Part of the debate – Senedd Cymru am 7:15 pm ar 5 Mehefin 2019.
Ond yn ôl adroddiad newydd gan y sefydliad Rewilding Britain, gallai cymaint â chwarter tir y DU gael ei adfer i natur heb ostyngiad canlyniadol i gynhyrchiant bwyd nac incwm ffermydd. Ac mae'r grŵp yn galw am wario biliynau o bunnoedd mewn cymorthdaliadau fferm ar greu coetiroedd a dolydd brodorol, ac ar ddiogelu mawnogydd a morfeydd heli. Yn ogystal â helpu bywyd gwyllt, maent yn honni y gallai'r cynllun ostwng allyriadau carbon ein gwlad i sero.
Ddoe, cyhoeddodd y Gweinidog ymateb polisi Llywodraeth Cymru i'w hymgynghoriad 'Brexit a'n tir', ac wrth ei wraidd mae'r egwyddor fod yn rhaid i arian cyhoeddus gefnogi nwydd cyhoeddus, nid budd preifat. Y peth pwysicaf yw diffinio beth yw nwydd cyhoeddus. Cynllun Rewilding Britain yw gosod dal a storio carbon yn ganolog fel model o daliadau sy'n gweld gwerth dal a storio carbon mewn gwahanol ecosystemau a adferwyd er mwyn lliniaru newid hinsawdd yn hirdymor. Mewn geiriau eraill, golyga hynny ddad-ddofi wedi'i reoli, nid esgeuluso rhannau o'n cefn gwlad. Roedd tua hanner y 12,000 a ymatebodd i 'Brexit a'n tir' yn cefnogi argymhellion y Llywodraeth ar gyfer taliadau yn seiliedig ar ganlyniadau ac ar gyfer mwy o bwyslais ar ganlyniadau amgylcheddol. Nid oedd yr hanner arall, ffermwyr yn bennaf, yn eu cefnogi. Mae angen inni eu hargyhoeddi â'r dadleuon hynny.
O ran yr ucheldiroedd, roedd rhai'n cydnabod y peryglon o ddadstocio, tra bod eraill yn tynnu sylw at y manteision amgylcheddol enfawr posibl. Roedd un ymatebydd yn bryderus y byddai Cymru, mewn 20 mlynedd, yn 'genedl o geidwaid parciau'. Ni allwch blesio pawb drwy'r amser, a nododd un ymatebydd fod angen ewyllys wleidyddol a dewrder enfawr i ddarparu cynllun nwyddau cyhoeddus beiddgar. Rydym eisoes wedi cael model o'r hyn y gallai hynny ei olygu yng nghanolbarth Cymru. Bydd prosiect O'r Mynydd i'r Môr yn dwyn ynghyd un ardal sy'n gyfoethog o ran ei natur, yn ymestyn o fasiff Pumlumon—yr ardal uchaf yng nghanolbarth Cymru—i lawr drwy gymoedd coediog i aber afon Dyfi ac allan i fae Ceredigion. O fewn pum mlynedd, bydd yn cynnwys o leiaf 10,000 hectar o dir a 28,400 hectar o fôr. Rwy'n crwydro oddi ar y testun braidd, ond mae'n ymddangos i mi mai llwyddiant mawr prosiect llwybr arfordir Cymru oedd dod o hyd i ffordd o gysylltu'r holl hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau caniataol a negodi mynediad newydd i dir preifat. Drwy wneud hynny, erbyn hyn gall pobl fwynhau 870 o filltiroedd di-dor o gerdded o Gas-gwent i Queensferry, os yw'r stamina ganddynt.
Pam na allwn ni wneud rhywbeth tebyg ar gyfer bywyd gwyllt? Rhowch ryddid iddo grwydro, nid ei ynysu mewn pocedi. Mae O'r Mynydd i'r Môr yn profi sut y byddai'r partneriaethau hynny rhwng amryfal ddaliadau tir a thaliadau am nwyddau cyhoeddus yn gweithio ar raddfa fawr. Beth bynnag yw'r strategaeth, rhaid inni wneud rhywbeth a rhaid inni wneud hynny yn awr. Mae Prydain yn un o'r gwledydd lle mae natur wedi dihysbyddu fwyaf yn y byd. Rydym yn fwy ffodus na'r rhan fwyaf yn y wlad hon—mae Cymru'n cynnal cyfran fawr o boblogaeth y DU o lawer o rywogaethau adar sy'n magu ac yn gaeafu, er enghraifft, ac yn wahanol i Loegr, nid ydym yn lladd un o'n hychydig famaliaid brodorol en masse, sef moch daear. Fodd bynnag, rydym wedi gweld dirywiad dramatig hefyd. Dengys adroddiad 2016 ar gyflwr byd natur fod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu a bod niferoedd bron i draean o'r adar yma yn lleihau'n sylweddol. Ar draws y DU, mae 56 y cant o rywogaethau wedi dirywio ers 1970.
Ond nid yw'n ymwneud â'r syniadau mawr; bob dydd, mae newidiadau bach yn hanfodol hefyd. Ychydig wythnosau'n ôl, cyfarfûm â Pauline Hill, swyddog pobl a bywyd gwyllt gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru yn Aberhonddu, a buom yn siarad am dri phrosiect bywyd gwyllt yn Ystradgynlais yn yr ysbyty, y llyfrgell a rhandiroedd Penrhos. Daeth y cynllun swyddogol i ben y llynedd, ond mae eu gwaddol yn parhau yn y gymuned a thrwy ymgysylltu, ac yn cynnig manteision amgylcheddol. Drwy gydol mis Mehefin, mae'r ymddiriedolaeth bywyd gwyllt yn annog pobl i wneud rhywbeth gwyllt bob dydd, fel rhan o'i her 30 Diwrnod Gwyllt. Gallwn i gyd wneud ein rhan, yn enwedig yn yr 1.4 y cant o Gymru a ddiffinnir fel mannau trefol gwyrdd, parciau a gerddi. Mae'r ardaloedd hynny'n hanfodol i fywyd gwyllt, nid yn unig er mwyn cynnal bioamrywiaeth, ond fel mannau cysylltu â'r 60 y cant o dir a ffermir, a'r 35 y cant sy'n ofod naturiol—rhosydd, coedwigoedd, llynnoedd, glaswelltiroedd, ac ati. Treuliais y bore yma ar do'r Pierhead, yn ymweld â'r gwenyn. Er enghraifft, maent hwy, yn eu tro, yn bwydo ar yr ardaloedd bywyd gwyllt a blannwyd yn yr ysgolion lleol. Yr un syniad sydd wrth wraidd menter coridorau gwyrdd Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnffyrdd a thraffyrdd. Ond fel y dywedais, mae 95 y cant o Gymru yn cynnwys tir fferm a thir naturiol, felly dyna lle gallwn, a lle mae'n rhaid inni wneud y gwahaniaeth mwyaf. Ac os ydym o ddifrif ynglŷn â defnyddio arian cyhoeddus i ddarparu nwydd cyhoeddus, mae dad-ddofi'n rhan o'r ateb mawr, beiddgar a dewr sydd ei angen arnom.