Part of the debate – Senedd Cymru am 7:12 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o arwain y ddadl fer heddiw ac wrth fy modd yn rhoi amser i fy nghyd-Aelodau, John Griffiths a Llyr Gruffydd. Edrychaf ymlaen at eu cyfraniadau, ac wrth gwrs, at ymateb y Gweinidog. Heddiw yw Diwrnod Amgylchedd y Byd, ac eleni yn arbennig mae'n teimlo fel pe bai'n dod ar adeg bwysig. Rydym wedi gweld protest Extinction Rebellion a'r streiciau ysgol a ysbrydolwyd gan Greta Thunberg. Protestiodd cannoedd o bobl ifanc y tu allan i'r Cynulliad hwn ym mis Chwefror fel rhan o fudiad ieuenctid byd-eang y streiciau hinsawdd. Ar yr un pryd, mae pobl wedi bod yn gwylio cyfres newydd David Attenborough ar y BBC ar y newid hinsawdd ac yn mynnu camau gwleidyddol ledled Ewrop. Mae'n ymddangos bod rhywbeth pwysig iawn yn digwydd. Mae Llywodraeth Cymru ar flaen y gad. Mae wedi datgan argyfwng hinsawdd. Dywedodd y Gweinidog ei bod yn gobeithio y bydd y datganiad yn sbarduno ton o weithredu. Ddoe gwelsom hynny pan gyhoeddodd y Prif Weinidog na fydd ffordd liniaru'r M4 yn mynd yn ei blaen oherwydd bod yn rhaid inni roi mwy o bwyslais ar y ddadl amgylcheddol. Mae'r hyn a ddywedodd John Prescott yn enwog:
Cyflawniad Llafur yw'r llain las, a bwriadwn adeiladu arno.
Wel, mae datgan argyfwng hinsawdd yn un o bolisïau mawr Llafur Cymru, a heddiw rwyf am adeiladu ar hynny drwy siarad am ddad-ddofi.
Mae dad-ddofi'n bwnc llosg, ac yn un dadleuol. A siarad yn fras, mae'n ymwneud ag adfer tirweddau i'w cyflwr naturiol, a thrwy hynny greu cynefinoedd mwy gwyllt a bioamrywiol. Mae'n tueddu i fachu'r penawdau pan fydd anifeiliaid rheibus yn cael eu hailgyflwyno, anifeiliaid fel eirth a bleiddiaid. Yma yng Nghymru, mae'r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn arwain prosiect afancod Cymru, sy'n ymchwilio i ddichonoldeb ailgyflwyno afancod gwyllt. Mae'r Alban eisoes wedi cydnabod bod afancod yn rhywogaeth frodorol, ac wedi sefydlu rhaglen reoli ac amddiffyniadau cyfreithiol. Y cynllun i Gymru, a gyflwynwyd i Cyfoeth Naturiol Cymru gan Ymddiriedolaeth Bevis yn 2015, yw sefydlu 10 pâr ar hyd afon Cowyn a Nant Cennin yn Sir Gaerfyrddin. Hyd yn hyn, mae 50 o ffermwyr a thirfeddianwyr ar hyd yr afon wedi cytuno i gefnogi rhyddhau afancod neu ganiatáu monitro. Ond wrth gwrs, gall ildio mwy o dir i natur, yn hytrach na'i ddefnyddio i dyfu cnydau neu fagu da byw, fod yr un mor ddadleuol ag ailgyflwyno anifeiliaid.