Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 4 Mehefin 2019.
Mae'r negodiadau rhwng y Llywodraeth a'r wrthblaid wedi methu, wedi'u dinistrio gan yr ymgiprys am amlygrwydd gan y rhai sy'n dyheu am arwain y Ceidwadwyr, ac fe wyddom ni nad oes unrhyw awydd yn y Blaid Geidwadol seneddol am y fath o Brexit y buom ni'n ei hybu'n gyson, un sy'n galw am barhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl ac undeb tollau.
Mae'r Prif Weinidog yn rhoi'r gorau iddi ac mae ei chytundeb yn deilchion. Mae'n ymddangos yn anochel, o gofio'r broses ryfedd a'r etholwyr cwbl anghynrychioladol a fydd yn rhoi ei holynydd inni, y bydd gennym ni Brif Weinidog ym mis Gorffennaf a fydd yn mynnu, mewn sioe o ryfyg, os dim byd arall, y bydd y 27 aelod o'r UE yn ailagor eu trafodaethau ar y cytundeb ymadael. Caiff hyn ei wrthod, a bydd y Llywodraeth yn paratoi'r ffordd ar gyfer cael Brexit heb gytundeb. Llywydd, mae'n anhygoel y gallai Prif Weinidog newydd, heb fandad cyhoeddus, fod yn barod i lywyddu dros y DU yn chwalu o'r UE heb gytundeb. Ond mae'n amlwg hefyd nad oes consensws cenedlaethol ynghylch y ffordd ymlaen ac ychydig o gefnogaeth i Brexit meddal fel ffordd o wneud yr hyn sy'n amhosibl ei gyflawni. Fe wnaethom ni geisio cysoni canlyniad refferendwm 2016 gyda'r math lleiaf niweidiol o Brexit, ond mae'r ymdrech honno bellach wedi cyrraedd pen y ffordd.
Mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod yr etholwyr yn rhanedig iawn o hyd, ac, yn wir, bod y rhaniad wedi ymledu, gyda llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn refferendwm 2016 bellach yn cefnogi dim cytundeb, a llawer, mwyafrif mae'n debyg, eisiau inni aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yn wyneb y math hwn o ddewis deuaidd, rydym ni'n glir, bron dair blynedd ar ôl y refferendwm, a mwy na dwy flynedd ar ôl inni gyflwyno 'Diogelu Dyfodol Cymru', fod yn rhaid i ni fel Llywodraeth gydnabod y gwirioneddau hyn a newid cwrs.
Wrth wneud hynny, nid ydym ni'n ymddiheuro o gwbl am y polisi a gyflwynwyd gennym ni a Phlaid Cymru ym mis Ionawr 2017. Roedd yn ymgais onest i gyfleu ffordd o barchu canlyniad y refferendwm heb chwalu'r economi, gan gydnabod y byddai'r cwymp economaidd yn sgil Brexit caled dim ond yn dwysáu, yn hytrach na datrys, y problemau a achoswyd gan gyni—y cyni a fu, gyda'r ymdeimlad o gael eich eithrio, a chwaraeodd ran mor fawr yn cymell pobl i bleidleisio 'gadael' mewn cymunedau ledled Cymru.
Wrth gyhoeddi'r Papur Gwyn, roeddem yn glir na fyddai unrhyw fath o Brexit gystal ar gyfer swyddi a bywoliaethau pobl Cymru ag aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Ac roeddem ni hefyd yn glir bod angen cyfaddawd rhwng dylanwad gwleidyddol a ffyniant economaidd er mwyn cyflawni Brexit. Ond mae amser wedi treiglo, mae Llywodraeth y DU wedi gwastraffu mwy na dwy flynedd yn ceisio ac yn methu llunio cytundeb a allai guddio'r gwrthddywediadau cynhenid a nodwyd yn safbwyntiau digyfaddawd y Prif Weinidog. Mae'r ansicrwydd parhaus yn anghynaliadwy. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi dweud bod y sefyllfa wleidyddol bresennol o ran gadael yr UE yn drychineb sy'n gwasgu ar fusnesau yn y DU, gyda hyder buddsoddwyr ar ei isaf ers y chwalfa ariannol ddegawd yn ôl. Nid rhyw ddadl haniaethol yw hon; mae effeithiau gwirioneddol i bobl Cymru, gyda cholli cyfleoedd a swyddi.
Felly, fel Llywodraeth, byddwn yn awr yn ymgyrchu i aros yn yr UE. Ac er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, dylai Senedd San Steffan nawr ddangos y dewrder i gyfaddef ei bod mewn merddwr a deddfu ar gyfer refferendwm, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Rydym ni wedi bod yn galw ers misoedd ar i Lywodraeth y DU wneud paratoadau rhag ofn y byddai angen refferendwm. Nawr rhaid i'r Senedd wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Gadewch imi fod yn hollol glir: bydd unrhyw gytundeb yn gofyn am fandad newydd gan yr etholwyr, ac mae'n rhaid i'r angen am adael heb gytundeb gael un hefyd. Ac, wrth gwrs, rhaid i unrhyw refferendwm gynnwys aros yn yr UE fel dewis. Rydym ni bob amser wedi dadlau bod perygl y bydd cynnal refferendwm arall yn atgyfnerthu rhaniadau, ond mae'r etholiadau Ewropeaidd wedi dangos bod unrhyw gred bod y wlad wedi dod ynghyd yn gwbl ledrithiol. Ac, wrth gwrs, mae siawns y gallai ail refferendwm arwain at yr un canlyniad â'r cyntaf. Ond byddwn yn ymgyrchu i aros, a byddwn yn gweithio gyda'r rheini yn y Siambr hon a'r tu allan sy'n rhannu'r farn honno.