Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 4 Mehefin 2019.
Rwy'n diolch i'r Aelod am y sawl cwestiwn sydd wedi bod ynghlwm wrth y cyfraniad hwnnw. A gaf i esbonio yn gyntaf, felly, o ran y polisi o blaid refferendwm, mai nid y canlyniadau etholiadol oedd yr unig ffactor yn hyn o beth, wrth gwrs? Gwnaeth y Prif Weinidog, yma yn y Siambr, ryw 10 diwrnod neu wythnos cyn yr etholiad, sôn bod yr amser yn dod yn fuan i edrych ar y cwestiwn o refferendwm arall. Roedd y trafodaethau rhwng y meinciau blaen yn mynd rhagddyn nhw ar hynny o bryd, a daeth yn eglur erbyn canol mis Mai, wrth gwrs, fod y rheini ddim yn mynd i ddwyn ffrwyth—roedd hynny'n ffactor pwysig iawn oherwydd dyna'r broses fwyaf tebygol o arwain at ryw fath o gytundeb tuag at Brexit meddal.
Wedyn, y bore ar ôl yr etholiad, cyn bod y canlyniadau yn dod allan, gwnaeth Theresa May, wrth gwrs, benderfynu ei bod hi'n mynd i ymddiswyddo fel Prif Weinidog. Wel, er mor anodd yr oedd e wedi bod i geisio dod i gytundeb â Theresa May fel Prif Weinidog ar y math o Brexit yr ŷm ni wedi bod yn galw amdano fe fan hyn, byddai'n llawer anoddach gwneud hynny gydag unrhyw un o'r bobl fyddai'n dod ar ei hôl hi, felly roedd yn hollol amlwg, yn sgil y ffactorau hynny gyda'i gilydd, fod y cwestiwn o sicrhau cytundeb i fersiwn o Brexit sy'n cael ei disgrifio yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—bod y cwestiwn o sicrhau hynny bellach wedi dod i ben y daith.
Felly, yn sgil hynny, gan fod y Senedd hon ei hun wedi penderfynu—a phlaid yr Aelod hefyd—wedi cefnogi ar fwy nag achlysur cynigion a oedd yn rhoi refferendwm fel un opsiwn, roedd hi'n bwysig, wedyn, ein bod ni'n cydnabod pwysau'r polisi hwnnw a galw am refferendwm. Rŷm ni wedi bod yn glir, wrth gwrs, ers y cychwyn cyntaf y byddem ni'n ymgyrchu i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, fel y gwnaethon ni y tro diwethaf, a'n bod ni'n barod i wneud hynny gyda phleidiau eraill, i ateb ei chwestiwn hi, i sicrhau'r canlyniad hwnnw os daw cyfle eto i wneud hynny.
A gaf i jest wneud un pwynt am y cwestiwn yma o ymroddiad Plaid Cymru i refferendwm? Dyw e ddim yn wir i ddweud bod hyn wedi bod yn benderfyniad cynnar iawn. Digwyddodd hyn, yn fy nghof i, pan newidiwyd yr arweinyddiaeth o Leanne Wood i Adam Price. Mae'n beth perffaith deg i ddigwydd yn sgil hynny, ond dwi ddim yn credu mai dadansoddiad cynnar iawn oedd hyn—bod 'Diogelu Dyfodol Cymru' ddim yn mynd i ddod i law. Fe wnaeth ein dwy blaid ni gydweithio am gyfnod sylweddol wedi hynny i geisio gwireddu egwyddorion, fel y gwnaeth hi gydnabod, y gwnaeth Steffan Lewis gymaint i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w disgrifio.
O ran y broses, felly, o fynd ati i drefnu refferendwm, ar y cyfan, fel bydd yr Aelod yn gwybod, gyda Llywodraeth San Steffan mae'r cyfrifoldeb i ddodi'r etholiadau hynny ar y ffordd. Rwyf fi, yn yr wythnosau diwethaf, ac mae'r Prif Weinidog hefyd, wedi parhau i wthio hynny. Fe wnes i hynny yng nghanol mis Ebrill gyda David Lidington, ganol mis Mai gydag e, ac wedyn eto ddiwedd mis diwethaf gyda Stephen Barclay pan ddaeth e yma i Gaerdydd. Mae amryw o gamau yn y ddeddfwriaeth berthnasol sydd angen eu cymryd cyn bod y mesurau yma'n gallu cael eu cymryd. O ran ein gwaith ni yma yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog ers amser wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn iddi hi sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd i alluogi ni yma i fod yn barod ar gyfer hynny. Y math o gamau sydd ynghlwm yn hynny yw delio gyda'r registration officers ar lefel leol, a chysidro p'un a oes angen canllawiau gwahanol ar gyfer gweinyddiaeth Llywodraeth yn ystod y cyfnod refferendwm. Felly, mae'r camau penodol hynny yn mynd rhagddyn nhw.
Fe wnaeth hi ofyn i fi beth oedd y cyfle i gael perswâd ar y Blaid Lafur yn ganolog. Wrth gwrs, rŷm ni wedi bod yn gyson yn dadlau yn ein plaid ni beth rŷm ni'n credu sy'n fuddiannau gorau Cymru, y math o Brexit roeddem ni'n credu efallai fyddai gobaith ei gael, ac mae'n amlwg nawr bod yna ddim gobaith cael hynny. Ac mae'r Prif Weinidog yma hefyd wedi bod yn dadlau'r achos dros refferendwm gyda'r Blaid Lafur yn ganolog. Ond gaf fi fod yn berffaith glir? Fy mwriad i a'r peth rydw i yn atebol yma amdano yn sefyll yma heddiw, a'r Gweinidogion eraill, yw beth yw barn Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru ar y materion hyn. Ar ddiwedd y dydd, fel sydd wedi dod yn glir yn ystod yr wythnos diwethaf, pan rŷm ni'n credu bod angen gwneud rhywbeth sydd yn wahanol ond ym muddiannau Cymru, rŷm ni'n mynd i wneud hynny. Ac felly, rŷm ni'n glir yn ein barn bod angen refferendwm arnom ni yma i ateb y sefyllfa rŷm ni ynddi ar hyn o bryd.
Jest i glirio'r cwestiwn yma ar gyfer state aid, mae'r Aelod yn glir, rwy'n credu, ei bod hi eisiau cael perthynas agos gyda'r farchnad sengl. Er mwyn sicrhau hynny, rwy'n dweud bod angen cael yr un trefniadau state aid. Mae'n rhaid cael llawr cyson ar gyfer y pethau yma ar draws marchnadoedd rŷm ni eisiau gwerthu i mewn iddyn nhw a masnachu gyda nhw, a dyna oedd yr egwyddor sydd wedi cael ei rhannu gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod yr egwyddor honno yn cael ei rhannu hefyd gan Blaid Cymru. Mae'n berffaith glir bod mwy o hyblygrwydd mewn materion state aid na sydd yn ymddangos bod y Llywodraeth wedi eu cymryd i ystyriaeth hyd yn hyn, ac felly yn y dyfodol gobeithio bydd mwy o ystyriaeth o'r mathau yna o bethau yn digwydd. Ond yr egwyddor rŷm ni'n ymroi iddi fan hyn, ac rwy'n credu bod ei phlaid hi hefyd yn ymroi iddi, yw bod angen level playing field ar gyfer y mathau yma o bethau ar gyfer y marchnadoedd Ewropeaidd y byddem ni'n bwriadu ac yn dymuno gallu masnachu gyda nhw ymhell i mewn i'r dyfodol.