Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 4 Mehefin 2019.
Gweinidog, hoffwn ddiolch ichi am eich datganiad heddiw am yr adolygiad oren, sy'n dangos gwelliannau cadarnhaol yn fy marn i. Rydym wedi edrych ar hyn o'r blaen, dros y misoedd diwethaf. Mae gennyf rai cwestiynau ac, wrth gwrs, nid ydym ni byth yn mynd i allu trafod yr adroddiad oren heb grybwyll yr hyn sy'n digwydd i bobl sy'n dioddef strôc.
Nawr, rydych chi eisoes wedi sôn eich bod yn gweithio gyda'r gwahanol sefydliadau a'r gwasanaeth ambiwlans i ystyried hynny, ond rwy'n credu mai fy mhryder i yw hyn: rwy'n cofio'n glir cyfarfod a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru gyda gwasanaeth ambiwlans Cymru a gyda llefaryddion y gwrthbleidiau, tua thair blynedd yn ôl, i drafod, pryd y gwnaed y newidiadau i'r meini prawf coch, oren a gwyrdd gyntaf. Ac roedd yr holl sôn am lwybrau clinigol, a pha mor anhygoel o bwysig oedd hi, pe byddai rhywun yn cael strôc, na fyddai angen iddo fynd i'r categori coch oherwydd y byddai'n gallu dilyn llwybr clinigol a fyddai'n dod ag ef yn syth at y drws neu at y gwely lle'r oedd angen iddo fod er mwyn goroesi strôc—ac nid dim ond i'w oroesi, ond i'w oroesi'n dda, sy'n bwynt pwysig iawn, rwy'n credu, i'w wneud.
Eto i gyd, pan fyddaf yn siarad â staff ambiwlans a'r gwasanaeth ambiwlans, maen nhw'n dweud nad yw'r llwybrau clinigol hyn yn bodoli o hyd, mewn gwirionedd. Mae staff yn dweud wrthyf o hyd eu bod yn mynd â rhywun yn y pen draw, eu bod yn dal i fynd drwy'r adran achosion brys neu'r uned derbyniadau critigol, a'u bod yn dal heb ddatblygu'r llwybrau i'w cael i'r lle iawn yn ddigon cyflym. Felly, roeddwn i eisiau gofyn ichi efallai roi ychydig mwy o esboniad am yr adolygiad hwn, ynglŷn â sut y bydd yn cael ei ddehongli. Ac a fyddwch chi'n rhoi eich ffydd yn y Gymdeithas Strôc, sydd bellach yn gofyn i Gymru ddatblygu'r dull a ddefnyddir gan y GIG yn Lloegr, lle bydd system newydd yn eich tracio chi o'r alwad gyntaf i'r gwasanaeth 999 i gael y driniaeth briodol, a gosod targed i hynny? Oherwydd, rwy'n credu, os nad ydym ni byth yn mynd i roi pobl sy'n dioddef strôc yn y categori coch hwnnw, neu os nad ydych chi byth yn mynd i'w rhoi yn y categori hwnnw, mae'n rhaid bod yna sefyllfa wrth gefn sy'n eu diogelu, oherwydd fe wnes i'r pwynt yn gynharach—ac rwy'n mynd i'w ddweud eto, oherwydd rwy'n credu ei fod yn hanfodol—nid yw goroesi'n ddigon da, ond mae'n rhaid i ni ei oroesi'n dda.
Ac, wrth gwrs, nid dim ond strôc sydd â llwybrau clinigol; mae nifer o feysydd clir iawn lle y gall pobl sydd ar ymateb oren fynd drwy lwybr clinigol yn syth i'r man lle y mae angen iddyn nhw fod, yn hytrach na thagu ein hadrannau brys sydd eisoes o dan bwysau. A oes gennych chi farn ynghylch pryd y bydd y llwybrau clinigol hyn yn dwyn ffrwyth o'r diwedd—cawsant eu trafod dair blynedd yn ôl—a sut y cânt eu nodi? A, choeliwch fi, Gweinidog, rwyf wedi cyflwyno rhai ceisiadau rhyddid gwybodaeth i fyrddau iechyd, i wasanaeth ambiwlans Cymru a rhai cwestiynau cyffredin i chi er mwyn ceisio mynd at wraidd y mater hwn, ac ni all neb, neb o gwbl, fynd at wraidd y mater. Felly, rwy'n credu nad yw'r wybodaeth ar gael, a hoffwn gael sicrwydd gennych y gallwch chi wneud rhywbeth ynghylch hyn, i sicrhau cysondeb ac ansawdd yn y gallu i gael gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru ar gyfer pobl yr adolygiad oren sy'n mynd drwy lwybrau clinigol. Mae eich datganiad yn crybwyll yn fyr iawn, iawn y ffaith ein bod yn mynd i fod yn gwneud ymarfer mapio i edrych ar adnoddau ac i ystyried materion eraill er mwyn, yn y bôn, os mynnwch chi, ddiogelu gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer y dyfodol wrth symud ymlaen. Roeddwn i'n synnu'n fawr na wnaethoch chi sôn ryw lawer am y staff yn hyn o beth, oherwydd, wrth gwrs, boed yn goch, yn oren neu'n wyrdd, mae angen i'r staff fod yno i wneud y gwaith ac mae salwch staff yn un o'r pwysau mwyaf ar Ymddiriedolaeth y GIG. Chwe mis yn ôl gwnaethoch ddweud eich bod yn disgwyl i Ymddiriedolaeth y GIG weithio gyda phartneriaid i gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael â hyn, ac eto mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos cynnydd o 1 y cant arall mewn absenoldeb oherwydd salwch, sy'n llawer mwy na nifer absenoldebau byrddau'r GIG. Felly, pa mor gyflym y byddech chi'n disgwyl gweld newidiadau o ran rheoli absenoldebau staff? Pa mor gyflym y byddech chi'n disgwyl gweld cymorth yn cael ei roi i'r gweithlu ambiwlans i'w ddefnyddio i ostwng y gyfradd absenoldeb? A wnewch chi amlinellu'r rhwystrau i ymdrin yn gyflym â'r rhesymau sydd y tu ôl i gyfraddau uchel o absenoldeb staff yn yr ymddiriedolaeth? Ac a fyddwch chi'n gallu rhoi syniad inni pryd y gallech chi ddod yn ôl atom ni â newyddion cadarnhaol am y mater penodol hwn?
Yn olaf, gwn nad yw'n gyfan gwbl o fewn cylch gwaith yr adolygiad oren yn unig, ond ni allwn siarad am y ffordd yr ydym ni'n darparu gofal coch, gofal oren a gofal gwyrdd o ansawdd da gan wasanaeth ambiwlans Cymru heb grybwyll yr amseroedd aros a welwn yn ein hadrannau achosion brys. Mae criwiau ambiwlans yn dal i nodi oedi sylweddol o ran trosglwyddo cleifion i'r ysbyty. Hoffwn wybod, Gweinidog, pa strategaeth yr ydych chi'n ei defnyddio i sicrhau bod byrddau iechyd a'r ymddiriedolaeth yn gweithredu'r camau ar unwaith yr oeddech chi'n eu disgwyl chwe mis yn ôl. Rydym ni eisoes yn gwybod ein bod ni'n colli miloedd ar filoedd ar filoedd o oriau staff i'r broses o drosglwyddo cleifion o ambiwlansys. Heno, bydd ITV Cymru yn darlledu adroddiad bod gwasanaeth ambiwlans Cymru yn colli'r hyn sy'n cyfateb i 15 o shifftiau ambiwlans llawn y dydd y tu allan i adrannau achosion brys, a bod criwiau wedi treulio 65,000 o oriau yn 2018 yn aros i ollwng cleifion mewn ysbytai, ac rydym yn clywed hanesion am gleifion sydd ar alwad oren yn cyrraedd yr ysbyty o'r diwedd, yn cael eu derbyn i gael triniaeth ac yna'n cael eu rhoi yn ôl yn yr ambiwlans gan nad oes unman arall iddyn nhw fynd. Felly, byddai gennyf i ddiddordeb mawr mewn gwybod beth fyddech chi'n gallu ei wneud i geisio cywasgu'r amser hwnnw. Rydych chi'n sôn yn eich datganiad am y ffaith eich bod yn teimlo bod hyn yn gwella, ond mae arnaf ofn nad yw'r ystadegau'n cadarnhau'r haeriad hwnnw'n dda iawn.