4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:31, 4 Mehefin 2019

—shared view, hynny yw, gyda Llywodraeth San Steffan.

Mae Plaid Cymru yn cytuno bod state aid yn fater datganoledig, gan ei fod ddim wedi ei restru yn Neddf Cymru fel pŵer sydd wedi ei gadw yn ôl. Ond, allwch chi esbonio sut mae'ch Llywodraeth chi, dan arweinyddiaeth sosialydd, yn rhannu gweledigaeth â Llywodraeth Dorïaidd San Steffan ynglŷn â sut ddylai state aid weithio? Pam nad ydych chi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r gallu i gefnogi diwydiannau allai fod mewn peryg yn sgil Brexit heb gytundeb, er enghraifft? Rwy'n pryderu'n enwedig am y diwydiant dur, sy'n wynebu corwynt o ansicrwydd yn sgil Brexit, newidiadau mawr o ganlyniad i'r farchnad ansefydlog a'r rhyfel masnach rhwng yr Unol Daleithiau a Tsieina. Mewn erthygl yn The Guardian yn ddiweddar, dywedodd Carwyn Jones fod Llywodraeth Prydain heb gynnig unrhyw gefnogaeth i'n diwydiant dur. Sut, felly, allwch chi ddweud eich bod yn cytuno â'i gweledigaeth yn y maes hwn?