7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Raglen Weithredu Adolygiad Amber

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 4 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:20, 4 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Er mai dim ond chwe mis sydd ers dechrau'r rhaglen, mae'n rhoi hwb i mi i nodi gwelliant yn yr amser ymateb nodweddiadol i gleifion yn y categori oren. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos gwelliant yn yr amser ymateb nodweddiadol yn ystod pob mis rhwng mis Rhagfyr y llynedd a mis Mawrth eleni o'i gymharu â'r un cyfnod yn y gaeaf blaenorol.

Gwelwyd lleihad yn nifer yr arosiadau rhy hir a ganfuwyd gan y tîm adolygu, ond mae llawer o waith i'w wneud eto i ddileu amseroedd aros annerbyniol o hir ar gyfer rhai cleifion. Mae hwn yn destun pwyslais sylweddol drwy'r rhaglen hon. Rwy'n disgwyl gweld y bwrdd rhaglen yn cytuno ar gynllun gwella erbyn diwedd y mis hwn i roi sylw i'r arosiadau hir sy'n weddill.

Mae amseroedd ymateb nodweddiadol i alwadau oren mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd yn gadarnhaol iawn ac yn arwain at brofiad da i gleifion a chanlyniad clinigol. Er enghraifft, yr amser ymateb nodweddiadol i alwadau oren ym mis Mawrth 2019—ar anterth pwysau'r gaeaf hwn—oedd 18 munud yn unig ym Mhowys, ac 20 munud yn y gogledd. Fodd bynnag, mae amrywiadau lleol o hyd, ac er bod amserau ymateb i alwadau oren yn ardal Bae Abertawe wedi gwella o gymharu â'r llynedd, mae heriau parhaus yn cael eu hachosi gan oedi wrth drosglwyddo cleifion mewn ambiwlansys ar safle Treforys.

I gydnabod yr her hon, rwyf wedi cyfarwyddo prif gomisiynydd y gwasanaethau ambiwlans i roi pwyslais uniongyrchol a phenodol ar gyflawni gwelliannau yn y safle hwn. Mae cyfres o gamau gweithredu newydd wedi'u cytuno gyda thimau clinigol lleol. Mae'r datblygiadau arloesol hyn yn cael eu cyflawni ochr yn ochr â chamau gweithredu ehangach y system gyfan yn yr ardal i wella gofal cymunedol ac i alluogi pobl i adael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod. Fe fyddwn, wrth gwrs, yn monitro'r sefyllfa'n ofalus.

Bydd yr Aelodau'n cofio mai un o egwyddorion canolog yr adolygiad oren oedd yr angen i ganolbwyntio ar grwpiau penodol o gleifion er mwyn gwella profiad. Roedd hyn yn cynnwys pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, sy'n fwy agored i gael codwm oherwydd eu bod yn eiddil neu oherwydd cymhlethdod eu cyflyrau. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £1 miliwn ar gyfer prynu cyfarpar codi modern ym mron pob cartref gofal yng Nghymru, y profwyd ei fod yn cefnogi profiad cleifion ac, os yw'n bosibl, yn galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn deall mai dim ond pedwar cartref gofal yng Nghymru sydd heb yr offer codi cyfoes hwn erbyn hyn.

Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer gwasanaeth ymateb cynorthwywyr cwympiadau Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Prif amcan y prosiect hwn yw gwella profiad cleifion i bobl sydd wedi cwympo, ond sydd heb gael eu hanafu neu sydd â mân anafiadau, gan sicrhau eu bod yn derbyn ymateb prydlon ac i arbed yr angen i'w derbyn i'r ysbyty yn ddiangen. Mae unedau cynorthwywyr cwympiadau wedi eu defnyddio i fynychu amrywiaeth o alwadau yn y categorïau oren a gwyrdd sy'n cynnwys pobl sydd wedi cwympo neu faterion eraill sy'n ymwneud â lles. Ers 1 Rhagfyr 2018, mae unedau cynorthwywyr cwympiadau wedi ymateb i bron i 1,800 o bobl, gydag amser ymateb cyfartalog o ddim ond 24 munud.

Ers mis Tachwedd 2018, rwyf wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gael i wasanaeth ambiwlans Cymru sydd wedi'i ganiatáu i recriwtio 16 o glinigwyr ychwanegol i weithio ar ei ddesg cymorth clinigol. Mae dros 80 y cant o'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ychwanegol hyn yn nyrsys. Maen nhw'n dod â'u profiad a'u harbenigedd i wella cymysgedd sgiliau a chapasiti'r gwasanaeth. Recriwtiwyd mwy o uwch glinigwyr hefyd i ymgymryd â swyddogaethau goruchwylio.

O ganlyniad i'r gwelliant hwn i swyddogaeth y ddesg cymorth clinigol, llwyddodd gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddatrys dros 16,000 o alwadau dros y ffôn rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Mawrth 2019. Mae hyn wedi golygu bod miloedd o bobl yn cael eu trin yn y gymuned heb fod angen mynd â nhw i ysbyty. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru ar hyn o bryd yn ystyried y lefelau staffio gorau posibl i'w alluogi i ymdrin â hyd at 12 y cant o gleifion dros y ffôn.

Er i'r adolygiad ganfod bod y mwyafrif clir o bobl yn teimlo bod cael yr ymateb gorau i'w cyflwr yn bwysicach, hyd yn oed os nad dyma'r ymateb cyflymaf, cydnabuwyd y gall aros am ambiwlans fod yn amser pryderus i gleifion a'u teuluoedd. Er mwyn gwella'r dewis i gleifion a lleihau pryderon cleifion, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi cyflwyno sgript newydd ar gyfer y rhai sy'n derbyn galwadau ar adegau o alw uchel i helpu i roi syniad i alwyr pa mor hir y gallant ddisgwyl aros cyn cael ymateb.

Bydd y defnydd o'r sgript newydd yn cael ei fonitro a'i adolygu gyda'r bwriad o'i gyflwyno'n ehangach. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r cyhoedd er mwyn ategu ei ddealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i gleifion. Mae tîm y rhaglen hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau iechyd cymuned, y Gymdeithas Strôc a'i grwpiau cleifion lleol, a phartneriaid GIG Cymru i ddatblygu mesurau sy'n rhoi mwy o gyd-destun i amseroedd ymateb ambiwlansys i bobl sy'n cael strôc. Rwy'n disgwyl i'r rhain fod ar gael ar gyfer gaeaf 2019-20. Bydd unrhyw fesurau a ddatblygir yn cael eu cynllunio i'w hadrodd i'r cyhoedd.

Atgyfnerthodd yr adolygiad oren fod yn rhaid i'r gwasanaeth ambiwlans sicrhau bod yr adnoddau sydd wedi'u cynllunio yn ddigonol i ateb y galw disgwyliedig. Mae'r ymddiriedolaeth wedi comisiynu adolygiad o gapasiti a galw i lywio'r gwaith o gyflunio adnoddau a staffio ledled Cymru yn y dyfodol, ac i wella cydnerthedd gwasanaethau yn ystod cyfnodau o alw uchel. Disgwylir i'r adolygiad gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi eleni, a chaiff ei ystyried yng nghyfarfod y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys ym mis Hydref.

Ar hyn o bryd, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru yn cynnal ymarfer mapio i ddangos pa wasanaethau sydd ar gael ledled Cymru. Dylai hyn helpu i nodi lle y ceir gwasanaethau y gellid ac y dylid eu gweithredu i gefnogi gwaith ar osgoi derbyn i ysbytai. Rwy'n disgwyl i'r ymarfer mapio hwn fod yn gatalydd ar gyfer mwy o gysondeb o ran llwybrau gofal ledled Cymru.

Mae'n amlwg bod rhagor o waith i'w wneud o hyd i helpu i gyflawni argymhellion yr adolygiad oren. Fodd bynnag, mae camau cynnar wedi'u cymryd i leihau amserau ymateb nodweddiadol i alwadau oren, i leihau amseroedd aros rhy hir i gleifion, ac i wella'r profiad i rai o aelodau mwyaf agored i niwed ein cymunedau.

Byddaf, wrth gwrs, yn hapus i roi diweddariad pellach i'r Aelodau yn yr Hydref.