Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 4 Mehefin 2019.
Ar sail yr adborth i'r ymgynghoriad, ac sy'n dod o fframwaith deddfwriaethol Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig mynd ati i gyflawni amcan o reoli tir yn gynaliadwy, sy'n cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol â'n rhwymedigaethau i'r genhedlaeth nesaf. Mae hyn, wrth gwrs, yn cynnwys ffermwyr y dyfodol yng Nghymru.
Mae cynhyrchu bwyd yn elfen hanfodol o reoli tir yn gynaliadwy. Bydd dull cynaliadwy yn ei gwneud yn bosibl i gynhyrchu nwyddau cyhoeddus o ganlyniad i gynhyrchu bwyd. Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym yn cynnig cyfuno'r cynlluniau ar gyfer cadernid economaidd a nwyddau cyhoeddus a gynigir yn 'Brexit a'n tir' yn un cynllun ffermio cynaliadwy. Byddai un cynllun yn caniatáu i ni archwilio cyfleoedd economaidd ac amgylcheddol ar yr un pryd. Mae'n ein helpu ni i ddod o hyd i sefyllfa lle mae popeth ar eu hennill—pethau sy'n dda i fwyd ac i'r amgylchedd. Rydym yn cynnig y dylai cynllun ffermio cynaliadwy ddarparu taliadau blynyddol i ffermwyr yn gyfnewid am y canlyniadau nwyddau cyhoeddus a gyflawnir ar eu ffermydd. Rydym yn cynnig bod taliadau'n cael eu targedu at ganlyniadau penodol. Gallai hyn fod yn ddull pwerus o lwyddo yn erbyn ein hymrwymiadau amgylcheddol, gan gynnwys gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, cyrraedd ein cyllidebau carbon a chyrraedd ein targedau aer glân. Mae'n anodd gweld sut y gallwn fynd i'r afael â'r ymrwymiadau hyn yn ystyrlon ac yn effeithlon heb weithredu ar draws yr 80 y cant o dir Cymru sy'n cael ei reoli gan ffermwyr.
Gan ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad, rydym wedi canfod bod cynhyrchu bwyd a chynhyrchu nwyddau cyhoeddus yn atgyfnerthu ei gilydd yn hytrach na'u bod ar wahân. Mewn llawer o achosion, gall yr un weithred, a gaiff ei gwneud yn y ffordd gywir, gyfrannu at gynhyrchu bwyd a chynhyrchu canlyniadau nwyddau cyhoeddus, ac rydym eisiau talu am y canlyniadau hyn. Mae sawl ffordd y gall ffermwr wella ansawdd yr aer drwy gynhyrchu bwyd: rheoli pridd, hwsmonaeth anifeiliaid a defnydd o faethynnau wedi'u targedu yw tair ffordd bosibl o wneud hynny. Drwy gynhyrchu bwyd yn y ffordd hon, gallwn ni sicrhau manteision i'r ffermwr, yr amgylchedd a'r cyhoedd yn gyffredinol.
Byddai talu am ganlyniadau nwyddau cyhoeddus drwy arferion ffermio priodol yn sicrhau bod gan bob math o ffermydd y potensial i ymuno â'r cynllun os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae hyn yn hanfodol bwysig, oherwydd mae'n bosibl y bydd llawer o ffermwyr yn dibynnu ar y cynllun newydd i wneud elw, yn union fel y maen nhw'n ei wneud gyda Chynllun y Taliad Sylfaenol presennol. Yn ogystal â'r taliadau blynyddol, byddem ni'n cynnig darparu buddsoddiad, cyngor a hyfforddiant i gefnogi datblygiad busnesau ffermydd. Amcan y mesurau hyn fyddai gwella proffidioldeb y ffermydd. Mae ein ffermwyr yn wynebu heriau sylweddol ac rwy'n deall pryderon a godwyd yn llawer o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mae'r cynigion diwygiedig hyn wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â llawer o'r pryderon a godwyd.
Cyn y gallwn fynd yn ein blaenau, mae angen i nifer o bethau ddigwydd. Yn gyntaf, mae angen cyllideb y cytunwyd arni. Er bod Llywodraeth y DU wedi addo cynnal lefelau arian parod cyllid amaethyddol tan 2022, nid oes sicrwydd ynghylch beth fydd yn digwydd wedyn. Mae'n rhaid inni barhau i fynnu bod Cymru'n cael ei chyfran bresennol. Bydd y cyllid hwn yn penderfynu faint o arian y gallwn ei dalu i ffermwyr. Yn ail, mae angen ymgynghoriad pellach ar ein cynigion arnom ni i'n galluogi ni i ystyried elfennau ymarferol cynllun ffermio cynaliadwy a sicrhau bod y weinyddiaeth yn ymarferol i'w gweithredu. Yn drydydd, mae angen inni ymgymryd ag asesiad effaith llawn. Rydym ni'n datblygu gallu a fydd, pan y bydd y gyllideb yn hysbys, yn ein galluogi i amcangyfrif yr effaith ar wahanol fathau o ffermydd ledled Cymru.
Ni allwn symud ymlaen tan bod hyn i gyd ar waith. Mae maint yr ansicrwydd sy'n gysylltiedig â'n hymadawiad o'r UE ond wedi cynyddu, ac ni allwn wneud penderfyniadau ar yr amserlen bontio heb wybod mwy yn gyntaf. Er y gall Llywodraeth Cymru gynnig polisïau, ffermwyr yn unig a all sicrhau newid gwirioneddol ar ein tir. Felly, rwyf am barhau i weithio gyda ffermwyr a rhanddeiliaid o bob safbwynt ar sut i droi ein cynigion yn realiti ymarferol. Gan adlewyrchu hyn, yn dilyn cyhoeddi'r ymgynghoriad nesaf, rwy'n bwriadu lansio proses i gyd-gynllunio ein cynigion, gan gynnwys ffermwyr ac eraill wrth gynllunio'r agweddau ymarferol, cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu ar y ffordd ymlaen.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn ddiolch unwaith eto am y cyfraniadau ymgynghori a gafwyd. Bydd cynigion polisi yn y dyfodol yn well oherwydd y rhain, a gyda'n gilydd gallwn weithio i helpu ffermwyr i ffynnu, gwireddu gwerth tir Cymru, a sicrhau sector amaethyddol ffyniannus, cadarn yng Nghymru.