Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 4 Mehefin 2019.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig gyda llawer o'r hyn a wnaethoch chi ei ddweud. Roedd llawer o feirniadu ar y Blaid Geidwadol, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn blaid sydd wedi ceisio, gymaint ag y gall, gyflawni Brexit ac sydd wedi llywio cytundeb ymadael drwy Dŷ'r Cyffredin. Rydych chi wedi dweud nad ydych chi'n hoffi'r ffaith bod ansicrwydd ac anghytundeb llwyr, ond, ar bob cyfle a gafwyd yn Nhŷ'r Cyffredin i bleidleisio dros gytundeb ymadael a fyddai'n atal Brexit anhrefnus a dryslyd, mae'r Blaid Lafur wedi pleidleisio yn ei erbyn. Mae 90 y cant o Aelodau Seneddol Ceidwadol—[Torri ar draws.] Mae 90 y cant o ASau Ceidwadol bob amser wedi pleidleisio o blaid y cytundeb ymadael hwnnw, yn wahanol i 100 y cant, neu bron i 100 y cant, o'r ASau Llafur, sydd wedi pleidleisio yn erbyn. Felly, roedd gennych chi fodd fel plaid i gyflwyno Brexit gyda chytundeb sy'n anrhydeddu canlyniad y refferendwm, ac rwy'n credu y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n eithaf rhyfeddol, yn sgil canlyniadau etholiad yr UE, a welodd draean o'r bleidlais—gan gynnwys rhai o'n pleidleisiau ni, a llawer o'ch pleidleisiau chi hefyd—yn llithro i'r Blaid Brexit, sy'n amlwg eisiau cyflawni Brexit—.
Nawr, fe wnaethoch chi gyfeirio yn eich datganiad at y ffaith bod llawer o'r rhai a bleidleisiodd o blaid Brexit yn 2016 bellach yn cefnogi 'dim cytundeb' a llawer, a mwyafrif mae'n debyg, yn dymuno aros, a bod rhai pobl wedi newid eu barn. Yn fy mhrofiad i, mae'r rhan fwyaf o bobl wedi newid eu barn i'r gwrthwyneb, gan eu bod yn parchu democratiaeth, yn wahanol i'r hyn a ymddengys i mi, Llywodraeth Cymru. Y ffaith yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, mewn refferendwm. Cafwyd dadl. Roeddwn yn pryderu weithiau am ansawdd y ddadl honno ar y ddwy ochr iddi, ond, ar ddiwedd y ddadl honno—ar ddiwedd y ddadl honno—pleidleisiodd pobl Cymru o blaid gadael. A does dim un refferendwm wedi bod, erioed, yn hanes ein cenedl, lle nad yw canlyniad y refferendwm hwnnw wedi ei weithredu. Ac rwy'n credu mai ein dyletswydd ni fel gwleidyddion yw gwrando ar y cyhoedd pan fyddwn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddweud eu dweud, ac i roi canlyniad y pleidleisiau hynny ar waith.
Nawr, roeddech chi'n cyfeirio hefyd yn eich datganiad at y ffaith bod Cydffederasiwn Diwydiant Prydain wedi mynegi pryder y gallem ni fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ymddengys eich bod yn gwrando ar Gydffederasiwn Diwydiant Prydain pan fydd hynny'n gyfleus i chi, ac yn eu hanwybyddu pan nad yw hynny'n gyfleus i chi, fel y gwelsom ni gyda ffordd liniaru'r M4 heddiw, ac, yn wir, o ran eu barn ar y cytundeb ymadael, oherwydd, wrth gwrs, roedden nhw'n cefnogi'r cytundeb ymadael y pleidleisiodd pob un ohonoch chi yn ei erbyn. Felly, ni allwch ei chael chi bob ffordd, drwy ddyfynnu unigolion mewn modd dethol pan fu eu barn yn eithaf clir ynghylch cytundeb ymadael y Prif Weinidog, gan fod ganddyn nhw farn glir iawn, a hynny oedd cefnogi'r cytundeb hwnnw er mwyn osgoi Brexit afreolus.
Nawr, gadewch imi ei gwneud hi'n gwbl glir ein bod ni, ein meinciau ni, eisiau cytundeb. Rydym ni eisiau cytundeb da. Ond, os nad oes modd sicrhau hynny, yna rydym ni'n barod i gefnogi sefyllfa o 'ddim cytundeb', oherwydd mae'n rhaid i ni fod yn barod i gerdded ymaith—[Torri ar draws.] Mae'n rhaid i chi fod yn barod i gerdded ymaith os nad yw'r cytundeb yn ddigon da. Nawr, mae'n gwbl glir—[Torri ar draws.] Mae'n gwbl glir na all y cytundeb presennol, sef y cytundeb ymadael ar hyn o bryd, ennill mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae wedi cael ei roi gerbron Tŷ'r Cyffredin ar sawl achlysur. Felly, ni all gael mwyafrif yn ei ffurf bresennol, a phwy a ŵyr beth fyddai'r sefyllfa ar ôl cael Prif Weinidog newydd. Ond mae un peth yn sicr, a hynny yw bod yn rhaid i ni barchu'r canlyniad o ran y refferendwm.
Nawr, roeddwn yn falch o un rhan o'ch datganiad, a hynny oedd y diwedd—nid yn unig wrth ichi derfynu'r hyn yr oeddech yn ei ddweud, ond o ran y ffaith eich bod yn cyfeirio at rai o'r pethau cyfrifol yr ydych chi'n eu gwneud fel Llywodraeth er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb. Nawr, fel y dywedais, nid wyf eisiau gweld Brexit heb gytundeb, byddai'n well o lawer gennyf pe bai gennym ni gytundeb masnach da gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond ymddengys i mi fod llawer o anhyblygrwydd ar ochr Ewropeaidd y ddadl, lle nad yw pobl yn awyddus i roi cytundeb da inni, ac efallai'n wir y bydd hynny'n arwain at ein hymadawiad â'r UE heb un.
Felly, mae'n bwysig iawn sicrhau bod gennym ni rai paratoadau priodol ar waith yn amlwg. Ac rwy'n falch o weld eich bod yn llawer mwy o ddifrif ynghylch y risg yna ac y buoch chi ers dechrau'r flwyddyn hon yn paratoi ar gyfer 'dim cytundeb'. Nawr, a gaf i ofyn—? Rydych chi wedi neilltuo arian yn y gorffennol i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb, gan gynnwys prosiectau a gweithgareddau amrywiol sy'n ymwneud â'r Llywodraeth. A gaf i ofyn ichi a ydych yn mynd i gynyddu'r swm hwnnw, o gofio'r dyddiad 31 Hydref sy'n prysur agosáu, ac, os felly, pa weithgaredd ydych chi'n disgwyl ei ariannu ohono? Oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn deall yn fwy manwl pa weithgaredd rydych chi eisiau ei hybu.
A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd: o ran y prosiectau sydd eisoes wedi'u hariannu o ganlyniad i gyllid pontio'r UE, o ran y bobl sydd mewn gwirionedd yn manteisio ar yr arian hwnnw, a oes gennych chi ddosbarthiad daearyddol yng Nghymru lle y gallwch chi fapio'n union y diddordeb a'r ymgysylltu? Oherwydd rwy'n credu mai'r hyn sy'n fy mhoeni i yw, os oes Brexit heb gytundeb—ac, fel y dywedaf, rwyf eisiau osgoi hynny, ond, os oes, mae angen inni sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob diwydiant yng Nghymru yn barod am y posibilrwydd a'r tebygolrwydd hwnnw. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny'n benodol.
Croesawaf yr hyn a wnaethoch chi ei ddweud, fel y dywedais, am yr amrywiaeth o weithgareddau sy'n digwydd a'r paratoadau difrifol sy'n cael eu gwneud ar hyn o bryd, ond mae'n ofid imi eich bod mewn plaid yn awr sydd yn cefnogi ail refferendwm, sy'n sôn am ymgyrchu dros aros yn y refferendwm hwnnw, ac anwybyddu, i bob pwrpas, canlyniad y bleidlais gyntaf. Rwy'n dweud wrthych chi eich bod yn blaid sydd yn gyson yn y gorffennol wedi gweithredu canlyniad refferenda pa un a ydych chi wedi hoffi'r canlyniad ai peidio, ac rydych wedi bod ar wahanol ochrau i refferenda: wedi ennill rhai, ac wedi colli rhai, yn hanesyddol. Beth sydd mor wahanol am hwn? Nid wyf yn deall.