochel o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.
Cyfaddefodd papur Llywodraeth y DU ei hun ym mis Chwefror eleni, a oedd yn nodi'r goblygiadau i fusnes a masnach o adael yr UE heb gytundeb, y byddai economi'r DU yn 6.3 i 9 y cant yn llai yn y tymor hir mewn sefyllfa o 'ddim cytundeb' nag y byddai wedi bod fel arall o'i gymharu â heddiw. Yn frawychus, yng Nghymru, byddai'n 8.1 y cant yn llai. Mae arbenigwyr gorfodi'r gyfraith wedi'i gwneud hi'n glir y bydd y DU yn lle llai diogel os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.
Felly, rydym ni eisiau sicrhau bod ein paratoadau mor gadarn â phosib. Yn gyffredinol, rwy'n falch o ddweud bod myfyrdodau ar baratoadau blaenorol yn gadarnhaol. Roedd gennym ni strwythurau llywodraethu cadarn ar waith a oedd yn darparu gwaith cydgysylltu a gwneud penderfyniadau effeithiol. Sefydlwyd strwythurau cadarn gennym ni ar gyfer ymgysylltu â'r sector cyhoeddus ehangach—yn wir, nododd Swyddfa Archwilio Cymru yn ei hadroddiad fod Llywodraeth Cymru wedi darparu arweiniad yn y maes hwn. Lle bu'n rhaid gwario ar y posibilrwydd o adael heb gytundeb, rydym ni wedi ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo modd, y bu hynny yn unol â'r nodau strategol ehangach ac, yn ddelfrydol, y byddai'n fuddiol os na fyddai cytundeb, neu fel arall.
Rydym ni wedi cyflwyno ein meddyliau i Lywodraeth y DU o ran paratoadau ar gyfer y DU gyfan. Er i ni weld gwelliannau o ran rhannu gwybodaeth a'r un math o gydgysylltu canolog a oedd gennym ni yng Nghymru, daeth yn rhy hwyr. Mae hefyd yn bwysig nad yw'r perthnasau a'r strwythurau a grëwyd yn dirywio. Felly, gan adeiladu ar y sylwadau hyn, rydym ni'n ailedrych ar ein gwaith cynllunio a'n paratoadau er mwyn sicrhau eu bod mor gadarn â phosib, gan ystyried, yn benodol, a oes angen i unrhyw un o'n tybiaethau sylfaenol newid. Er enghraifft, rydym ni wedi bod yn ystyried goblygiadau dyddiad ymadael posib yn yr hydref yn lle'r gwanwyn, fel y gwahanol batrymau o fewnforion ac allforion a'r capasiti storio sydd ar gael.
Iechyd a lles pobl Cymru yw ein prif flaenoriaeth o hyd a byddwn yn parhau i wneud ein gorau glas i sicrhau bod meddyginiaethau ar gael a bod cyflenwadau bwyd yn ddiogel. Byddwn yn parhau i gefnogi busnesau ym mhob sector o'r economi drwy'r cyngor a roddir gan borth Brexit Busnes Cymru a chymorth ariannol drwy gronfa cydnerthedd busnesau Brexit, cronfa dyfodol yr economi a Banc Datblygu Cymru. A byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU fel na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid.
Rydym yn dal i gael cydbwysedd er mwyn sicrhau ein bod yn dyrannu adnoddau ar baratoadau 'dim cytundeb' yn briodol ac yn gymesur, gan barhau i gyflawni blaenoriaethau eraill a hefyd i baratoi i sicrhau y caiff buddiannau Cymru eu hystyried mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Ond gyda'r cyfyngder Seneddol presennol, diffyg unrhyw gonsensws ynglŷn â ffordd ymlaen, a'r posibilrwydd y bydd Brexitwr digyfaddawd yn arwain y Blaid Geidwadol a'r wlad, mae'r bygythiad o ddim cytundeb yn dal yn real iawn, ac felly mae'n rhaid i ni baratoi ar ei gyfer.
Dirprwy Lywydd, byddwn yn annog pob busnes a sefydliad ledled Cymru i wneud yr un fath. Wrth gwrs, rydym ni'n cydnabod yn llawn yr her o neilltuo adnoddau prin i gynllunio ar gyfer rhywbeth na fydd o bosib yn digwydd, ond mae'r risg o anwybyddu bygythiad dim cytundeb yn fawr iawn. Yn syml, nid yw'n ddigon i fanteisio nawr ar y posibilrwydd y bydd y Senedd neu'r UE yn rhoi terfyn arno ar y funud olaf, unwaith eto. Rydym ni'n darparu cyngor ac arweiniad drwy ein gwefan—Paratoi Cymru—sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd gyda chefnogaeth i bobl Cymru. Gall busnesau gael cymorth ariannol a chyngor am fasnachu drwy gyfnodau ansicr ar wefan Busnes Cymru, gan gynnwys y Porth Brexit, a thrwy Fanc Datblygu Cymru. Rydym ni bellach wedi nodi nifer o gamau syml, cost-isel i helpu busnesau i baratoi am Brexit 'dim cytundeb' ac a fydd yn ddefnyddiol i'w busnesau beth bynnag, ac mae'r manylion hynny ar gael yn awr ar Paratoi Cymru.
Dirprwy Lywydd, rydym ni'n wynebu'r bygythiad gwirioneddol a pharhaus o Brexit anhrefnus. Yn erbyn cefndir o ansicrwydd gwirioneddol, rydym ni'n gweithredu lle mae gennym ni'r gallu i sicrhau bod Cymru'n barod. Fel Llywodraeth gyfrifol, diogelu buddiannau pobl Cymru fydd ein prif flaenoriaeth bob amser.
Diolch. Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig gyda llawer o'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud. Roedd llawer o feirniadu ar y Blaid Geidwadol, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn blaid sydd wedi ceisio, gymaint ag y gall, gyflawni Brexit ac sydd wedi llywio cytundeb ymadael drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydych chi wedi dweud nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod ansicrwydd ac anghytundeb llwyr, ond, ar bob cyfle a gafwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i bleidleisio dros gytundeb ymadael a fyddai'n atal Brexit anhrefnus a dryslyd, mae'r Blaid Lafur wedi pleidleisio yn ei erbyn. Mae 90 y cant o Aelodau Seneddol Ceidwadol—[Torri ar draws.] Mae 90 y cant o ASau Ceidwadol bob amser wedi pleidleisio o blaid y cytundeb ymadael hwnnw, yn wahanol i 100 y cant, neu bron i 100 y cant, o'r ASau Llafur, sydd wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, roedd gennych chi fodd fel plaid i gyflwyno Brexit gyda chytundeb sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n eithaf rhyfeddol, yn sgil canlyniadau etholiad yr UE, a welodd draean o'r bleidlais—gan gynnwys rhai o'n pleidleisiau ni, a llawer o'ch pleidleisiau chi hefyd—yn llithro i'r Blaid Brexit, sy'n amlwg eisiau cyflawni Brexit—.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich datganiad at y ffaith bod llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn 2016 bellach yn cefnogi 'dim cytundeb' a llawer, a mwyafrif mae'n debyg, yn dymuno aros, a bod rhai pobl wedi newid eu barn. Yn fy mhrofiad i, mae'r rhan fwyaf o bobl wedi newid eu barn i'r gwrthwyneb, gan eu bod yn parchu democratiaeth, yn wahanol i'r hyn a ymddengys i mi, Llywodraeth Cymru. Y ffaith yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mewn refferendwm. Cafwyd dadl. Roeddwn yn pryderu weithiau am ansawdd y ddadl honno ar y ddwy ochr iddi, ond, ar ddiwedd y ddadl honno—ar ddiwedd y ddadl honno—pleidleisiodd pobl Cymru o blaid gadael. A does dim un refferendwm wedi bod, erioed, yn hanes ein cenedl, lle nad yw canlyniad y refferendwm hwnnw wedi ei weithredu. Ac rwy'n credu mai ein dyletswydd ni fel gwleidyddion yw gwrando ar y cyhoedd pan fyddwn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddweud eu dweud, ac i roi canlyniad y pleidleisiau hynny ar waith.
Nawr, roeddech chi'n cyfeirio hefyd yn eich datganiad at y ffaith bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi mynegi pryder y gallem ni fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ymddengys eich bod yn gwrando ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain pan fydd hynny'n gyfleus i chi, ac yn eu hanwybyddu pan nad yw hynny'n gyfleus i chi, fel y gwelsom ni gyda ffordd liniaru'r M4 heddiw, ac, yn wir, o ran eu barn ar y cytundeb ymadael, oherwydd, wrth gwrs, roedden nhw'n cefnogi'r cytundeb ymadael y pleidleisiodd pob un ohonoch chi yn ei erbyn. Felly, ni allwch ei chael chi bob ffordd, drwy ddyfynnu unigolion mewn modd dethol pan fu eu barn yn eithaf clir ynghylch cytundeb ymadael y Prif Weinidog, gan fod ganddyn nhw farn glir iawn, a hynny oedd cefnogi'r cytundeb hwnnw er mwyn osgoi Brexit afreolus.
Nawr, gadewch imi ei gwneud hi'n gwbl glir ein bod ni, ein meinciau ni, eisiau cytundeb. Rydym ni eisiau cytundeb da. Ond, os nad oes modd sicrhau hynny, yna rydym ni'n barod i gefnogi sefyllfa o 'ddim cytundeb', oherwydd mae'n rhaid i ni fod yn barod i gerdded ymaith—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i chi fod yn barod i gerdded ymaith os nad yw'r cytundeb yn ddigon da. Nawr, mae'n gwbl glir—[Torri ar draws.] Mae'n gwbl glir na all y cytundeb presennol, sef y cytundeb ymadael ar hyn o bryd, ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae wedi cael ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin ar sawl achlysur. Felly, ni all gael mwyafrif yn ei ffurf bresennol, a phwy a ŵyr beth fyddai'r sefyllfa ar ôl cael Prif Weinidog newydd. Ond mae un peth yn sicr, a hynny yw bod yn rhaid i ni barchu'r canlyniad o ran y refferendwm.
Nawr, roeddwn yn falch o un rhan o'ch datganiad, a hynny oedd y diwedd—nid yn unig wrth ichi derfynu'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond o ran y ffaith eich bod yn cyfeirio at rai o'r pethau cyfrifol yr ydych chi'n eu gwneud fel Llywodraeth er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Nawr, fel y dywedais, nid wyf eisiau gweld Brexit heb gytundeb, byddai'n well o lawer gennyf pe bai gennym ni gytundeb masnach da gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond ymddengys i mi fod llawer o anhyblygrwydd ar ochr Ewropeaidd y ddadl, lle nad yw pobl yn awyddus i roi cytundeb da inni, ac efallai'n wir y bydd hynny'n arwain at ein hymadawiad â'r UE heb un.
Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennym ni rai paratoadau priodol ar waith yn amlwg. Ac rwy'n falch o weld eich bod yn llawer mwy o ddifrif ynghylch y risg yna ac y buoch chi ers dechrau'r flwyddyn hon yn paratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Nawr, a gaf i ofyn—? Rydych chi wedi neilltuo arian yn y gorffennol i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, gan gynnwys prosiectau a gweithgareddau amrywiol sy'n ymwneud â'r Llywodraeth. A gaf i ofyn ichi a ydych yn mynd i gynyddu'r swm hwnnw, o gofio'r dyddiad 31 Hydref sy'n prysur agosáu, ac, os felly, pa weithgaredd ydych chi'n disgwyl ei ariannu ohono? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn deall yn fwy manwl pa weithgaredd rydych chi eisiau ei hybu.
A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd: o ran y prosiectau sydd eisoes wedi'u hariannu o ganlyniad i gyllid pontio'r UE, o ran y bobl sydd mewn gwirionedd yn manteisio ar yr arian hwnnw, a oes gennych chi ddosbarthiad daearyddol yng Nghymru lle y gallwch chi fapio'n union y diddordeb a'r ymgysylltu? Oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n fy mhoeni i yw, os oes Brexit heb gytundeb—ac, fel y dywedaf, rwyf eisiau osgoi hynny, ond, os oes, mae angen inni sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob diwydiant yng Nghymru yn barod am y posibilrwydd a'r tebygolrwydd hwnnw. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny'n benodol.
Croesawaf yr hyn a wnaethoch chi ei ddweud, fel y dywedais, am yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n digwydd a'r paratoadau difrifol sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd, ond mae'n ofid imi eich bod mewn plaid yn awr sydd yn cefnogi ail refferendwm, sy'n sôn am ymgyrchu dros aros yn y refferendwm hwnnw, ac anwybyddu, i bob pwrpas, canlyniad y bleidlais gyntaf. Rwy'n dweud wrthych chi eich bod yn blaid sydd yn gyson yn y gorffennol wedi gweithredu canlyniad refferenda pa un a ydych chi wedi hoffi'r canlyniad ai peidio, ac rydych wedi bod ar wahanol ochrau i refferenda: wedi ennill rhai, ac wedi colli rhai, yn hanesyddol. Beth sydd mor wahanol am hwn? Nid wyf yn deall.
Diolch yn fawr i'r Aelod am rai o'r cwestiynau hynny. Dechreuodd drwy roi'r bai, os mynnwch chi, am y chwalfa yn y trafodaethau Seneddol a'r methiant i sicrhau consensws Seneddol. Rwy'n credu—ac nid wyf yn ceisio diystyru canlyniadau fy mhlaid fy hun yn yr etholiadau Ewropeaidd, ond credaf fod yr etholwyr ledled y DU wedi bod yn glir iawn eu barn ynghylch pwy sy'n bennaf gyfrifol am hynny, ac maen nhw'n iawn i roi'r bai ar y Blaid Geidwadol.
Rydym ni wedi ymrwymo tan y funud olaf mewn ymdrech i geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 â'r math o Brexit y credwn oedd y ffurf leiaf niweidiol o Brexit er budd Cymru. Rydym bob amser wedi bod yn glir ein bod yn credu bod unrhyw fersiwn o Brexit yn llai er budd Cymru nag aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Methwyd ag ennill y ddadl honno yn 2016, ond rydym ni wedi ymdrechu yn y cyfnod ers hynny i geisio sicrhau consensws ar gyfer llwybr drwy hynny. Ac o'r dechrau'n llwyr, anhyblygrwydd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan a Theresa May wrth geisio, o'r dechrau—a oedd yn gyfrifoldeb ar arweinyddiaeth ar draws y DU—sydd wedi methu ag adeiladu'r consensws hwnnw, er mor anodd fyddai hynny wedi bod, ar draws y Senedd. Methodd â cheisio hynny, heb sôn am gyflawni hynny. Felly, nid wyf yn derbyn unrhyw wersi gan y Blaid Geidwadol am geisio ymgysylltu mewn modd creadigol ac adeiladol yn y broses hon. Rwy'n gwbl glir ynghylch pwy sydd ar fai, a hynny yw Llywodraeth y DU a Theresa May fel Prif Weinidog.
Mae'n sôn am fod yn barod i gefnogi sefyllfa o 'ddim cytundeb'; Rwyf eisiau bod yn glir iawn, os ydym yn cyrraedd sefyllfa o 'ddim cytundeb' a'n bod yn gweld y difrod yn ymledu ledled Cymru, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn glir iawn mai dyna fydd yn digwydd, cofir y datganiad hwnnw, fod y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad yma yn barod i oddef canlyniad o 'ddim cytundeb' i Gymru—nad oes mandad ar ei gyfer, gyda llaw, ac nad oes mandad gan Brif Weinidog newydd y Ceidwadwyr sy'n dewis mynd ar drywydd y llwybr hwnnw. Ac rwy'n gwybod, mewn cyd-destunau eraill, ei fod wedi galw am etholiadau cyffredinol pan fu newidiadau o ran arweinyddiaeth genedlaethol, felly rwy'n tybio yn y cyd-destun hwn y bydd yn galw am etholiad cyffredinol pan etholir Prif Weinidog newydd yn Senedd San Steffan.
Rydym ni wedi ceisio drwy'r amser—. Mae'n sôn am wrando ar y cyhoedd; mae hynny oherwydd ein bod wedi gweld methiant i gysoni'r ddwy egwyddor hynny yr ydym yn eu dweud heddiw, fel y dywedodd Prif Weinidog Cymru yr wythnos diwethaf, ein bod yn galw am refferendwm er mwyn i'r bobl allu rhoi eu barn ar sut i ddatrys hyn a byddwn yn gwrando ar y bobl a chymryd eu barn o ran sut orau i ddatrys y sefyllfa hon.
Fe wnaethoch chi fy holi am y paratoadau. Fe wnaethoch chi fy holi am y paratoadau. Wel, byddwch yn gwybod ein bod wedi gwario—. O gronfa bontio'r Undeb Ewropeaidd, rydym ni wedi dyrannu, o'r £50 miliwn a glustnodwyd ar gyfer hynny, tua £34 miliwn yn barod, ac mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â'r modd y mae gweddill y gronfa honno a'r mathau o fuddsoddiadau a allai gael eu gwneud gyda hi. Yn amlwg, un o'r materion yw sicrhau ein bod yn ei ddyrannu yn erbyn amrywiaeth o sefyllfaoedd Brexit. Ar hyn o bryd, credwn fod y perygl o Brexit heb gytundeb yn debygol iawn, ac felly, yn y sefyllfa honno, mae'n amlwg y canolbwyntir ar hynny, ond rydym ni'n ystyried cwantwm y gronfa honno ar hyn o bryd.
O ran y pwynt a wnaethoch chi am ddosbarthiad daearyddol, mae nifer o'r buddsoddiadau o'r gronfa honno wedi bod ar sail Cymru gyfan. Felly, er enghraifft, yn fwyaf diweddar, efallai—neu un o'r dyraniadau diweddaraf yw £1.4 miliwn ychwanegol, rwy'n credu, i awdurdodau lleol ledled Cymru i alluogi pob awdurdod lleol i recriwtio swyddog Brexit penodol i gydlynu gweithgarwch lleol. Ond mae arian ychwanegol ar gael i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Bu buddsoddiadau yn y sector cig coch, er enghraifft, gan feincnodi gweithgarwch ledled Cymru yn y sector hwnnw. Ac anogwn geisiadau i'r gronfa honno o bob rhan o Gymru. Rydym ni wedi ceisio rheoli'r Gronfa mewn ffordd lle nad oes llawer o fiwrocratiaeth, a byddem yn annog ceisiadau, wrth gwrs, o bob rhan o Gymru. Ac yn arbennig y gronfa gydnerthedd Brexit bwrpasol, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn—rydym yn annog ceisiadau gan fusnesau ym mhob rhan o Gymru i'r gronfa honno. Rydym ni'n cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod pob rhan o Gymru yn ymgysylltu â hynny ac yn sicrhau eu bod yn cael y cymorth sy'n briodol.
Rwy'n falch o groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi newid eich polisi. Dyw e ddim yn reaffirmation, fel yr oedd y Prif Weinidog yn ei ddweud yn gynharach, mae yn newid polisi ar yr angen i gynnal refferendwm er mwyn rhoi'r penderfyniad terfynol am ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn nwylo'r bobl. Dwi ddim yn sicr faint o weithiau rydym wedi trafod y mater yn y Siambr hon gyda'r Llywodraeth yn mynnu bod Brexit synhwyrol yn parhau i fod yn bosib, ond o leiaf nawr, diolch i ganlyniad yr etholiad Ewropeaidd, efallai, rydych wedi dod i'r casgliad y daeth Plaid Cymru iddo amser maith yn ôl, sef mai refferendwm yw'r unig fodd o ddatgloi'r cwlwm Brexit.
Rwy'n cytuno â'r hyn rydych wedi ei ddweud ynghylch pa mor briodol ac adeiladol oedd cyhoeddi 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn 2017, a hoffwn roi teyrnged i waith ardderchog fy rhagflaenydd, Steffan Lewis, wrth ei lunio ar y cyd gyda'ch Llywodraeth. Ond daeth hi'n amlwg yn fuan iawn i ni nad oedd modd rhesymu gyda'r Llywodraeth Brydeinig, oedd yn gwrthod yn lân â gwrando ar lais Cymru. Felly, doedd dim dewis wedyn ond ceisio am bleidlais gyhoeddus. Hoffwn ofyn felly: yn sgil eich tro pedol, pa gamau gweithredol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd nawr er mwyn gwireddu'r amcan hwn? Pa gamau byddwch chi'n eu cymryd er mwyn rhoi'r trefniadau mewn lle er mwyn cynnal refferendwm? Sut y byddwch yn mynd ati i ymgyrchu er mwyn sicrhau refferendwm ac yna ei ennill ar yr ochr 'aros', a pha bwysau y byddwch yn ei roi ar y Blaid Lafur ganolog, sydd yn parhau i wrthod datgan polisi clir?
Yn amlwg, dim ond un cam o'r darlun yw'r refferendwm ei hun. Mae gwaith mawr angen ei wneud er mwyn dod â chymdeithas yn ôl ynghyd er mwyn dechrau ailintegreiddio ein cymunedau a lleddfu'r rhaniadau sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Pa gynlluniau sydd gennych mewn cysylltiad â hyn?
Hoffwn ofyn yn ogystal am fanylion ynghylch y broses o sut wnaeth y Llywodraeth newid y polisi. Pryd gafodd y penderfyniad ei wneud yn union? Ai cyn pleidlais yr etholiad, cyn i ganlyniadau'r etholiad gael eu cyhoeddi neu wedyn? Beth oedd y broses oedd yn cael ei dilyn? Rwy'n gofyn er budd tryloywder i geisio deall sut mae'r Llywodraeth yn gwneud penderfyniadau mawr fel hyn.
Yn olaf, rwyf eisiau gofyn i chi am eglurder ynglŷn â rhywbeth wnaethoch chi ddweud yn y cyfarfod o'r pwyllgor materion allanol ddoe. Wrth drafod yr anghytundeb rhwng eich Llywodraeth chi a Llywodraeth Prydain ar state aid, fe ddywedoch, ac rwy'n dyfynnu,
Mae gennym ni farn gyffredin ynglŷn â sut y dylai cymorth gwladwriaethol weithio.
—shared view, hynny yw, gyda Llywodraeth San Steffan.
Mae Plaid Cymru yn cytuno bod state aid yn fater datganoledig, gan ei fod ddim wedi ei restru yn Neddf Cymru fel pŵer sydd wedi ei gadw yn ôl. Ond, allwch chi esbonio sut mae'ch Llywodraeth chi, dan arweinyddiaeth sosialydd, yn rhannu gweledigaeth â Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ynglŷn â sut ddylai state aid weithio? Pam nad ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r gallu i gefnogi diwydiannau allai fod mewn peryg yn sgil Brexit heb gytundeb, er enghraifft? Rwy'n pryderu'n enwedig am y diwydiant dur, sy'n wynebu corwynt o ansicrwydd yn sgil Brexit, newidiadau mawr o ganlyniad i'r farchnad ansefydlog a'r rhyfel masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina. Mewn erthygl yn The Guardian yn ddiweddar, dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Prydain heb gynnig unrhyw gefnogaeth i'n diwydiant dur. Sut, felly, allwch chi ddweud eich bod yn cytuno â'i gweledigaeth yn y maes hwn?
Rwy'n diolch i'r Aelod am y sawl cwestiwn sydd wedi bod ynghlwm wrth y cyfraniad hwnnw. A gaf i esbonio yn gyntaf, felly, o ran y polisi o blaid refferendwm, mai nid y canlyniadau etholiadol oedd yr unig ffactor yn hyn o beth, wrth gwrs? Gwnaeth y Prif Weinidog, yma yn y Siambr, ryw 10 diwrnod neu wythnos cyn yr etholiad, sôn bod yr amser yn dod yn fuan i edrych ar y cwestiwn o refferendwm arall. Roedd y trafodaethau rhwng y meinciau blaen yn mynd rhagddyn nhw ar hynny o bryd, a daeth yn eglur erbyn canol mis Mai, wrth gwrs, fod y rheini ddim yn mynd i ddwyn ffrwyth—roedd hynny'n ffactor pwysig iawn oherwydd dyna'r broses fwyaf tebygol o arwain at ryw fath o gytundeb tuag at Brexit meddal.
Wedyn, y bore ar ôl yr etholiad, cyn bod y canlyniadau yn dod allan, gwnaeth Theresa May, wrth gwrs, benderfynu ei bod hi'n mynd i ymddiswyddo fel Prif Weinidog. Wel, er mor anodd yr oedd e wedi bod i geisio dod i gytundeb â Theresa May fel Prif Weinidog ar y math o Brexit yr ŷm ni wedi bod yn galw amdano fe fan hyn, byddai'n llawer anoddach gwneud hynny gydag unrhyw un o'r bobl fyddai'n dod ar ei hôl hi, felly roedd yn hollol amlwg, yn sgil y ffactorau hynny gyda'i gilydd, fod y cwestiwn o sicrhau cytundeb i fersiwn o Brexit sy'n cael ei disgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—bod y cwestiwn o sicrhau hynny bellach wedi dod i ben y daith.
Felly, yn sgil hynny, gan fod y Senedd hon ei hun wedi penderfynu—a phlaid yr Aelod hefyd—wedi cefnogi ar fwy nag achlysur cynigion a oedd yn rhoi refferendwm fel un opsiwn, roedd hi'n bwysig, wedyn, ein bod ni'n cydnabod pwysau'r polisi hwnnw a galw am refferendwm. Rŷm ni wedi bod yn glir, wrth gwrs, ers y cychwyn cyntaf y byddem ni'n ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwnaethon ni y tro diwethaf, a'n bod ni'n barod i wneud hynny gyda phleidiau eraill, i ateb ei chwestiwn hi, i sicrhau'r canlyniad hwnnw os daw cyfle eto i wneud hynny.
A gaf i jest wneud un pwynt am y cwestiwn yma o ymroddiad Plaid Cymru i refferendwm? Dyw e ddim yn wir i ddweud bod hyn wedi bod yn benderfyniad cynnar iawn. Digwyddodd hyn, yn fy nghof i, pan newidiwyd yr arweinyddiaeth o Leanne Wood i Adam Price. Mae'n beth perffaith deg i ddigwydd yn sgil hynny, ond dwi ddim yn credu mai dadansoddiad cynnar iawn oedd hyn—bod 'Diogelu Dyfodol Cymru' ddim yn mynd i ddod i law. Fe wnaeth ein dwy blaid ni gydweithio am gyfnod sylweddol wedi hynny i geisio gwireddu egwyddorion, fel y gwnaeth hi gydnabod, y gwnaeth Steffan Lewis gymaint i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w disgrifio.
O ran y broses, felly, o fynd ati i drefnu refferendwm, ar y cyfan, fel bydd yr Aelod yn gwybod, gyda Llywodraeth San Steffan mae'r cyfrifoldeb i ddodi'r etholiadau hynny ar y ffordd. Rwyf fi, yn yr wythnosau diwethaf, ac mae'r Prif Weinidog hefyd, wedi parhau i wthio hynny. Fe wnes i hynny yng nghanol mis Ebrill gyda David Lidington, ganol mis Mai gydag e, ac wedyn eto ddiwedd mis diwethaf gyda Stephen Barclay pan ddaeth e yma i Gaerdydd. Mae amryw o gamau yn y ddeddfwriaeth berthnasol sydd angen eu cymryd cyn bod y mesurau yma'n gallu cael eu cymryd. O ran ein gwaith ni yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog ers amser wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn iddi hi sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i alluogi ni yma i fod yn barod ar gyfer hynny. Y math o gamau sydd ynghlwm yn hynny yw delio gyda'r registration officers ar lefel leol, a chysidro p'un a oes angen canllawiau gwahanol ar gyfer gweinyddiaeth Llywodraeth yn ystod y cyfnod refferendwm. Felly, mae'r camau penodol hynny yn mynd rhagddyn nhw.
Fe wnaeth hi ofyn i fi beth oedd y cyfle i gael perswâd ar y Blaid Lafur yn ganolog. Wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn gyson yn dadlau yn ein plaid ni beth rŷm ni'n credu sy'n fuddiannau gorau Cymru, y math o Brexit roeddem ni'n credu efallai fyddai gobaith ei gael, ac mae'n amlwg nawr bod yna ddim gobaith cael hynny. Ac mae'r Prif Weinidog yma hefyd wedi bod yn dadlau'r achos dros refferendwm gyda'r Blaid Lafur yn ganolog. Ond gaf fi fod yn berffaith glir? Fy mwriad i a'r peth rydw i yn atebol yma amdano yn sefyll yma heddiw, a'r Gweinidogion eraill, yw beth yw barn Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn. Ar ddiwedd y dydd, fel sydd wedi dod yn glir yn ystod yr wythnos diwethaf, pan rŷm ni'n credu bod angen gwneud rhywbeth sydd yn wahanol ond ym muddiannau Cymru, rŷm ni'n mynd i wneud hynny. Ac felly, rŷm ni'n glir yn ein barn bod angen refferendwm arnom ni yma i ateb y sefyllfa rŷm ni ynddi ar hyn o bryd.
Jest i glirio'r cwestiwn yma ar gyfer state aid, mae'r Aelod yn glir, rwy'n credu, ei bod hi eisiau cael perthynas agos gyda'r farchnad sengl. Er mwyn sicrhau hynny, rwy'n dweud bod angen cael yr un trefniadau state aid. Mae'n rhaid cael llawr cyson ar gyfer y pethau yma ar draws marchnadoedd rŷm ni eisiau gwerthu i mewn iddyn nhw a masnachu gyda nhw, a dyna oedd yr egwyddor sydd wedi cael ei rhannu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod yr egwyddor honno yn cael ei rhannu hefyd gan Blaid Cymru. Mae'n berffaith glir bod mwy o hyblygrwydd mewn materion state aid na sydd yn ymddangos bod y Llywodraeth wedi eu cymryd i ystyriaeth hyd yn hyn, ac felly yn y dyfodol gobeithio bydd mwy o ystyriaeth o'r mathau yna o bethau yn digwydd. Ond yr egwyddor rŷm ni'n ymroi iddi fan hyn, ac rwy'n credu bod ei phlaid hi hefyd yn ymroi iddi, yw bod angen level playing field ar gyfer y mathau yma o bethau ar gyfer y marchnadoedd Ewropeaidd y byddem ni'n bwriadu ac yn dymuno gallu masnachu gyda nhw ymhell i mewn i'r dyfodol.
Gaf fi hefyd groesawu y datganiad rydym ni wedi'i glywed y prynhawn yma? Dwi'n credu bod yna groeso wedi bod efallai ym mhob un rhan o'r Siambr, ond yn bendant ar y meinciau yma mae yna groeso gwresog i hynny. Rydym ni'n falch hefyd gyda'r tôn rydych chi wedi bod yn ei ddefnyddio y prynhawn yma, Weinidog. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn arwain ar hyn, a ddim jest yn ymateb i beth rydym ni'n ei glywed a beth rydym ni'n ei weld fel mae digwyddiadau yn digwydd.
Gaf fi ofyn i chi tri pheth? Yn gyntaf, rydych chi wedi dweud wrth ateb cwestiynau eraill sut rydych chi'n bwriadu gweithredu y polisi yma, sut rydych chi am fynd ati i wneud hynny. Gaf fi gadarnhau bod hyn yn mynd i fod yn destun trafod yn y cyfarfodydd rydych chi'n mynd i gael gyda Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig—ac hefyd os ydych chi wedi trafod hyn gyda Gweinidogion yn yr Alban hefyd? Achos dwi yn credu ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n ehangu y drafodaeth ar y refferendwm a sut rydym ni'n sicrhau ein bod ni'n gallu creu tempo i wneud hynny.
Gaf fi ofyn i chi hefyd beth ydy statws y Papur Gwyn? Rydych chi wedi trafod y Papur Gwyn yn barod y prynhawn yma, a rydych chi wedi sôn amdano fe yn y datganiad rydych chi wedi ei wneud. Beth yw statws y Papur Gwyn nawr? Ydy'r Papur Gwyn dal i fod yno fel amcan polisi o ryw fath? Ydy e dal yn aros fel polisi Llywodraeth Cymru? Ac ydych chi dal yn mynd i ddadlau dros yr amcanion sydd gyda ni yn y Papur Gwyn hynny?
Ac yn olaf, y cwestiwn arall liciwn i ofyn i chi, Weinidog, yw hyn. Dŷn ni'n gwybod, a dwi'n gwybod, fel un sy'n cynrychioli Blaenau Gwent, fod y rhesymau mae pobl wedi pleidleisio, yn y refferendwm blaenorol ac mewn etholiadau blaenorol, dros Brexit yn aml iawn ddim yn ymwneud â Brexit ac yn ymwneud â lot fawr o bethau eraill. Dŷn ni wedi'u trafod hyn fan hyn o'r blaen. Oes yna ffordd i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau ein bod ni'n gallu cyfathrebu negeseuon clir am Brexit a'r impact mae hynny'n mynd i'w gael ar gymunedau sydd yn economaidd fregus fel Blaenau Gwent, a hefyd sicrhau fod yna neges glir am y difrod mae Brexit yn gallu ei wneud i gymunedau megis Blaenau Gwent, a bod hynny yn dod o Lywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Mae yna dri phrif gwestiwn wnaeth e ofyn. O ran y cwestiwn cyntaf ynglŷn â bod hyn yn mynd i fod yn destun trafod gyda Gweinidogion y Deyrnas Unedig, gallaf i gadarnhau bod hynny yn wir. Wrth gwrs, fel gwnes i sôn gynnau, rŷm ni wedi bod yn codi'r cwestiwn yma ond byddwn ni'n parhau i wneud hynny ac yn parhau i bwyso am gamau penodol i gael eu cymryd. Mae hyn wedi bod yn destun trafod ers amser gyda Llywodraeth yr Alban. Mae'r berthynas honno—roedd yr Aelod yn sôn am bwysigrwydd cydweithio—rŷm ni'n gweld yn y Siambr yma lle rŷm ni wedi llwyddo. Rŷm ni wedi cydweithio, yn fwyaf penodol, rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru, er enghraifft yn y ddogfen Papur Gwyn. Hefyd, mae cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban—mae'r cydweithio hynny wedi bod yn ffactor bwysig yn y caffaeliadau rŷn ni wedi llwyddo eu cael ar hyd siwrnai sydd wedi bod yn dymhestlog iawn ers refferendwm 2016.
O ran cynnwys y Papur Gwyn, wel, petai hi'n bosibl cael cytundeb allan yn San Steffan, dyna'r math o gytundeb y buaswn i dal yn moyn ei weld, rwy'n credu, ond dŷn ni ddim yn credu bod hynny'n bosib. A jest i fod yn glir, dwy ddim yn gweld hynny fel rhywbeth sydd yn wahanol i gael refferendwm. Rŷm ni wedi bod yn glir bod angen refferendwm ar unrhyw fath o ddêl yn hyn o beth. Felly, dwi ddim yn moyn i hynny gael ei gamddeall. Ond, petai dêl yn bosib, wel, yn sicr dyna dal y math o ddêl, o'n safbwynt ni, fyddai'r math orau i ni allu llwyddo ei chael. Ond mae'r posibilrwydd o hynny, yn ein barn ni, yn sgil yr etholiadau ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, yn benodol—does dim posibilrwydd realistig o hynny yn fy nadansoddiad i'n bersonol.
O ran y cwestiwn olaf wnaeth yr Aelod ei godi, rwy'n credu bod hyn yn mynd i galon y cwestiwn, achos rŷm ni wedi bod yn trafod perthynas y Deyrnas Unedig gyda'r Undeb Ewropeaidd am dair blynedd, ac mae pob eiliad o'r amser rŷm ni wedi bod yn trafod hynny yn eiliad y gallem ni wedi bod yn trafod pethau oedd yn wir wrth wraidd y penderfyniadau wnaeth pobl eu gwneud i bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd: cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, gwasgedd a phwysau ar y gwasanaethau cyhoeddus ac ati. Rwy'n credu, pan allwn ni gyfathrebu'n uniongyrchol gyda phobl ac esbonio, er enghraifft, fod pleidlais ar gyfer Plaid Brexit yn golygu pleidlais ar gyfer dodi'r NHS ar y bwrdd ar gyfer trafod hynny mewn cyd-destun masnachol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau—dyna y math o bolisïau sydd wrth wraidd y blaid tu cefn i mi fan hyn, nid cwestiwn o berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd. Man cychwyn yw hyn ar fath o Gymru a math o Brydain byddai neb ar y meinciau hyn yn moyn eu gweld ac sydd yn tanseilio y cymunedau rŷm ni'n eu cynrychioli.
Wrth gwrs, yr UE a soniodd am y GIG yn ei drafodaethau ynglŷn â'r Bartneriaeth Masnachu a Buddsoddi Trawsiwerydd. Ond os caf i geisio canfod ychydig o dir cyffredin gyda'r Gweinidog, o ran y paratoadau 'dim cytundeb', a welais, o ran gwybodaeth ac eglurhad y Gweinidog, drwy fy aelodaeth o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, credaf ei bod hi'n dda bod Gweinidogion wedi ceisio gwario arian, lle bo hynny'n bosib, mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi amcanion eraill. Credaf fod Gweinidogion hefyd wedi cael rhywfaint o lwyddiant, o safbwynt Cymru, o ran gwella'r cyfathrebu â Llywodraeth y DU, a oedd yn wael i ddechrau ond sydd wedi gwella o leiaf i ryw raddau. Rwy'n credu pan fydd rhywun yn cymharu'r paratoadau 'dim cytundeb'—yn sicr, mae'r Gweinidogion yma wedi wynebu llai o heriau cyfreithiol llwyddiannus na Gweinidogion y DU o ran rhai o'u paratoadau a hoffwn gydnabod hynny.
Mae'r Gweinidog yn cyfeirio at adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru sy'n dweud eu bod wedi rhoi arweiniad, ac rwy'n siŵr ei fod yn hoffi cyfeirio at hynny. Cyfeiria hefyd at lywodraethu cadarn y rhaglen a strwythurau cadarn. A allai egluro: a yw'n cyfeirio yno hefyd at Swyddfa Archwilio Cymru neu, o ran y darnau hynny, a yw'n fwy o achos o farcio ei waith cartref ei hun?
Y rhan a welsom ni—rwyf yn cael y diffyg hwn yn hollol ryfeddol. Mae pobl nad ydyn nhw yn ei swigen yn gwrando arno'n dweud bod angen refferendwm ac, 'wrth gwrs, mae'n rhaid i unrhyw refferendwm gynnwys aros yn yr UE fel dewis', fel pe na baem ni wedi cael refferendwm lai na thair blynedd yn ôl, yr addawodd y byddai'n parchu ei ganlyniad ond y mae nawr yn gwneud y gwrthwyneb. Wyddoch chi, mae'n dadlau rhyw fymryn gyda Phlaid Cymru am yr hyn a addawsant yn gynharach, ond y ffaith yw eu bod ill dau wedi addo parchu canlyniad y refferendwm, ac nid yw'r ddau ohonyn nhw yn parchu canlyniad y refferendwm ac maen nhw'n dweud wrth bobl bod angen iddyn nhw bleidleisio eto, fel petai hynny'n mynd i ddatrys rhaniadau yn ein cymdeithas. Fe wnaethom ni benderfyniad; rydych chi'n gwrthod ei weithredu. Os gofynnwch i'r bobl bleidleisio eto, pam fydden nhw'n disgwyl ichi ei weithredu fwy y tro nesaf nag a wnaethoch chi'r tro hwn? Ac mae'n bosib eich bod yn sylwi mai Llywodraeth y DU yn San Steffan sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb penodol am hyn.
Rydym ni wedi clywed un wyneb o'r Blaid Geidwadol yn siarad heddiw, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Darren wedi'i ddweud. Fodd bynnag, tybed beth yw asesiad y Gweinidog o'r tebygolrwydd y byddwn yn gadael heb unrhyw gytundeb ar 31 Hydref a sut y mae hynny'n cymharu â'r tebygolrwydd yr oedd wedi'i asesu cyn hynny o'n hymadawiad ar 29 Mawrth, oherwydd mae penderfyniadau gwirioneddol anodd ynglŷn â gwario yn dilyn ei ddyfarniad. Mae ar Brif Weinidog Cymru eisiau i ni gredu bod popeth wedi newid ac y byddwn ni bellach yn bendant yn gadael heb gytundeb, neu bron yn sicr neu'n debygol iawn, fel y dywedodd y Gweinidog. Ond, mewn gwirionedd, y gwir amdani am y gystadleuaeth hon am arweinydd y Ceidwadwyr yw bod gennym ni Michael Gove yn dweud, 'o, gadewch inni aros i mewn hyd at o leiaf ddiwedd 2020', Jeremy Hunt yn dweud mai hunanladdiad gwleidyddol fyddai peidio â chael cytundeb, ac ni wn i a yw'r Gweinidog yn rhoi mwy o bwyslais ar addewidion Boris Johnson nag ydw i, ond mae'n dweud y byddwn ni'n gadael gyda chytundeb neu heb gytundeb, ond dyna'r hyn a ddywedodd oddeutu 500 o ASau pan fu iddyn nhw bleidleisio dros Erthygl 50. Dyma a ddywedodd Theresa May dros 100 o weithiau. Pa mor debygol y mae'n credu yw hi mewn gwirionedd y bydd hynny'n digwydd pan fydd yn estyn i bocedi'r trethdalwyr ac yn ceisio gwneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch ble i wario'r arian wrth gefn hwnnw wrth baratoi?
Dywedodd yn gynharach yn ei ddatganiad—. A wn i ddim sut mae'n dirnad y sefyllfa hon, ynghyd ag Alun Davies; maen nhw'n gwybod llawer mwy ynghylch sut y mae pobl yn pleidleisio na'r bobl hynny eu hunain. Efallai ei fod yn rhyw fath o ymwybyddiaeth ffug: 'Wrth gwrs, nid oedd a wnelo refferendwm yr UE ddim â'r UE; roedd y cyfan yn ymwneud â chyni. Wyddoch chi, mae hynny'n gyfleus iawn i chi, ond sut ydych chi'n gwybod hynny? Rydych chi'n dweud heddiw fod yr etholiad Ewropeaidd wedi dangos ei bod hi'n debygol bod y mwyafrif yn dymuno inni aros yn yr UE. Ym mha fodd unochrog ydych chi'n dirnad hynny? A'r hyn yr ydych chi'n ei wneud yw adio pleidleisiau'r collwyr a dweud wrthyn nhw yr hyn y maen nhw i gyd yn ei feddwl? A yw'r Gweinidog mewn gwirionedd yn ymwybodol y bu pôl piniwn ynglŷn â gadael pryd holwyd sampl cynrychioliadol o 10,000 o bleidleiswyr a bleidleisiodd yn yr etholiadau Ewropeaidd, gan ofyn iddyn nhw sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm, a dywedodd 45 y cant eu bod wedi pleidleisio i adael, dywedodd 50 y cant eu bod wedi pleidleisio i aros—sy'n awgrymu bod y ganran a bleidleisiodd yn uwch ymhlith y rhai oedd eisiau aros—ond er gwaethaf hynny, dywedodd yr arolwg barn hwnnw y byddai 46 y cant nawr yn pleidleisio i aros, tra byddai 50 y cant yn pleidleisio i adael?
Yn olaf, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog: rydym ni wedi clywed yr hyn sydd gan Darren i'w ddweud, ond dywedodd un o hoelion wyth yr ymgyrch aros, pan bleidleisiodd pobl dros y Blaid Brexit—a Nick Ramsay oedd hwn, yr Aelod Cynulliad dros Drefynwy—ei fod yn adlewyrchu anwybodaeth pleidleiswyr yng Nghymru; a yw'r Gweinidog yn cytuno ag ef?
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. O ran paratoadau, roeddwn yn meddwl ein bod wedi cael dechrau da, nes iddo ofyn i mi a oeddwn yn marcio fy ngwaith cartref fy hun. I fod yn glir, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn gwbl addas a phriodol i Lywodraeth yn y sefyllfa hon. Felly, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi rhoi'r adroddiad y mae'n ymwybodol ohono ac y mae'r Aelodau i gyd yn gwybod amdano, ond, fel y bûm yn glir iawn yn ei gylch, rydym ni wedi cynnal ymarfer ar wahân i ganfod a ydym ni'n fodlon â'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud, a dyna oedd cynnwys fy natganiad. Mae Llywodraeth y DU, yn gwbl briodol, yn gwneud ei hymarfer ei hun. Mae'n amserlen sydd ychydig yn hwy na'n hamserlen ni, a byddwn yn dwyn hynny i gyd at ei gilydd, sef yr union beth y dylem fod yn ei wneud fel Llywodraeth gyfrifol, felly nid ymddiheuraf am hynny. Mae'r dyfarniadau yn yr araith hon yn adlewyrchu fy nealltwriaeth o'r sefyllfa yr ydym ni ynddi heddiw, ond byddaf yn darparu rhagor o wybodaeth maes o law i'r Siambr ynglŷn â hynny.
Mae'n sôn am barchu'r refferendwm. Gadewch i ni fod yn gwbl glir: rydym ni wedi ceisio gwneud hynny. Rydym ni wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn ceisio gwneud hynny, ac rwyf wedi ei gwneud hi'n glir iawn heddiw ein bod yn teimlo nad yw rhyw fath o Brexit nad yw'n ddinistriol i Gymru, ond sy'n cydnabod y refferendwm hwnnw—. Rydym ni wedi cyrraedd pen y daith gyda'r trafodaethau hynny. Ac mae'n eistedd yn y fan yna—. Mae'n lladmerydd Brexit heb gytundeb, er mwyn y nefoedd: Brexit sydd heb fandad o gwbl. Ni wyntyllwyd dim o hynny yn ymgyrch y refferendwm yn 2016. Cawsom wybod i'r gwrthwyneb yn llwyr: y byddai cael cytundeb y peth hawsaf yn y byd, ac yn sicr mae hynny wedi'i wyrdroi'n weledigaeth bod hynny'n gymeradwyaeth i Brexit heb gytundeb. Y methiant i gyflwyno unrhyw ddewis arall yw'r union reswm pam ein bod yn argymell refferendwm ar hyn o bryd oherwydd ein bod yn gwybod bod Brexit heb gytundeb mor drychinebus i Gymru.
Yn y cwestiwn a ofynnodd i'r Prif Weinidog yn gynharach, roedd yn sôn am gyflogau isel yng Nghymru. Byddai'r Brexit heb gytundeb y mae'n ei argymell yn arwain at £2,000 yn llai o incwm i bobl yng Nghymru. Mae'n debyg nad yw hynny'n fawr iawn i ddyn sydd ganddo fodd fel yntau, ond y bobl y bu'n taflu llwch i'w llygaid ers—. [Torri ar draws.] Yn sicr, nid yw'r math hwnnw o Brexit y mae'n ei gymell o fudd i Gymru, ac os cawn y math hwnnw o Brexit yn y pen draw, mae angen i bobl gofio pwy oedd yn eiriol dros y math hwnnw o Brexit.
O ran y tybiaethau cynllunio, mae risg gynyddol, sylweddol iawn o adael heb gytundeb, a dyna'r sail yr ydym ni'n dyrannu ein hadnoddau arni ac yn gwneud y paratoadau yr ydym yn eu gwneud. Mae arnaf ofn dweud bod awgrym o ddifaterwch, mae arnaf ofn, yng nghwestiwn yr Aelod. Oeddem, fe roeddem yn gweithio tuag at 29 Mawrth; oeddem, roeddem yn gweithio tuag at 12 Ebrill; a nawr rydym ni'n gweithio tuag at 31 Hydref. Nid ydym ni eisiau bod yn y sefyllfa hon, ond rydym ni'n gwneud y tybiaethau cynllunio gorau yn seiliedig ar yr amgylchiadau yr ydym ni'n cael ein hunain ynddyn nhw. A byddai'n dda, rwy'n credu, pe byddai'n cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud yn y Llywodraeth i baratoi'n ddigonol ac yn briodol, a chydnabod bod y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud yn rhai sy'n cydbwyso'r pwysau a wynebwn ni o 'ddim cytundeb' â cheisio sicrhau y gall buddiannau Cymru gael eu diogelu hyd y gellir mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol y gallem ni eu cael gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Diolch yn fawr iawn, Cwnsler Cyffredinol, yn rhinwedd eich swydd yn Weinidog Brexit.