Cymorth ar gyfer Pobl â Nychdod Cyhyrol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 5 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:27, 5 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ychwanegu at bwynt Bethan, Weinidog? Mae pob un ohonom wedi cael gwaith achos yn y maes hwn, a dro ar ôl tro, mae pobl â dystroffi cyhyrol neu gyflyrau niwrogyhyrol eraill yn pwysleisio pwysigrwydd swyddi arbenigol fel nyrsys arbenigol sy'n gallu hyfforddi staff meddygol arall, ond sydd hefyd yn galluogi pobl i fyw gyda chyflyrau a all bara am flynyddoedd lawer, degawdau weithiau. Mae gwir angen inni weld cynnydd yn nifer y swyddi arbenigol.