Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 5 Mehefin 2019.
Dyna'r pwynt ynglŷn â'r hyn rydym yn ceisio'i gyflawni: gwasanaeth sydd o ddifrif wedi'i gynllunio o amgylch anghenion yr unigolyn; bydd deall yr anghenion hynny'n wahanol yn dibynnu ar yr unigolyn, nid y cyflwr. Rydych yn gweld yr unigolyn, nid y cyflwr, a dyna sut y dylid cyflawni pob agwedd ar ofal iechyd. Rwy'n cydnabod bod mwy i'w wneud ar rai agweddau nag eraill. Mewn egwyddor, buaswn yn fwy na pharod i fynychu un o gyfarfodydd y grŵp trawsbleidiol yn y dyfodol. Rwyf eisoes yn cyfarfod â'r gynghrair cyflyrau niwrolegol, ac rwy'n cydnabod, er yr holl waith rhagorol sy'n mynd rhagddo yn ein gwasanaeth, fod angen newid a diwygio bob amser. Rhan o fy rhwystredigaeth yw nad ydym yn newid mor gyson ag yr hoffem, fel y mae'r bobl rydym yn eu gwasanaethu yn ei haeddu.